Neidio i'r prif gynnwy

Gofal ac iechyd y fron yn ystod beichiogrwydd

Gall tynerwch a newidiadau i’r fron fod yn un o’r arwyddion cyntaf o feichiogrwydd. Mae eich bronnau yn profi newidiadau sylweddol yn ystod beichiogrwydd gan fod eich corff yn paratoi ar gyfer gwneud llaeth (llaetha) a bwydo eich babi. Mae’n bwysig i fod yn ‘ymwybodol o’ch bronnau’ yn ystod beichiogrwydd ac os ydych yn sylwi ar unrhyw newidiadau anarferol yn eich bron, eich bod yn trafod hynny gyda’ch bydwraig neu Feddyg Teulu.

Eich bronnau a’ch tethau

Mae eich bronnau yn cynnwys meinwe a dwythellau (chwarennol) sy'n cynhyrchu llaeth ac sy’n caniatáu’r llaeth i symud drwodd tuag at y teth. Mae’r rhain wedi’u hamgylchynu gan feinweoedd eraill megis braster, sy’n rhoi maint a siâp i’r bronnau. Gelwir yr ardal croen tywyllach sydd o gwmpas y teth yn areola. Ar yr areola mae bympiau bach wedi’u codi o’r enw chwarennau Montgomery, sy’n cynhyrchu hylif i leithio’r teth ac mae’n debyg i’r hylif sy’n amgylchynu’r babi yn y groth. Mae babi sydd newydd ei eni yn cael ei atynnu at yr arogl cyfarwydd hwn gan ei fod yn cynrychioli arogl cysurus y groth. Bydd babi sy’n cael ei osod ar frest neu abdomen y fam ar ôl ei enedigaeth yn ceisio mynd ati i symud tuag at y fron, drwy gael ei arwain gan ei synnwyr arogli.

Newidiadau i’r bronnau yn ystod beichiogrwydd

Mae newidiadau i’r fron yn ystod beichiogrwydd yn cael ei ysgogi gan hormonau sy’n paratoi’r fron ar gyfer gwneud llaeth a bwydo’r babi.

Newidiadau cyffredin i’r fron yw:

  • Cynnydd ym maint y fron, teth ac areola
  • Lliw tywyllach i liw’r tethau a’r areola
  • Tynerwch neu newid yn nheimlad y fron a’r teth.
  • Chwarennau Montgomery chwyddedig

Mae’r bronnau’n dechrau cynhyrchu llaeth yn ystod yr 16eg wythnos o feichiogrwydd. Nid yw’n anarferol i ferched beichiog sylwi ar ollyngiad bach o laeth (colostrwm) o’r tethau. Gall gwisgo pad ar gyfer y fron y tu mewn i’r bra helpu i amsugno’r gollyngiad hwn.

Yn ystod yr wythnosau olaf o feichiogrwydd, mae’r bronnau a’r tethau’n cynyddu mewn maint wrth i’r meinwe chwarennol gynyddu wrth aros am y llaetha a genedigaeth eich babi. Efallai y bydd eich bronnau’n teimlo’n drwm ac yn anghyfforddus ar adegau. Gall gwisgo bra sydd wedi’i ffitio’n dda ac sy’n cefnogi’n dda helpu lleddfu unrhyw anghysur. Gall gwisgo bra mamolaeth gefnogol math cwpan meddal dros nos eich helpu i gysgu'n fwy cyfforddus

Os yw eich bronnau’n ofnadwy o boenus, siaradwch â’ch bydwraig am gyngor ar strategaethau lleddfol. Enghraifft fyddai defnyddio padiau jel oeri y gallwch eu cadw’n barod yn yr oergell neu gymryd meddyginiaeth poen os yw’n angenrheidiol.

Dod o hyd i fra gyfforddus sy’n ffitio’n dda yn ystod beichiogrwydd

Sicrhewch nad yw eich bra yn rhy dynn neu gyfyngedig gan fod maint eich bron yn cynyddu yn ystod beichiogrwydd. Gallwch ymweld â siopau sydd â staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i fesur a gwirio maint eich bra. Gall bras nyrsio arbennig eich helpu chi gyda bwydo ar y fron, gallwch gael eich ffitio am y math hwn yn ystod eich misoedd olaf o feichiogrwydd.

Sut i wybod a yw'ch bra yn ffitio’n dda:

  • Dylai eich bronnau lenwi cwpan y bra, nad yw'n gadael ffabrig rhydd, ac yn dal y fron heb unrhyw chwydd ar y brig, y gwaelod na'r ochrau.
  • Teimlo’n gyfforddus heb y strap yn y cefn yn gwthio i mewn.
  • Ni ddylech fod angen addasu’r strapiau ysgwydd gan fod y bra yn symud gyda’ch symudiad.
  • Mae'r strap o amgylch y cefn a'r blaen yn agos ac yn gyfforddus i'ch corff - dylai hwn fod yr un lefel yn y blaen a'r cefn.
  • Dylai bra sydd ag weiren ynddi orwedd yn wastad yn erbyn eich corff ac yn amddiffyn eich bron heb wthio i mewn neu fod yn agored. 
  • Dylai eich bra ffitio ar y set fwyaf llac o fachau sy'n eich galluogi i'w thynhau wrth i'r bra ymestyn ymhen amser.

