Neidio i'r prif gynnwy

Eich pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19

Mae'r bobl sy'n wynebu'r risg uchaf o salwch difrifol oherwydd COVID-19 yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref o fis Medi 2023 ymlaen. 

Fel mewn ymgyrchoedd blaenorol, bydd pobl sy'n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref yn cael gwahoddiad i fynychu apwyntiad yn un o'n canolfannau brechu cymunedol neu eu meddygfa.

Byddwn yn anfon gwahoddiadau i apwyntiadau brechu yn seiliedig ar argaeledd brechlynnau ac angen clinigol. Arhoswch i dderbyn gwahoddiad i dderbyn eich brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref, yn hytrach na ffonio i drefnu.   

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich amddiffyn!

Y gaeaf hwn efallai y byddwn yn gweld COVID-19 a’r ffliw yn lledaenu ar yr un pryd, felly mae’n arbennig o bwysig cael ein hamddiffyn.

Gallwch wirio a ydych yn gymwys ar gyfer brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref, a chael mwy o fanylion am sut y byddwch yn ei dderbyn, trwy'r ddolen isod.

 

Pàs COVID y GIG

Mae gwasanaeth Pàs COVID y GIG bellach wedi cau. Gwelwch rhagor o wybodaeth yma.

 

Ymholiadau

Ar gyfer ymholiadau am apwyntiad yr ydych wedi'i dderbyn, ffoniwch 03000 840004

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol eraill am y rhaglen frechu COVID-19, e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk

Mae Canolfan Gyswllt Brechu Covid-19 ar agor rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 2pm o ddydd Sadurn a ddydd Sul.