- Rydym yn cefnogi ein plentyn i deimlo'n gyfforddus pan fydd yn treulio amser gyda phobl eraill ac ar ei ben ei hun.
- Rydym yn annog ein plentyn i ddangos parch at ei hun ac eraill.
- Rydym yn modelu ffyrdd o ymddwyn yn briodol i'n plentyn.
- Rydym yn darparu gofod ac offer i'n plentyn siarad am ei deimladau a'i anghenion.
- Rydym yn cefnogi ein plentyn i ddeall ble y gall gael cymorth a sut i wneud hyn ac yn ei annog yn weithredol i adeiladu a chynnal rhwydwaith cymorth o fewn a'r tu allan i'r teulu. Rydym yn parhau i fodelu i’n plant fod gennym bobl y gallwn droi atynt pan fydd angen cymorth arnom a’n bod yn ceisio cymorth pan fydd ei angen arnom.
Cysylltiadau â rhannau eraill o bum ffordd at les: