Neidio i'r prif gynnwy

Cysylltu

Rydym yn anifeiliaid cymdeithasol ac mae angen cyswllt â phobl eraill arnom i ffynnu.  Bydd faint o gyswllt sydd ei angen arnom yn amrywio rhwng y naill a'r llall, ond mae ansawdd y rhyngweithio yn bwysig. ​

Manteisiwch ar gyfleoedd i gysylltu, adeiladu, ehangu a chryfhau perthnasoedd. Treuliwch amser gyda'ch ffrindiau, teulu ac eraill o'ch cwmpas. ​ Gall hyd yn oed rhyngweithio am gyfnod byr wneud i ni deimlo'n well. ​

Gall cyfryngau cymdeithasol eich helpu i gadw mewn cysylltiad ag eraill pan fo cyfarfod wyneb yn wyneb yn anodd. ​ Fodd bynnag, gall gormod o amser sgrin amharu ar ansawdd ein rhyngweithio â phobl eraill. Mae dod o hyd i gydbwysedd yn bwysig i adeiladu cysylltiadau a fydd yn cefnogi ac yn cyfoethogi eich bywyd bob dydd. ​ 

I ddod o hyd i wasanaethau a lleoedd y gallwch gysylltu ag eraill, ewch i Dewis Cymru. ​