Neidio i'r prif gynnwy

Wrecsam

Gall pobl ifanc sy'n gymwys ar gyfer brechlyn meningitis B alw heibio un o'n clinigau brechu yn y gymuned yn Wrecsam ar gyfer eu dos cyntaf neu ail ddos heb drefnu apwyntiad

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am leoliadau ein clinigau a dyddiadau ac amseroedd y sesiynau brechu galw heibio isod. 

Mae'r brechlyn ar gael ar gyfer:

  • pob unigolyn 17 a 18 oed a anwyd rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008
  • pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed (anwyd rhwng 21 Gorffenaf 2001 a 31 Awst 2007) a fydd yn dechrau cwrs prifysgol neu goleg preswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn

Mae angen dau ddos o'r brechlyn i'ch amddiffyn eich hun yn llawn. Byddwch yn cael apwyntiad ar gyfer ail ddos ar ôl derbyn eich un cyntaf, fel arfer, rhyw bedair wythnos yn ddiweddarach. Sicrhewch eich bod yn cael y ddau ddos.

Os cawsoch eich geni ar 31 Awst 2007 neu cyn hynny, dewch â thystiolaeth bod disgwyl i chi ddechrau ar flwyddyn gyntaf cwrs preswyl mewn prifysgol neu goleg yr hydref hwn (e.e. copi o'ch cynnig neu lythyr cynnig dros dro). Bydd pobl ifanc sydd wedi colli brechiadau eraill a argymhellir hefyd yn cael cynnig y cyfle i ddal i fyny yn y clinigau hyn.

Er mwyn trefnu apwyntiad brechu, aildrefnu apwyntiad neu ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechu ar 03000 840004 neu e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk. Mae'r ganolfan gyswllt ar agor rhwng 9.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau banc.

 

Canolfan Brechu Plas Gororau, Wrecsam

Ffordd Ellice, Parc Technoleg Wrecsam  LL13 7YY

Cynhelir clinigau galw heibio brechu ar gyfer pobl ifanc yng Nghanolfan Brechu Plas Gororau ar y dyddiadau canlynol.
Bydd clinigau'n cau am ginio rhwng 12.50pm a 1.45pm.

  • Dydd Gwener Hydref 2, rhwng 10am a 5pm
  • Dydd Mawrth Hydref 6, rhwng 10am a 5pm
  • Dydd Mercher Hydref 7, rhwng 10am a 5pm
  • Dydd Iau Hydref 8, rhwng 10am a 5pm
  • Dydd Mawrth Hydref 13, rhwng 10am a 5pm
  • Dydd Mercher Hydref 14, rhwng 10am a 5pm
  • Dydd Mawrth Hydref 20, rhwng 10am a 5pm
  • Dydd Mercher Hydref 21, rhwng 10am a 5pm
  • Dydd Iau Hydref 22, rhwng 10am a 5pm

Yn ystod amseroedd prysurach, efallai y bydd gofyn i bobl sy’n galw heibio heb apwyntiad aros cyfnod byr tan y bydd slot ar gael.

 

 

Gwesty Ramada

Ffordd Ellice, Parc Technoleg Wrecsam  LL13 7YY

Cynhelir clinigau galw heibio brechu ar gyfer pobl ifanc yn Gwesty Ramada yn Wrecsam ar y dyddiadau canlynol.
Bydd clinigau'n cau am ginio rhwng 12.50pm a 1.40pm.

  • Dydd Mawrth Hydref 27, rhwng 10.30am a 4.45pm
  • Dydd Gwener Hydref 30, rhwng 10.30am a 4.45pm
  • Dydd Mercher Tachwedd 4, rhwng 10am a 5pm
  • Dydd Iau Tachwedd 5, rhwng 10am a 5pm
  • Dydd Llun Tachwedd 9, rhwng 10am a 5pm
  • Dydd Mawrth Tachwedd 17, rhwng 10am a 5pm
  • Dydd Mercher Tachwedd 18, rhwng 10am a 5pm
  • Dydd Llun Tachwedd 23, rhwng 10am a 5pm
  • Dydd Gwener Tachwedd 27, rhwng 10am a 5pm
  • Dydd Llun Tachwedd 30, rhwng 10am a 5pm

Yn ystod amseroedd prysurach, efallai y bydd gofyn i bobl sy’n galw heibio heb apwyntiad aros cyfnod byr tan y bydd slot ar gael.