Lympiau ar y fron a gwaedu o’r teth

Gall lympiau ar y fron weithiau ddatblygu yn ystod beichiogrwydd. Y lympiau mwyaf cyffredin yw:

  • Codennau (sachau sydd wedi’u llenwi â hylif)
  • Galactoceles (codennau sydd wedi’u llenwi â llaeth)
  • Fibroadenomas (sy’n datblygu yn lobules y fron)

Mae’r rhain yn gyflyrau bron anfalaen (nad ydynt yn ganser). Os cawsoch fibroadenoma cyn yr oeddech yn feichiog, efallai y byddwch yn gweld bod hwn yn cynyddu mewn maint yn ystod beichiogrwydd.  

Er bod canser y fron mewn merched o oedran cael plant ac yn ystod beichiogrwydd yn anghyffredin, dylech gysylltu â’ch Meddyg Teulu bob amser os fyddwch yn sylwi ar lwmp newydd ar y fron neu’n profi newidiadau i lwmp sydd eisoes yn bodoli.

A yw’n normal profi gollyngiad gwaed o’ch teth yn ystod beichiogrwydd?

Mae eich bronnau angen cynnydd yn y cyflenwad gwaed fel y maent yn newid ac yn cynyddu mewn maint yn ystod beichiogrwydd. Efallai y bydd rhai merched yn profi gollyngiad gwaed o'r teth yn achlysurol. Er y gall hyn fod yn normal yn ystod beichiogrwydd, mae’n syniad da trafod unrhyw ollyngiad gwaed gyda’ch Meddyg Teulu.

Gall y cynnydd sylweddol yn y cyflenwad gwaed yn y fron weithiau arwain at staen brown o golostrwm cynnar - mae hyn yn gwbl normal a gellir ei fwydo'n ddiogel i'ch babi.

Y fron a chyflyrau hormonaidd

Mae ymchwil yn dangos bod llaetha/bwydo ar y fron yn lleihau’r risg o ddatblygu canser y fron. Yn benodol, mae llai o risg datblygu canserau negyddol triphlyg y fron ac ar gyfer y merched hynny sy'n cario mwtaniad risg uchel e.e. y genyn BRCA1.

Gall merched sydd wedi profi problemau gyda datblygiad y fron yn ystod glasoed neu sydd wedi cael llawdriniaeth ar y fron oherwydd canser y fron, gostyngiad ym maint y fron, llawdriniaeth i’r teth neu fewnblaniadau bron, wynebu heriau penodol ac efallai y byddant yn elwa o ofal llaetha arbenigol. Bydd merched sydd â chyflyrau meddygol hormonaidd penodol megis anghydbwysedd thyroid, ofarïau polysystig neu Fynegai Màs y Corff (BMI) uchel, efallai yn gweld bod yr elfennau hyn yn effeithio ar y llaetha.

Siaradwch â’ch bydwraig os ydych yn bryderus am unrhyw gyflwr bron neu broblemau hormonaidd a all effeithio ar eich llaetha neu fwydo ar y fron. Bydd eich bydwraig yn trafod y cymorth sydd ar gael gan eich gwasanaeth llaetha arbenigol fel y gellir gwneud cynllun clir ar eich cyfer erbyn i’ch babi gyrraedd. Mae paratoi gwybodus yn allweddol ar gyfer bod yn fam gynnar hyderus.

Anrheg gyntaf eich babi – casglu colostrwm cyn yr enedigaeth

Mae llawer o ferched beichiog yn dechrau casglu colostrwm cyn i’w babi gyrraedd. Efallai y bydd rhai babis yn profi anawsterau gyda bwydo neu’n cael trafferth cynnal eu lefelau siwgr yn y gwaed yn ystod y diwrnodau cyntaf ar ôl genedigaeth ac efallai y byddant angen cyfnodau bwydo ychwanegol. Gall mamau sydd â diabetes neu sydd â heriau bwydo dynodedig eraill elwa’n benodol o gasglu colostrwm. Mae colostrwm yn cynnwys elfennau atgyfnerthu pwysig ar gyfer yr imiwnedd ac mae’n fwyd perffaith ar gyfer babi newydd.

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am dynnu eich llaeth cyn i’ch babi gyrraedd ar wefan Association of Breastfeeding Mothers.

Gofynnwch i fydwraig am arweiniad ar dynnu llaeth cynenedigol â llaw (o thua 36 wythnos) ac ystyriwch ymuno â’n grwpiau Facebook caeedig, “Breastfeeding Friends” a gofyn i famau eraill amdano.

