Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol Gogledd Cymru

Lansiwyd y Strategaeth ddydd Llun 2 Mawrth 2020.

Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

"Mae'r strategaeth hon yn arwydd o'n hymrwymiad clir i weithio mewn partneriaeth ar draws Gogledd Cymru i leihau effaith niweidiol alcohol ar ein poblogaeth. Yng Ngogledd Cymru, rydym yn amcangyfrif bod bron i 85,000 o bobl yn yfed dros faint sy'n cael ei argymell bob wythnos, ac, yn fwy pryderus, mae dros 15,000 o bobl yn yfed ar lefel niweidiol.  Golyga yfed yn niweidiol dros 35 uned yr wythnos ar gyfer merched a 50 ar gyfer dynion. Gall un peint o lager cryf neu un gwydriad mawr o win gynnwys mwy na tair uned o alcohol.

 “Gall camddefnyddio alcohol arwain at oblygiadau difrifol i'n hiechyd  ac mae'n effeithio ar deuluoedd a'r gymdeithas ehangach. Felly, rydym yn cydweithio i addysgu a hybu dull diogel a chall at faint o alcohol sy’n cael ei yfed i annog newid mewn diwylliant."

Dywedodd Andy Jones, Cadeirydd Partneriaeth Strategol Bwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru:

"Fel Cadeirydd Partneriaeth Strategol Bwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru, rwy'n croesawu cyhoeddiad ein strategaeth gyntaf lleihau niwed alcohol, 'Calling time for change.'

Mae hyn wedi bod yn ddarn o waith mawr yn seiliedig ar ymgynghoriad â gweithwyr proffesiynol yn ogystal ag unigolion y mae alcohol wedi effeithio'n anffafriol ar eu bywydau.  Priodolir llawer iawn o ddiddordeb y cyfryngau a'r cyhoedd yn briodol i'r problemau y mae cymdeithas yn eu hwynebu trwy gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon a’u defnyddio, ond mewn gwirionedd, mae'r gost i gymdeithas a berir gan alcohol yn llawer mwy na'r materion hyn.

"Mae alcohol yn ymddangos bron fel mater o drefn wrth gymdeithasu ac mae'n bwysig ein bod yn cydnabod hyn wrth lunio'r strategaeth. Rydym yn canolbwyntio ar leihau niwed yn hytrach na chael gwared ar alcohol.

Dros oes y strategaeth byddwn yn cydweithio fel partneriaeth ranbarthol i gael effaith gadarnhaol ar y berthynas sydd gan ein cymunedau a'n unigolion ag alcohol.

"Mae Llywodraeth Cymru'n croesawu lansiad Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol Gogledd Cymru wrth i gyfraith newydd ddod i rym gan osod isafswm pris ar alcohol yng Nghymru. Golyga hyn na ellir gwerthu alcohol na'i gyflenwi am lai na 50c yr uned. Rydym wedi parhau i bwysleisio y gall isafswm pris ar gyfer alcohol leihau cyfanswm alcohol a niwed ond fel rhan o becyn ehangach o fesurau a nodwyd gennym yn ein Cynllun Cyflenwi Camddefnyddio Sylweddau 2019-22.

"Nod Isafswm Pris ar gyfer Alcohol yw lleihau lefelau yfed peryglus a niweidiol. Mae oddeutu 10 unigolyn yn marw bob wythnos yng Nghymru o achosion yn ymwneud ag alcohol. Mae alcohol yn achosi niwed i gymdeithasau yn ogystal ag unigolion, gyda threth dalwyr yn talu'r gosb. Mae alcohol yn arwain at bron i 60,000 o dderbyniadau ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn ac yn amcangyfrifir ei fod yn costio £159 miliwn i GIG Cymru.

"Nod y ddeddfwriaeth hon yw lleihau'r niwed sy'n cael ei wneud gan y rhai sydd fwyaf mewn perygl o gamddefnyddio alcohol. Rydym wedi gofyn i Fyrddau Cynllunio Ardal ar draws Cymru baratoi i gyflwyno'r Isafswm Pris fesul Uned ac i weithredu'n ehangach i leihau niwed sy'n ymwneud ag alcohol a hoffem ddiolch i'r holl randdeiliaid sydd wedi gweithio ar y cynllun pwysig hwn dros y flwyddyn ddiwethaf."