Neidio i'r prif gynnwy

Bod yn actif

Mae bod yn actif yn bwysig iawn ar gyfer ein hiechyd a'n lles

Mae bod yn actif yn helpu i'n hamddiffyn rhag amrywiaeth o gyflyrau iechyd gan gynnwys clefyd y galon, canser, cyflyrau cyhyrysgerbydol, diabetes a dementia, ac mae'n ffordd wych o wella iechyd meddwl a lles. Mae symud ein cyrff a bwyta’n iach yn ein helpu i gadw pwysau iach.

Dylai plant, pobl ifanc ac oedolion anelu at fod yn actif bob dydd. Dylai'r math o weithgareddau y byddwch chi’n cymryd rhan ynddynt wneud i chi anadlu'n gyflymach a theimlo'n gynhesach.

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi fod yn actif. Gallech roi cynnig ar y canlynol:

  • cerdded yn gyflym 
  • garddio
  • dawnsio
  • gwersi ar-lein
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau neu chwaraeon newydd
  • reidio beic

Gweithgarwch corfforol

Mae diffyg gweithgarwch corfforol yn golygu nad ydych chi'n symud eich corff am gyfnodau hir. Gall hyn arwain at broblemau iechyd difrifol fel pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel, diabetes math 2, a bod dros bwysau. Mae’r rhain i gyd yn cynyddu'r risg o broblemau'r galon a chylchrediad y gwaed.

Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd yn gallu helpu i leihau'r risgiau hyn a gwella eich iechyd yn gyffredinol. Mae bod yn egniol yn cynnwys unrhyw weithgaredd sy'n codi cyfradd curiad eich calon, fel rhoi dillad ar y lein, cerdded neu gymryd rhan mewn chwaraeon. Dylech fod yn gallu cynnal sgwrs tra byddwch chi’n egnïol.

Mae cadw'n egnïol yn gwella eich lles cyffredinol yn ogystal ag amddiffyn eich calon. Dechreuwch gynnwys mwy o symud yn eich trefn ddyddiol i helpu i wella eich iechyd a lles cyffredinol.

Am ragor o wybodaeth am gyngor iechyd a lles ewch i adran Cyngor Iechyd ein gwefan. 

Os nad ydych chi’n actif ar hyn o bryd

Os nad ydych chi’n actif ar hyn o bryd ac yn poeni am ddechrau ymarfer corff yn ddiogel, ystyriwch siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol am y mathau o weithgareddau y gallwch chi roi cynnig arnynt.
 

Os ydych chi'n feichiog neu'n ystyried dechrau teulu

Os ydych chi'n feichiog neu eisiau dechrau teulu, dydy hi byth yn rhy hwyr i ddechrau bod yn actif neu ystyried ymarfer corff llai heriol. Ewch i'n tudalennau Dechrau Gorau i gael gwybodaeth am sut i gadw'ch hun yn iach cyn, yn ystod ac ar ôl bod yn feichiog.
 

Os oes gennych chi anabledd

Sefydlwyd Llwybr Gweithgarwch Iechyd Anabledd GIG Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru i gefnogi pobl anabl i fod yn fwy actif. Siaradwch â'ch cyswllt Llwybr Gweithgaredd Anabledd Iechyd lleol i gael gwybod sut y gallwch chi neu rywun yr ydych chi’n gofalu amdanynt, ddod o hyd i weithgareddau cynhwysol ac anabledd-benodol yn eich cymuned.

 

Trwy wneud newidiadau bach, gallwch chi wneud gwahaniaeth mawr

Wyddoch chi fod bron i ddau o bob tri o bobl yng Ngogledd Cymru yn gwneud ymarfer corff yn rheolaidd? Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddechrau bod yn actif.

 

Mae pob symudiad yn cyfrif

Gall peidio â symud am gyfnodau hir o amser (neu fod yn segur) fod yn ddrwg i'ch iechyd, a gall gynyddu eich risg o ddatblygu cyflyrau iechyd difrifol.

Os oes gennych chi boen, neu os yw eich hwyliau'n isel, mae bod a chadw'n heini yn gallu helpu, a gallai fod yn bwysicach fyth i'ch lles.

Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i fod yn actif yn ddiogel:

  • symudwch mewn ffordd reoledig, gan ymlacio eich cyhyrau cymaint â phosibl
  • sylwch ar eich anadl wrth wneud gweithgaredd, a cheisiwch osgoi dal eich gwynt
  • gwnewch bethau'n raddol, gan rannu tasg yn ddarnau llai
  • cymrwch saib yn rheolaidd
  • cynlluniwch eich gweithgareddau ymlaen llaw a gwasgarwch eich ymarfer corff dros gyfnod o wythnos neu sawl diwrnod
  • gosodwch nodau realistig i chi’ch hun
  • ceisiwch wneud eich gweithgareddau’n bleserus neu'n werth chweil
  • cynyddwch eich gweithgareddau'n araf dros amser, gan gynyddu'r anhawster neu’r hyd yn raddol
  • mae gwneud gweithgareddau ysgafn yn gallu eich helpu i deimlo'n well pan fo gennych chi boen - dechreuwch yn araf ac yn ysgafn bob amser, a chynyddwch lefel y gweithgareddau yn raddol 

Adnoddau a dolenni defnyddiol