Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau i ferched beichiog

Mae merched sy'n feichiog yn cael gwahoddiad i gael brechiadau ychwanegol er mwyn amddiffyn ei hunain a'r babi sydd heb ei eni.

Mae’r brechlynnau hyn yn ddiogel i ferched sy'n feichiog a byddant yn amddiffyn eich iechyd a’ch lles – ac iechyd a lles eich plentyn – tra byddwch yn feichiog.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am frechiadau yn ystod beichiogrwydd, cysylltwch â'ch bydwraig gymunedol.

 

Brechlyn pertwsis (y pas)

Mae pob mam feichiog yn cael cynnig brechiad pertwsis o wythnos 16 eu beichiogrwydd er mwyn helpu amddiffyn babanod newydd-anedig rhag y pas nes eu bod yn ddigon hen i gael imiwneiddiadau arferol pan fyddant yn wyth wythnos. 

Fel arfer, mae merched sy'n feichiog yn cael eu brechlyn pertwsis fel rhan o'u gwiriadau iechyd yn ystod beichiogrwydd yn eu meddygfa.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â'ch brechlyn pertwsis, cysylltwch â'ch bydwraig gymunedol.

 

Eich Brechlyn RSV

Mae feirws synyctiol anadlol (RSV) yn effeithio ar y frest a'r ysgyfaint, a gall achosi salwch difrifol iawn i blant ifanc

O fis Medi 2024, bydd brechlyn rhag RSV yn cael ei gynnig i ferched sy'n feichiog ers 28 wythnos neu fwy. Bydd y brechlyn hwn yn helpu i amddiffyn eich babi newydd rhag RSV pan fydd ar ei fwyaf agored i’r feirws.

 

Brechlynnau ffliw a COVID-19

Mae merched sy'n feichiog yn gymwys i gael brechlyn ffliw tymhorol y GIG am ddim. Mae’r brechlyn hwn yn helpu i'ch amddiffyn chi rhag y ffliw a'r heintiau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r ffliw yn ystod datblygiad eich babi. Mae hefyd yn amddiffyn aelodau eraill o’r teulu a’r gymuned ehangach sy’n agored i niwed.

Fel arfer, mae merched sy'n feichiog yn cael eu brechlyn ffliw yn eu meddygfa fel rhan o'u gwiriadau iechyd beichiogrwydd. Fel arfer byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu apwyntiad yn eich meddygfa.

Mae menywod beichiog hefyd yn gymwys i gael brechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19. Mwy o wybodaeth am frechu rhag COVID-19 yn ystod beichiogrwydd, gan gynnwys cwestiynau cyffredin.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn gwahoddiadau i gael y brechlynnau hyn er mwyn gwella eich amddiffyniad rhag salwch difrifol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y brechlynnau, cysylltwch â'ch bydwraig gymunedol.

 

Brechiadau ar gyfer gwaith

Mae llawer o weithleoedd yn gofyn i weithwyr wneud yn siŵr eu bod wedi cael y brechiadau arferol i leihau'r risg o salwch neu afiechyd.

Mae rhai cyflogwyr yn gofyn i weithwyr gael brechiadau ychwanegol er mwyn cynyddu eu hamddiffyniad. Efallai y bydd angen rhagor o frechiadau ar gyfer rhai swyddi risg uwch.

Mae cyngor ar y brechiadau a argymhellir ar gyfer eich swydd ar gael gan eich cyflogwr neu’ch adran iechyd galwedigaethol.

 

Brechiadau eraill

Mae’n bosibl y bydd angen brechiadau ychwanegol neu ddosau ychwanegol o rai brechiadau ar rai unigolion sydd â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes neu sy’n agored i risg uwch o salwch, i’w hamddiffyn rhag mynd yn sâl.

Mae arweiniad a chymorth fesul achos i unigolion â chyflyrau sy'n bodoli eisoes neu ffactorau risg ychwanegol ar gael gan eich meddygfa neu dîm arbenigol.