- Rydym yn annog ein plentyn a'i gefnogi i chwarae gyda ni a phlant eraill.
- Rydym yn rhoi cyfleoedd i'n plentyn chwarae a chymryd yr awenau wrth chwarae. Rydym yn dathlu pan fydd ein plentyn yn gwneud ei orau.
- Ceisiwn fod yn chwareus gyda’n plentyn a rhoi cyfleoedd iddo gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd yr ydym yn eu mwynhau gyda’n gilydd.
- Rydym yn rhoi cyfleoedd i’n plentyn dreulio amser gyda phlant eraill a dechrau datblygu sgiliau datrys problemau.
- Rydym yn rhoi cyfleoedd i’n plentyn brofi gweithgareddau chwarae yn ein cymuned megis grwpiau plant bach.
Cysylltiadau â rhannau eraill o bum ffordd at les: