Neidio i'r prif gynnwy

Mesurau Arbennig

Yn Chwefror 2023, fe wnaeth y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyhoeddi y byddai'r Bwrdd Iechyd yn cael ei osod mewn Mesurau Arbennig; lefel uchaf yr ymyrryd yn y fframwaith dwysáu.

Fel Bwrdd Iechyd, gwyddom y bydd yn rhaid i bethau newid. Mae gennym ni gyfle i ddysgu gwersi yn deillio o'n taith a'n profiadau hyd yn hyn er mwyn datblygu gwelliannau gwirioneddol a pharhaus mewn perthynas ag iechyd a gofal i bawb ledled Gogledd Cymru.

Rydym yn gwybod bod pobl yn teimlo'n rhwystredig ynghylch yr amser y mae'n rhaid iddynt aros i gael apwyntiadau, boed hynny mewn lleoliadau gofal sylfaenol, yn y gymuned, neu yn un o'n hysbytai acíwt.

Rydym yn dymuno gwella ein gwasanaethau er lles ein staff, ein cleifion a'r cyhoedd. Mae gennym staff gwych ledled y Bwrdd Iechyd, ac rydym yn dymuno sicrhau bod BIPBC yn lle gwych i weithio ynddo ac y gall y Bwrdd ddenu staff ar bob lefel, dal gafael ynddynt a'u datblygu.

Mae llawer o'r pryderon a godwyd gan Lywodraeth Cymru yn gysylltiedig â'n trefniadaeth fel Bwrdd Iechyd (ein trefn Lywodraethu), ac er mwyn gallu cynnig y gofal iechyd gorau posibl i bawb, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ni sicrhau'r drefniadaeth orau posibl i'n sefydliad ac fel Bwrdd o bobl sy'n gyfrifol am ofal iechyd.

Mae ein staff, ein timau a'n cymunedau yn haeddu cael y gorau ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio i sicrhau hynny.

Ein hymateb

Mae ein hymateb i gael ein gosod mewn Mesurau Arbennig yn cwmpasu nifer o gamau gweithredu i sicrhau y gallwn ni:

  • Fod yn Fwrdd sy'n gweithredu'n dda
  • Sicrhau bod gennym ni gynllun eglur a chyflawnadwy ar gyfer 2023/24
  • Cael ein harwain yn well ac ymgysylltu'n well
  • Gwella mynediad, canlyniadau a phrofiad ar gyfer dinasyddion
  • Bod yn sefydliad sy'n dysgu gwersi ac yn gwella ei hun

Y rhain yw ein pum canlyniad craidd.

Rydym yn cydweithio'n agos â'n timau a'n cydweithwyr ym mhob ardal a phob gwasanaeth ac â Llywodraeth Cymru i sicrhau y gallwn ni wella ym mhob maes, ar gyfer y presennol ac ymhell yn y dyfodol hefyd.

Cafodd ein hymateb (sef ein dull o fynd i'r afael â'r pryderon a fynegwyd) ei gymeradwyo yng nghyfarfod Bwrdd Iechyd BIPBC ar 25 Mai 2023. Mae rhagor o fanylion ynghylch ein hymateb ar gael yma.

Byddwn yn cynnig diweddariadau am ein cynnydd wrth i ni gwblhau pob un o gamau ein hymateb, o sefydlogi i gynaliadwyedd.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni trwy e-bostio: BCU.SpecialMeasures@wales.nhs.uk

Diweddariadau blaenorol am y Mesurau Arbennig

Mae diweddariadau blaenorol am y Mesurau Arbennig ar gael yma.