Mae ffliw yn salwch anadlol difrifol sy'n effeithio ar yr ysgyfaint a'r llwybrau anadlu. Gall arwain at gyflyrau difrifol fel broncitis a niwmonia, a all fod angen triniaeth ysbyty.
Gall y ffliw arwain at ganlyniadau iechyd difrifol i lawer o’r bobl fwyaf agored i niwed.
Y ffordd orau o amddiffyn rhag y ffliw yw cael y brechlyn ffliw blynyddol. Gall y brechlyn eich atal rhag cael y ffliw a gall leihau difrifoldeb y symptomau os byddwch yn cael y ffliw.
Y gaeaf hwn efallai y byddwn yn gweld COVID-19 a ffliw yn cylchredeg ar yr un pryd, felly mae'n arbennig o bwysig cael eich amddiffyn.
Mae brechlynnau ffliw yn gyflym ac yn ddiogel iawn. Gallant atal wythnosau o salwch difrifol, a’ch diogelu chi, eich teulu a’r gymuned ehangach.