Beth i ddisgwyl gyda’ch bronnau ar ôl genedigaeth eich babi

Ar ôl cyflwyno’r brych yn llwyr (ar ôl genedigaeth) mae’r hormon progesteron yn gostwng yn gyflym ac mae'r hormon prolactin yn codi.

Mae’r prolactin yn ysgogi’r broses o laetha (cynhyrchu llaeth) o fewn meinwe chwarennol y fron. Mae colostrwm yn cael ei gynhyrchu, sy’n gorchuddio coludd y babi i helpu ei wneud yn gryf ac sy’n darparu amddiffyniad pwysig rhag haint. Mae prolactin yn hormon pwerus sy’n sefydlu cwlwm agosatrwydd rhwng y fam a’r babi ac sy’n helpu merched beichiog i drosglwyddo’n reddfol i fod yn fam newydd. Mae ocsitosin yn hormon pwysig arall sy’n helpu’r fam a’r babi gyda chwlwm agosatrwydd cynnar yn ogystal â symud y llaeth drwy’r fron. Mae’r ocsitosin ar ei uchaf pan mae’r fam a’r babi yn sefydlu cyswllt croen wrth groen.

Bydd cynhyrchu llaeth fel arfer yn cynyddu tua 72 awr ar ôl rhoi genedigaeth. Efallai y byddwch yn profi’r teimlad o gryn lawnder yn y bronnau ac yn profi gollyngiad llaeth. Ni ddylai’r cyfnod o lawnder bara’n hir. Bydd bwydo eich babi yn aml yn ogystal â thynnu ychydig o laeth â llaw yn helpu i gadw eich bronnau’n gyfforddus.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am laetha a dynnu llaeth â llaw, gan gynnwys fideos defnyddiol i ddysgu mwy.

Yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf ar ôl rhoi genedigaeth, byddwch yn profi newidiadau hormonaidd sylweddol ochr yn ochr â newidiadau i’ch bronnau a’ch corff. Gall y cyfnod adferiad cynnar ar ôl yr enedigaeth fod yn flinedig, yn gyffrous a gall ysgogi newidiadau mewn emosiynau a hwyliau. Mae hyn yn rhywbeth sy’n para dros dro a dylech adennill eich cydbwysedd yn fuan. Dylech bob amser siarad â’ch bydwraig os ydych yn teimlo nad yw eich hwyliau a’ch emosiynau’n setlo.

Os ydych yn penderfynu peidio â bwydo ar y fron, efallai y bydd angen gofal penodol arnoch er mwyn atal eich llaethu yn ddiogel fel nad ydych yn datblygu llid neu haint yn y fron.

Dylai eich tîm gofal mamolaeth drafod a rhoi gwybodaeth i chi am sut i ofalu am eich bronnau yn ystod y dyddiau cynnar ar ôl genedigaeth. Gallwch hefyd ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn eich cofnodion mamolaeth â ‘llaw’.

Paratoi ar gyfer y dyddiau cynnar

Gall bwydo cynnar babi ei ddylanwadu gan sawl ffactor megis sut mae’r babi yn gorwedd yn ystod beichiogrwydd, esgor a’r dull geni.

Mae bwydo ar y fron yn sgil reddfol sy’n cael ei ddysgu gan y fam a'r babi, sydd fel arfer yn cymryd ychydig o amser ac amynedd i’w sefydlu. Mae’n bwysig cofio bod bwydo ar y fron yn fwy na throsglwyddiad syml o laeth i fabi – mae’n berthynas newydd a fydd yn cymryd amser i ddatblygu. Mae’r fideo defnyddiol hwn ar wefan Association of Breastfeeding Mothers yn disgrifio’r cyfnod hwn ar ôl genedigaeth.

Mae llawer o ferched yn gweld eu bod yn cael budd o siarad â mamau eraill. Gallwch gael mynediad at gymorth cyfeillgar mam i fam gan ein cefnogwyr ‘cyfoedion’ bwydo ar y fron hyfforddedig trwy ein grwpiau Facebook preifat.

Os oes angen, mae’r cymorth ychwanegol canlynol ar gael gennym:

  • Gofal bydwraig arferol neu ofal ymwelydd iechyd
  • Gweithiwr iechyd proffesiynol sydd â hyfforddiant ychwanegol mewn bwydo ar y fron wedi’i weld mewn lleoliad cymunedol e.e. grŵp bwydo ar y fron dynodedig
  • Apwyntiad gydag Arbenigwr Bwydo Babanod yn un o’r ysbytai neu mewn clinig arbenigol penodedig.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Linell Gymorth Bwydo ar y Fron Genedlaethol am gymorth cyfrinachol a gwybodaeth gan gwnselwyr sydd â chymwysterau uchel.

Gwybodaeth bellach am ofal ac iechyd y fron