Neidio i'r prif gynnwy

Bod yn sylwgar

Mwynhewch y profiad, pa un ai a fyddwch chi'n cerdded i'r gwaith, yn bwyta cinio neu'n siarad â ffrindiau. ​ Byddwch yn ymwybodol o'r byd o'ch cwmpas a sut rydych chi'n teimlo. Bydd myfyrio ar eich profiadau yn eich helpu i werthfawrogi'r hyn sy'n bwysig i chi.

Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall bod allan yng nghanol byd natur roi hwb i'ch lles. ​ Mae hyn yn rhoi cyfle gwych i fod yn sylwgar o bethau newydd, fel y newid yn y tymhorau, planhigion a bywyd gwyllt. ​

Gallwch ddysgu mwy am ymwybyddiaeth ofalgar gyda Chanolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor ac yn Academi Wales. ​  Gellir dod o hyd i rai sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar byr eraill yma. ​