Neidio i'r prif gynnwy

12-15 mlwydd oed

Gall cyfnod y glasoed fod yn gyfnod heriol i lawer o bobl ifanc wrth iddynt symud o fod yn blant i fod yn oedolion. ​ Cefnogwch nhw i ddatblygu eu hunaniaeth a deall eu gwerthoedd a'u credoau eu hunain; helpwch nhw i sylweddoli y gall y rhain fod yn wahanol i rai pobl eraill. ​  Gweithredwch fel eu model rôl trwy eu hannog i ddangos empathi, dealltwriaeth a thosturi tuag at eraill. ​

Helpwch eich plentyn i fod yn ymwybodol o'i hawliau a'i gyfrifoldebau, bod canlyniadau i'w weithredoedd a phwysigrwydd parchu eu hunain ac eraill. ​ Anogwch eich plentyn i wneud dewisiadau sy'n cadw ei hun a'i ffrindiau'n ddiogel, yn y byd go iawn a'r byd rhithwir. ​​  Helpwch nhw i ddeall pwysau cyfoedion a sut i wneud eu penderfyniadau eu hunain.  Cefnogwch nhw i adnabod a datblygu perthnasoedd iach a gwybod ble i droi am gymorth os oes ei angen arnynt. 

Anogwch nhw i wneud dewisiadau iach ar gyfer eu lles corfforol a meddyliol, gan gynnwys datblygu delwedd bositif o'u corff. ​  Cefnogwch nhw i ddeall eu hemosiynau. 

Anogwch eich plentyn i osod nodau personol a datblygu dyheadau ar gyfer ei ddyfodol; helpwch eich plentyn i ddeall sut i gyflawni'r rhain. ​  Cefnogwch eich plentyn i archwilio ei ddiddordebau ei hun a datblygu rhwydweithiau cymorth a meithrin cyfeillgarwch. ​ 

Cliciwch isod i ddarganfod mwy. ​  Cofiwch fod un gweithgaredd, fel chwarae gyda’ch plentyn, yn aml yn golygu eich bod wedi cyflawni llawer o’r pum ffordd at les trwy un gweithgaredd. ​  Mae enghreifftiau o weithgareddau yn cynnwys:

Nid oes angen gwario arian wrth gadw at y Pum Ffordd at Les.  Mae’n ymwneud yn fwy â bod yn bresennol yn yr eiliad (rhoi’r ffôn i’r ochr am ychydig funudau) a rhoi o'ch amser a’ch sylw i’ch plentyn. 

Caniatewch i'ch plentyn Gysylltu gyda'i ffrindiau a Bod yn Actif y tu allan i'r ysgol. ​  Anogwch nhw i Ddal Ati i Ddysgu trwy dechnoleg tra'n cadw'n ddiogel ar-lein. Rhowch o'ch amser a gofynnwch sut maen nhw'n teimlo. ​ Byddwch yn Sylwgar o nodau a dyheadau eich plentyn ar gyfer y dyfodol a’u hannog.