Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf ar frechlynnau

Diweddariadau ar ein cynlluniau brechu a chynnydd ar y brechiadau yng Ngogledd Cymru

Medi 19, 2024

Rydym yn disgwyl i wahoddiadau am apwyntiadau i dderbyn y brechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19 ddechrau cyrraedd drwy flychau llythyrau’r cleifion cymwys cyntaf yr wythnos hon

Bydd y rhan fwyaf o frechiadau atgyfnerthu yn cael eu rhoi mewn canolfan frechu’r Bwrdd Iechyd, ond efallai y bydd rhai cleifion yn cael eu gwahodd i apwyntiad yn eu meddygfa neu mewn fferyllfa gymunedol agos sydd wedi’u comisiynu i roi’r brechlyn.

Fel mewn ymgyrchoedd blaenorol, bydd pobl hŷn a phobl sy’n fwy agored i niwed yn cael eu gwahodd yn gyntaf – gyda grwpiau eraill yn dilyn yn nhrefn blaenoriaeth glinigol.

Bydd llythyrau apwyntiad yn cael eu hanfon at:

  • bawb sy’n 65 oed neu hŷn (gan gynnwys unrhyw un a fydd yn 65 ar neu cyn 31 Mawrth, 2025).
  • pawb sydd rhwng chwe mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o COVID-19, a
  • merched beichiog.

Ar ddechrau mis Hydref, bydd timau brechu’r bwrdd iechyd yn blaenoriaethu cynnig y brechlynnau atgyfnerthu i breswylwyr mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn. Bydd apwyntiadau yn ein canolfannau brechu ar gyfer grwpiau eraill yn dechrau ganol mis Hydref.

Efallai y bydd pobl sy’n cael eu gwahodd i dderbyn y brechiad atgyfnerthu yn eu meddygfa yn cael apwyntiad yn gynharach ym mis Hydref. Bydd rowndiau pellach o wahoddiadau yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf a bydd apwyntiadau’n parhau drwy gydol mis Tachwedd a mis Rhagfyr.

Bydd llythyrau gwahoddiad yn cynnwys dyddiad, amser a lleoliad yr apwyntiad, yn ogystal â gwybodaeth am sut i newid apwyntiad os oes angen. Rydym yn annog pobl sydd wedi cael gwahoddiad i dderbyn y brechlyn atgyfnerthu i wirio eu gwahoddiad yn ofalus oherwydd efallai y bydd lleoliad eu hapwyntiad yn wahanol i leoliad ymgyrchoedd blaenorol.

Lle bo’n bosibl, efallai y bydd brechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19 a’r ffliw yn cael eu cynnig ar yr un pryd. Yn y rhan fwyaf o achosion, am resymau darparu ymarferol, bydd cleifion cymwys yn cael eu gwahodd i dderbyn y brechlynnau mewn dau apwyntiad ar wahân. Rydym yn annog pawb sy’n gymwys ar gyfer y brechlynnau i fanteisio ar eu gwahoddiad i’w derbyn cyn gynted â phosibl y gaeaf hwn.

Mae manylion llawn am gymhwysedd ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 a mwy o wybodaeth am y brechlyn ar gael yma.
 

Amddiffyniad yn erbyn y ffliw ar gyfer plant a merched beichiog

Mae rhieni plant sy’n ddwy a thair oed bellach yn cael eu gwahodd i amddiffyn eu plant y gaeaf hwn gyda brechlyn ffliw’r GIG.

Mae’r brechlyn diboen, sy’n cael ei roi drwy chwistrell yn y trwyn, yn helpu i amddiffyn plant rhag salwch difrifol a achosir gan y ffliw. Gall hefyd helpu i leihau trosglwyddiad y feirws yn y gymuned, gan amddiffyn pobl eraill sy’n agored i’r feirws.

Mae meddygfeydd yn gwahodd rhieni plant a anwyd rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2022 i apwyntiad, neu i gadw lle mewn clinig. Efallai y bydd rhieni yn cael llythyr neu neges destun, a dylent gadw llygaid am gyfleoedd brechu sy’n cael eu hysbysebu gan eu meddygfa.

Rydym yn annog rhieni i fanteisio ar y cyfle pwysig hwn cyn gynted â phosibl er mwyn amddiffyn rhai o breswylwyr ieuengaf Gogledd Cymru’r gaeaf hwn.

Bydd pob plentyn ysgol gynradd ac uwchradd (o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11) yn cael cynnig y brechlyn ffliw mewn clinigau arbennig a gynhelir yn yr ysgol yn ystod tymor yr Hydref. Dylai rhieni gadw llygaid am fwy o wybodaeth am y clinigau brechu rhag y ffliw sy’n cael eu cynnal yn ysgol eu plentyn a sicrhau eu bod yn dychwelyd y ffurflen gydsynio, wedi’i chwblhau, cyn y sesiwn.

Mae merched beichiog hefyd yn cael eu galw i dderbyn eu brechlyn ffliw o fis Medi ymlaen.

Bydd pob oedolyn arall yn gallu derbyn eu brechlyn ffliw GIG o’r wythnos yn dechrau 30 Medi. Mae manylion llawn am gymhwysedd a sut i gael y brechlyn ar gael yma.

 

Mae diweddariadau blaenorol

Mae diweddariadau blaenorol wedi'u harchifo