Mae ein cynllun gwirfoddoli ysbyty yn mynd o nerth i nerth ar draws Gogledd Cymru.
Mae'r Gwirfoddolwyr Robin (sydd â'r llysenw, y Robiniaid, oherwydd eu crysau polo coch llachar) yn adnabyddus am eu natur gyfeillgar a'u parodrwydd i helpu eraill. A dweud y gwir mae'r Robiniaid wedi bod mor boblogaidd nes bod angen mwy ohonynt ar frys yn ein hysbytai cymuned leol ac mewn Ysbytai Llym Gogledd Cymru.
Mae Robiniaid yn gyfeillion ac yn paratoi diodydd poeth ac oer i gleifion; yn gwirio jygiau dŵr, yn treulio amser yn cael sgwrs gyffredinol; yn darparu gwasanaeth darllen/ysgrifennu ble bo'n briodol; yn mynd i siop yr ysbyty; yn cynorthwyo staff nyrsio i wneud gwelyau; helpu i storio cyflenwadau; tacluso loceri cleifion ymysg dyletswyddau eraill. Gall rhai Robiniaid gynnig gwasanaeth cyfeirio hefyd.
Gogledd Orllewin Cymru
Ysbytai yng Ngwynedd a Môn
Hannah Coles
Ffôn: 01248 385 033 / 07789 855924
Ardal y Canol
Ysbytai yng Ngonwy a Dinbych
Owain Rowlands
Ffôn: 01745 448 740 / 07977 148 476
Gogledd Ddwyrain Cymru
Ysbytai yn Wrecsam a Y Fflint
Julie Parry
Ffôn: 03000 848397 / 07977 689449
Rheolwr Gwirfoddolwyr
James Johnson
Ffôn: 01978 727 164 / 07880 044 213