- Rydym yn cefnogi ein plentyn i ddeall bod gan bawb hawliau a chyfrifoldebau a bod gan weithredoedd ganlyniadau.
- Rydym yn cefnogi ein plentyn i ddatblygu perthnasoedd iach, positif.
- Rydym yn annog ein plentyn i ddangos parch at ei hun ac eraill.
- Anogwn ein plentyn i ddangos empathi a pharch at eraill, gan werthfawrogi amrywiaeth ac rydym yn modelu’r un peth ein hunain.
- Rydym yn helpu ein plentyn i barhau i ddatblygu a chynnal rhwydwaith cefnogol agos ac yn ei annog i gynnwys pobl yn ei rwydwaith y mae eu gwerthoedd yn cyd-fynd â’i rai ef.
Cysylltiadau â rhannau eraill o bum ffordd at les: