"LLais yw olynydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru ac, fel y cyfryw, mae gennym hanes hir o fonitro a chraffu ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi gweld llawer o newidiadau ac rydym yn ystyried BIPBC fel sefydliad newydd bron â bod gyda ffocws ac ethos gwahanol.
Mae Cadeirydd, Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Meddygol a Chyfarwyddwr Nyrsio parhaol bellach wedi eu penodi ac mae llai o benodiadau dros dro. Mae hyn yn rhoi ymdeimlad o sefydlogrwydd a pharhad nad yw wedi bod yno ers cryn amser.
Mae'r Bwrdd yn parhau i ymdrin â phroblemau'r gorffennol ond mae'n defnyddio dulliau gwahanol a mwy agored o gynnwys cleifion a'r cyhoedd yn ei gynlluniau a'i benderfyniadau. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys cyfarfodydd cyhoeddus i drafod pryderon am ysbytai cymunedol a phractisau meddygon teulu yn Nhywyn a Betws y Coed. Mae yna hefyd ymrwymiad o'r newydd i ymgysylltu ac ymgynghori ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth ymarferol yn hyn o beth.
Mae gan y Bwrdd newydd lawer o heriau; rhai sydd wedi bod yno erioed megis recriwtio ond hefyd y ffocws o’r newydd ar gyllid ac arbedion ariannol a fydd yn gwneud y dasg o adnewyddu yn anos.
Dylai fod yn glir nad yw Meddygon, Nyrsys a staff eraill Betsi Cadwaladr mewn Mesurau Arbennig a'u bod wedi ymrwymo i ddarparu'r gofal gorau posibl i gleifion. Cyfrifoldeb Bwrdd Betsi Cadwaladr yw eu helpu i gyflawni hyn.
Mae'n ddechrau da ond mae'n hanfodol bod y Bwrdd yn parhau i wrando ac ymgysylltu â phobl yng Ngogledd Cymru er mwyn cydweithio a darparu'r gofal GIG y maent yn ei haeddu. Mewn cyfnod heriol yn ariannol, ni fydd hyn yn hawdd."
Jan Tomlinson, Unsain
"Wel am flwyddyn rydyn ni wedi'i chael fel staff ers cael ein huwgyfeirio i Fesurau Arbennig!
Mae gennym ni Brif Weithredwr a Chadeirydd newydd, y ddau ohonynt yn cynnwys undebau llafur ym mhopeth a wnânt gan gofleidio gwir ysbryd Gweithio mewn Partneriaeth. Rydym ni fel partneriaid Undebau Llafur yn cydnabod nad ar chwarae bach y gallwn adael y Mesurau Arbennig - mae angen dal ati! Ond rydym yn mynd i'r cyfeiriad cywir drwy'r newidiadau yr ydym yn eu gweld ac yn rhan ohonynt.
Teimlwn y gwrandewir ar staff ac yn bwysicach fyth, mae eu barn yn cyfrif."
"Flwyddyn ar ôl rhoi'r mesurau arbennig ar waith, mae'n gyfle i ni fyfyrio ac archwilio ein taith hyd yn hyn. Mae pen y daith yn bwysicach na'r man cychwyn.
Rwy'n dawel fy meddwl yn gwybod fod gan y Bwrdd ymdeimlad o bwrpas, eu bod yn gweithredu fel tîm, yn gweithio’n galed ac yn gydweithio tuag at ddatrysiad posibl - i’r hyn sy’n jig-so cymhleth iawn.
Bydd yr atebion go iawn yn dod gan ein hased mwyaf gwerthfawr - pobl, sy'n gwneud y swyddi anoddaf yn y cyfnod a'r amgylchiadau anoddaf. Yr hyn sy’n gwbl amlwg yw bod yn rhaid newid diwylliant o’r brig i lawr a gobeithio y bydd y Bwrdd newydd yn cyflawni’r newid hwnnw, nid drwy orfodi newidiadau, ond drwy wrando a gweithio gyda staff a’r cyhoedd i wneud y newidiadau hynny ar y cyd, gyda chydymdeimlad ac yn wybodus.
Roedd y mesurau arbennig yn mynnu newid a hunan-archwilio gwrthrychol a hoffem feddwl fod y Bwrdd a'r Grŵp SRG wedi gwneud hynny. Mae'r rhan fwyaf o'n haelodau SRG yn profi pob rhan o'r gwasanaeth iechyd fel y defnyddwyr, y cleifion, y rhai sy'n sâl, sy'n marw, y rhai sy'n gwella, a'r rhai sydd wedi gwella!
Yn y SRG rydym yn ehangu ein sylfaen wybodaeth, trwy recriwtio mwy o sefydliadau - sy'n fwy na chyfarwydd â'r problemau y mae eu rhanddeiliaid sectoraidd yn eu hwynebu. I fod yn deg â'r Bwrdd newydd, mae wedi cydnabod efallai nad ymgynghorwyd yn briodol â'r SRG yn y gorffennol ar gynllunio a datblygu cynlluniau. Bellach mae'r Bwrdd wedi ymrwymo i gynnwys y Grŵp yn llawer cynharach wrth ystyried cynigion.
Mae gan y SRG drawstoriad da o Randdeiliaid, gyda meysydd amrywiol o arbenigedd - sy'n sicr yn gallu craffu a chynnig syniadau ac atebion i'r Bwrdd, er mwyn darparu gwasanaethau mewn ffordd well.
Mae newid a disgwyliadau cymdeithasol wedi dod yn broblem enfawr – yn sicr o ran costau canlyniadol. Mae’r hyn a oedd cenedlaethau blaenorol yn ei ystyried yn rhwymedigaeth neu'n fendith bellach yn cael ei ystyried yn anghenraid a chyfrifoldeb y wladwriaeth a phopeth sydd ynghlwm wrth hynny.
I gloi, rwy’n obeithiol iawn y bydd y Bwrdd newydd yn llwyddo lle mae eraill wedi methu, gydag amser, oherwydd nid oes llawer o atebion cyflym ar gael i ni.”
"Mae wedi bod yn galonogol gweld yr ymgyrch tuag at sefydlogrwydd o fewn strwythur y Bwrdd Iechyd dros y 12 mis diwethaf.
Fel Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, edrychaf ymlaen yn fawr at y dyfodol a chael gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o dan arweiniad Dyfed Edwards a Carol Shilabeer.
Gyda’n gilydd, rwy’n siŵr y gallwn ddarparu’r gwasanaethau Iechyd a Gofal gorau i bobl Gogledd Cymru a bodloni anghenion ein cymunedau ar draws y rhanbarth."
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: blwyddyn yn ddiweddarach, lawrlwytho digidol