Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwr Caplaniaeth

Ymgymerwch â her newydd

Mae timau o Wirfoddolwyr Caplaniaeth yn cefnogi gwaith y Caplaniaid:

  • Gwirfoddolwyr Caplaniaeth Crefyddol (Ffydd) sy'n ymweld â chleifion o'r un ffydd neu grefydd sydd wedi cael eu cyfeirio atynt. Mae gennym Wirfoddolwyr Caplaniaeth Bahá, Bwdhaidd, Cristnogol, dyn a dynes mwslimaidd a paganaidd ar gael i weld eu cleifion a'u teuluoedd
  • Gwirfoddolwyr Caplaniaeth Fugeiliol (ysbrydol) sy'n ymweld â wardiau neu adrannau penodol gan gynnig gofal ysbrydol i'r holl gleifion nad ydynt yn ddifrifol wael. Gallant gyfeirio cleifion sydd eisiau gofal crefyddol neu a fyddai'n dymuno cael ymweliad gan Gaplan. Daw gwirfoddolwyr Caplaniaeth Fugeiliol o bob cefndir ac maent yn bobl o bob ffydd a dim ffydd

Mae angen i bob Gwirfoddolwr Caplaniaeth gwblhau cwrs 'Gofal Ysbrydol Gwirfoddolwyr' Cymru Gyfan sy'n cymryd 6 wythnos. Mae'r cwrs yn cynnwys megis:

  • Beth yw gofal bugeiliol, ysbrydol a chrefyddol?
  • Sgiliau Gwrando
  • Cyfrinachedd
  • Marwolaeth a phrofedigaeth
  • Ymarferoldeb ymweld â chleifion mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill

Cyswllt
Wynne Roberts - Rheolwr Caplaniaid
01248 384 095 x4095
Wynne.Roberts@wales.nhs.uk