Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta'n dda cyn beichiogrwydd

Gall bwyta deiet maethlon a chytbwys helpu i baratoi a chefnogi eich corff ar gyfer beichiogrwydd iach yn y dyfodol. Mae’r cyngor hwn yn bwysig i unrhyw un sy’n cynllunio beichiogrwydd gan fod maeth da yn gallu helpu gwella ansawdd sberm yn ogystal â pharatoi’r corff ar gyfer tyfu babi iach yn y dyfodol. Nid oes angen dilyn deiet arbennig, yn lle hynny, canolbwyntiwch ar y ddilyn y Canllaw Bwyta’n dda a mwynhau amrywiaeth o fwydydd ar draws y prif grwpiau bwyd.

Gwyliwch y fideo byr hwn ar y Canllaw Bwyta’n dda ar gyfer awgrymiadau defnyddiol. Mae ymchwil yn dangos y gall bwyta deiet cytbwys ac amrywiol cyn beichiogrwydd gefnogi iechyd a datblygiad plentyn yn y dyfodol.

Pwysau Iach

Gall gweithio tuag at gyflawni a chynnal pwysau iach cyn cynllunio beichiogrwydd helpu i gynyddu eich ffrwythlondeb a’r siawns o feichiogi. Gall bod o fewn yr ystod pwysau iach hefyd helpu i leihau’r risg o broblemau megis pwysedd gwaed uchel (pre eclampsia) a diabetes yn ystod beichiogrwydd.

Mae Mynegai Màs y Corff (BMI) yn fesur sy’n defnyddio eich taldra a’ch pwysau i ddarganfod a yw eich pwysau o fewn ystod iach.

Mae Cymorth gyda’m Pwysau Gogledd Cymru yn cynnig amryw o wasanaethau cymorth am ddim i oedolion sydd angen colli pwysau am resymau iechyd. Gall unigolion gyfeirio eu hunain i gael mynediad at y gwasanaeth a derbyn yr offer a’r cymorth sydd eu hangen arnynt ar gyfer colli pwysau mewn ffordd lwyddiannus a chynaliadwy.