- Rydym yn siarad â'n plentyn am wahanol emosiynau ac yn dangos sut mae'r rhain yn edrych.
- Rydym yn helpu ein plentyn i fod yn ymwybodol o’i emosiynau ac yn ei gefnogi trwy enwi/labelu emosiynau yn gyson.
- Rydym yn cefnogi ein plentyn i adnabod emosiynau pobl eraill a modelu sut i ymateb yn briodol.
- Rydym yn rhoi cyfleoedd i’n plentyn ddatblygu ei synhwyrau ac yn rhoi llawer o anogaeth.
- Rydym yn rhoi cyfleoedd i’n plentyn archwilio’r byd o’i gwmpas dan do ac yn yr awyr agored mewn ffyrdd diogel.
- Rydym yn rhoi cyfleoedd i’n plentyn ddarganfod y byd o’i gwmpas ac yn modelu emosiynau ac iaith briodol wrth ddod o hyd i rywbeth newydd.
Cysylltiadau â rhannau eraill o bum ffordd at les: