Erbyn hyn, bydd pobl wedi dechrau derbyn llythyrau apwyntiad ar gyfer eu brechiad atgyfnerthu COVID-19 ar gyfer yr hydref, y byddwn yn dechrau ei gynnig o fis Medi. Unwaith eto, bydd cyflwyno Rhaglen y Pigiad Atgyfnerthu ar gyfer yr Hydref yn arwain at gynnig niferoedd mawr iawn o apwyntiadau bob dydd, felly gofynnir i chi gadw at yr apwyntiad a gynigir lle bo'n bosibl.
Caiff yr holl apwyntiadau eu trefnu trwy wahoddiad felly nid oes angen cysylltu â ni. Gall unrhyw un sydd wedi derbyn gwahoddiad ac sydd ag unrhyw bryderon, ymholiadau neu lle bo angen newid y dyddiad neu'r amser wneud hynny trwy ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004. Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 8am a 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 2pm ar benwythnosau.
Os bydd rhywun sy'n gymwys i gael un o bigiadau atgyfnerthu'r gwanwyd wedi dal heintiad COVID-19 yn ddiweddar, bydd yn rhaid iddynt ddisgwyl 28 diwrnod wedi dyddiad eu prawf positif cyn y gallant gael eu brechu. Ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004.
Mae meini prawf cymhwyster ar gyfer ail bigiadau atgyfnerthu wedi cael eu diffinio gan y Cydbwyllor ar Imiwneiddio a Brechu.
Rydym yn annog rhieni a phlant i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â brechu, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf o ffynonellau dibynadwy. Yr wythnos hon mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefan i gefnogi hyn.
Rydym yn deall y gallai rhai plant ifanc fod yn bryderus ynghylch dod i leoliad anghyfarwydd i gael eu brechu. Bydd ein clinigau plant gryn dipyn yn dawelach na’r clinigau atgyfnerthu a gynhaliwyd yn ystod diwedd 2021, a gall ein staff profiadol gymryd yr amser i gefnogi plant a’u gwneud yn gartrefol, cyn iddynt dderbyn eu brechlyn. I drefnu eich brechiad rhag COVID-19, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 03000 840004.
Mae’r brechlyn COVID-19 eisoes wedi’i gynnig i bob plentyn rhwng 5 ac 11 mlwydd oed sydd mewn grŵp risg clinigol, neu sy’n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wannach. Gwahoddir y rhai sydd eto i dderbyn y cynnig hwn i ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004.
Mae gan blant a phobl ifanc rhwng 5 a 17 oed sydd â chyflyrau iechyd penodol risg uwch o gymhlethdodau oherwydd COVID-19 ac argymhelllir y dylent gael dau ddos o'r brechlyn rhag COVID-19. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gymhwyster ar gyfer y brechlyn ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r holl blant rhwng 16 a 17 oed bellach yn derbyn dosiau atgyfnerthu o'r brechlyn yn dilyn argymhelliad a wnaed gan JCVI.
Dylid cynnig y dos atgyfnerthu heb fod yn gynt na thri mis ar ôl cwblhau'r cwrs cychwynnol.
I drefnu eich brechiad rhag COVID-19, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 03000 840004.
Rydym bellach yn cynnig ail ddosiau i bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed yn dilyn cyngor gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf.
I drefnu eich brechiad rhag COVID-19, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 03000 840004.
Unwaith eto, rydym yn apelio at ferched beichiog i ddod atom i dderbyn eu brechlyn rhag COVID-19. I unrhyw ddarpar fam, mae derbyn eu dos cyntaf, ail ddos a'u dos atgyfnerthu o'r brechlyn rhag COVID-19 yn un o'r pethau pwysicaf y gallant ei wneud i amddiffyn eu hunain a'u baban heb ei eni rhag y coronafeirws ac, yn benodol rhag amrywiolyn newydd Omicron.
Yn seiliedig ar y data'n ymwneud â diogelwch, ynghyd â risg gynyddol COVID-19, mae JCVI wedi cynghori y dylai merched beichiog gael eu hystyried yn grŵp risg glinigol.
I drefnu eich brechiad rhag COVID-19, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 03000 840004.
Mae'r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi'n flaenorol y dylai unigolion sydd â system imiwnedd wannach dderbyn trydydd dos cychwynnol o'r brechiad.
Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda chlinigwyr i ganfod unigolion perthnasol ac i benderfynu pa un a oes angen i drydydd dos neu ddos atgyfnerthu gael ei roi ar adeg benodol o fewn eu cylchoedd triniaeth, neu p'un a oes angen peri oedi i feddyginiaeth er mwyn sicrhau'r adwaith imiwnaidd mwyaf positif i'r brechlyn.
Nid oes angen i’r rhan fwyaf o'r rhai a restrir adeg benodol i dderbyn eu pigiad a byddant yn derbyn llythyr apwyntiad ar gyfer eu trydydd dos cychwynnol.
Os ydynt eisoes wedi derbyn pigiad atgyfnerthu, caiff hyn ei ddiwygio ar eu cofnod i drydydd dos cychwynnol a chânt eu gwahodd ar gyfer pigiad atgyfnerthu o leiaf 3 mis yn ddiweddarach.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n clinigwyr i wahodd y rhai y mae arnynt angen adeg benodol yn seiliedig ar eu hamserlen triniaeth a/neu feddyginiaeth.
Mae croeso bob amser i chi newid eich meddwl i ddod atom ac i gael eich brechu, mae'r staff yn dal i fod ar waith gennym ac mae brechlynnau ar gael i bobl nad ydynt wedi derbyn eu dos cyntaf, ail ddos, trydydd dos neu bigiad atgyfnerthu. Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn amddiffyn chi'ch hun, eich teuluoedd a gwasanaethau'r GIG rhag COVID-19 felly byddem yn annog pobl i drefnu eu hapwyntiadau cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn gymwys i dderbyn eich dos cyntaf, eich ail ddos neu'ch pigiad atgyfnerthu, gallwch ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004 i drefnu apwyntiad.