Neidio i'r prif gynnwy

Bwydo ar y fron a meddyginiaethau

Gellir cymryd y rhan fwyaf o feddyginiaethau tra'ch bod chi'n bwydo ar y fron heb niweidio'ch babi. Mae bob amser yn well dweud wrth eich meddyg teulu, ymwelydd iechyd, deintydd, fferyllydd neu fydwraig eich bod yn bwydo ar y fron pan fyddwch yn trafod meddyginiaethau. Gall rhywfaint o unrhyw feddyginiaeth a gymerwch fynd trwy laeth y fron i'ch babi. Yn gyffredinol, dim ond ychydig bach iawn sydd yn mynd i fewn i’r llaeth ac ychydig bach iawn o feddyginiaethau sy'n anniogel tra'ch bod chi'n bwydo ar y fron.

Os rhagnodir meddyginiaethau i chi tra’n bwydo ar y fron, trafodwch hyn gyda’ch meddyg, fferyllydd neu fydwraig. Dylech hefyd roi gwybod iddynt os cafodd eich babi ei g/eni'n gynamserol neu os oedd ganddo/ganddi’r clefyd melyn pan gafodd ei g/eni, oherwydd gallai hyn effeithio ar ba feddyginiaethau y gallwch eu cymryd.

Mae meddyginiaethau y gellir eu cymryd wrth fwydo ar y fron yn cynnwys:

  • Y rhan fwyaf o feddyginaethau gwrthfiotig
  • Anadlwyr Asthma
  • Fitaminau (ond dim ond ar y dos a argymhellir)
  • Parasetamol – dylech holi cyn cymryd parasetamol os yw'n cael ei gyfuno â meddyginiaethau eraill

Dylech wirio gyda fferyllydd, meddyg teulu neu ymwelydd iechyd cyn cymryd unrhyw gyffuriau lladd poen arall, fel ibuprofen. Gallwch ddefnyddio rhai dulliau atal cenhedlu a rhai meddyginiaethau annwyd, ond dim pob un. Mae’n bwysig eich bod yn cael triniaeth ar gyfer iselder ôl-enedigol – gallwch wirio pa feddyginiaethau y gallwch eu cymryd gyda’ch meddyg teulu, ymwelydd iechyd neu fferyllydd.

Mae'n iawn i gael triniaethau deintyddol, anesthetig lleol, brechiadau arferol (gan gynnwys brechiadau MMR, tetanws a ffliw) a'r rhan fwyaf o lawdriniaethau.

Mae meddyginiaethau cyffredin nad ydynt yn cael eu hargymell pan fyddwch chi'n bwydo ar y fron yn cynnwys:

  • Codeine phosphate
  • Moddion llacio  ar ffurf tabledi, hylifau neu bowdrau rydych chi'n eu llyncu
  • Rhai  moddion llacio trwynol  ar ffurf chwistrelliad trwyn neu ddiferion - gwiriwch gyda meddyg teulu neu fferyllydd cyn eu defnyddio
  • Asbirin i leddfu poen
  • Meddyginiaethau llysieuol – nid oes digon o wybodaeth am feddyginiaethau llysieuol i sicrhau eu bod yn ddiogel i'w defnyddio wrth fwydo ar y fron

Siaradwch â meddyg teulu neu fferyllydd cyn cymryd gwrth-histaminau ar gyfer alergeddau neu gyflyrau sy'n gysylltiedig ag alergedd, fel  clefyd y gwairPeidiwch â rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaethau rhagnodedig heb siarad â'ch meddyg teulu.

Mae rhagor o wybodaeth am feddyginiaethau a llaeth y fron ar gael ar y wefan Rhwydwaith Bwydo ar y Fron

Adnoddau a gwybodaeth pellach