Neidio i'r prif gynnwy

Brechlynnau

Mae brechlynnau’n achub bywydau. Amcangyfrifir bod tair miliwn o fywydau'n cael eu hachub ledled y byd bob blwyddyn o ganlyniad i brechu.

Mae brechu yn eich amddiffyn chi a’ch teulu rhag llawer o glefydau difrifol a all fod yn angheuol ac yn eu hatal rhag lledaenu i aelodau mwy agored i niwed o’r gymuned, gan gynnwys pobl hŷn, babanod ifanc a’r rhai sydd â chyflyrau meddygol.

Mae brechlynnau’n cael eu profi'n drylwyr, ac maent yn ddiogel ac yn effeithiol.

Mae clefydau y gellid eu hatal drwy frechu yn risg sylweddol i iechyd pobl Gogledd Cymru. Mae llwyddiant ein rhaglenni brechu yn ddibynnol arnom ni’n manteisio er mwyn i bob un ohonom ni gael yr amddiffyniad gorau.  Pan fo nifer uchel o unigolion yn manteisio ar gael eu brechu, mae’r risg o achosion o glefydau yn ein cymunedau yn llawer is.

Mae amserlen lawn ar gyfer y brechiadau arferol gan gynnwys gwybodaeth am gymhwysedd, isod.

Er mwyn cael yr amddiffyniad gorau, mae’n bwysig eich bod yn cael eich brechlynnau ar yr amseroedd cywir – ond, mae hi’n bosibl i chi ddal i fyny os byddwch chi’n eu methu.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os ydych chi'n meddwl eich bod chi, eich plentyn neu aelod arall o'r teulu wedi methu brechiad, cysylltwch â'ch meddygfa, ymwelydd iechyd, nyrs ysgol neu wasanaeth arbenigol am ragor o wybodaeth a chyngor.

 

Rhaglenni brechu â blaenoriaeth

 

Amserlen frechu arferol

 

Brechiadau ychwanegol i unigolion â chyflyrau iechyd hirdymor

Mae’n bosibl y bydd angen i rai unigolion sydd â chyflwr sy'n bodoli eisoes neu sy’n agored i risg uwch o glefyd, gael brechiadau ychwanegol neu ddosau ychwanegol o rai brechiadau, i’w hamddiffyn rhag mynd yn sâl.

Mae arweiniad a chymorth fesul achos i unigolion â chyflyrau sy'n bodoli eisoes neu ffactorau risg ychwanegol ar gael gan eich meddygfa neu dîm arbenigol.

Mae gwybodaeth gynhwysfawr am frechu, gan gynnwys amserlen lawn, ar gael gan GIG 111 Cymru.

 

Brechiadau ar gyfer gwaith

Mae llawer o weithleoedd yn gofyn i weithwyr wneud yn siŵr eu bod wedi cael y brechiadau arferol i leihau'r risg o salwch neu afiechyd.

Mae rhai cyflogwyr yn gofyn i weithwyr gael brechiadau ychwanegol er mwyn cynyddu eu hamddiffyniad. Efallai y bydd angen rhagor o frechiadau ar gyfer rhai swyddi risg uwch.

Mae cyngor ar y brechiadau a argymhellir ar gyfer eich swydd ar gael gan eich cyflogwr neu’ch adran iechyd galwedigaethol.

 

Brechiadau teithio

Efallai y bydd angen i deithwyr i rai rhannau o'r byd gael brechiadau ychwanegol rhag clefydau a chyflyrau sy'n endemig i'r rhanbarthau hynny.

Mae'n rhaid rhoi rhai brechlynnau ymhell ymlaen llaw er mwyn rhoi cyfle i'ch corff ddatblygu imiwnedd ac mae angen rhoi rhai brechlynnau mewn nifer o ddosau dros gyfnod o sawl wythnos neu fisoedd.

Mae cyngor am frechiadau cyn teithio ar gael gan llawer o meddygfa neu fferyllfeydd cymunedol. Lle bo modd, cysylltwch o leiaf wyth wythnos cyn i chi deithio.