Neidio i'r prif gynnwy

Alice

“Fi sy’n rheoli, rŵan. Gynt, pan roeddwn i’n smygu, roeddwn i’n llosgi arian.”

Ers iddi roi’r gorau i smygu, mae Alice yn dweud ei bod yn teimlo’n iachach, bod ganddi groen gwell a’i bod yn arbed cannoedd o bunnoedd y mis.

Dechreuodd y wraig 61 mlwydd oed o Brestatyn, smygu pan roedd hi’n yr ysgol. Roedd yn smygu 15-20 y dydd pan roddodd y gorau iddi yng nghanol pandemig COVID-19, gyda chymorth Helpa Fi i Stopio.

Mae’n dweud bod y gefnogaeth ffôn un-i-un  wedi bod yn “anhygoel” ac wedi ei helpu i gymryd rheolaeth a magu hyder.

“Roeddwn eisiau rhoi’r gorau iddi am gryn amser,” meddai Alice. “Doeddwn i ddim yn mwynhau smygu bellach ac roedd yr holl beth wedi mynd yn hurt.

“Roeddwn eisiau stopio. Digon oedd digon. Roedd yr amser yn iawn.”

 

“Beth yw’r pwynt imi smygu?”

Mae Alice yn mynd i’r gampfa ben bore yn rheolaidd ac mae wedi cymhwyso’n hyfforddwr ffitrwydd yn yr awyr. Mae hi’n dweud nad oedd yn gwneud synnwyr ei bod hefyd yn smygu.

“Rydw i wrth fy modd yn cadw’n heini ac fe feddyliais beth yw’r pwynt imi smygu?!” meddai. “Erbyn hyn rydw i’n gallu gwneud llawer mwy heb golli fy ngwynt. Rydw i’n mynd yn bellach ac yn gallu gwneud mwy o waith cardio.

“Ac mae arian yn fy nghyfrif banc! Fi sy’n rheoli, rŵan. Gynt, pan roeddwn i’n smygu roeddwn i’n llosgi arian.”

 

Gwna fo!

“Mae Helpa Fi i Stopio wedi bod mor ddefnyddiol ac yn gymaint o help o’r cychwyn cyntaf,” meddai Alice.

“Roedd y cynghorydd yn wych. Roedd hi’n fy llongyfarch ac yn fy annog i yn ystod pob galwad .

“Mi ddywedodd hi wrtha’ i nad oedd rhaid imi fynd yn ôl i’n hen arferion, mai fi oedd yn rheoli. Roedd yn gymaint o hwb.

“Mi fyddwn i’n dweud – gwna fo! Rydw i’n gwybod bod Helpa Fi i Stopio wedi gweithio i gymaint o bobl eraill hefyd.

“Y buddion imi yw fy iechyd, sut rydw i’n edrych ac arian- rydw i’n teimlo’n well ac rydw i’n gwybod nad ydw i’n arogli o fwg.”