- Rydym yn cefnogi ein plentyn i ddeall effaith ei ddewisiadau a’i benderfyniadau.
- Rydym yn siarad â'n plentyn am sut mae'n teimlo ac yn ei gefnogi i reoli ei deimladau a'i emosiynau.
- Rydym yn cefnogi ein plentyn i siarad am ei emosiynau a’i deimladau a sut i reoli ymddygiadau o ganlyniad i’r rhain.
- Rydym yn cefnogi ein plentyn i ddeall emosiynau amrywiol a sut i ymateb i emosiynau eraill.
- Rydym yn cefnogi ein plentyn i bwyso a mesur manteision ac anfanteision penderfyniad ac yna gwneud dewisiadau gwybodus.
- Rydym yn cefnogi ein plentyn i ddeall y cysylltiad rhwng hawliau a chyfrifoldebau.
- Rydym yn cefnogi ein plentyn i ddeall sut i gadw'n ddiogel ar-lein ac i ddeall y gwahaniaeth rhwng y byd go iawn a'r byd rhithwir.
- Rydym yn cefnogi ein plentyn i dderbyn ei hun a deall yr hyn sy'n bwysig iddo.
- Rydym yn darparu lle diogel i siarad am newidiadau, datblygiad a gwahaniaethau gyda'n plentyn.
Cysylltiadau â rhannau eraill o bum ffordd at les: