Neidio i'r prif gynnwy

Yr Athro Mike Larvin

Cafod Mike ei eni a’i fagu yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr ac astudiodd Seicoleg ac yna Meddygaeth yn Ysbyty Guy yn Llundain. Enillodd ddoethuriaeth ymchwil o Brifysgol Leeds a chwblhaodd hyfforddiant mewn Llawfeddygaeth yr iau a'r pancreas yno, ar ôl cymrodoriaethau yn yr UDA, Sweden a’r Almaen.

Ym 1993, cafodd ei benodi fel Uwch Ddarlithydd Ymgynghorol yn Ysgol Feddygaeth Guy ac Ysbyty Athrofaol Lewisham. Ym 1996, dychwelodd i Leeds lle’r oedd yn Gyfarwyddwr Llawfeddygaeth i Ysbytai Addysgu Leeds a chafodd ei ethol fel Athro Hunterian yng Ngholeg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr.

Yn 2002, ymunodd â Phrifysgol Nottingham fel Athro Llawfeddygaeth o fewn y tîm datblygu Mynediad Graddedigion i’r Ysgol Feddygol, gan ymuno hefyd â’r tîm Canser Pancreas rhanbarthol yn ogystal â datblygu Gwasanaeth Llawfeddygol Bariatrig yn Nwyrain Canolbarth Lloegr.

Yn 2012, daeth yn Bennaeth ar Ysgol Feddygaeth newydd Prifysgol Limerick yn Iwerddon ac roedd yn aelod o Fwrdd Nyrsio a Bydwreigiaeth Iwerddon. O 2017, ymunodd â Choleg Brenhinol y Llawfeddygon yn ysgol feddygol newydd Iwerddon yn Kuala Lumpur, Maleisia fel Deon, gan ddychwelyd i'r DU yn 2021 fel Pennaeth Gweithredol Ysgol y Gwyddorau Meddygol ac Iechyd ym Mhrifysgol Bangor a Llawfeddyg Ymgynghorol Anrhydeddus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Wedi cynghori ar ddatblygiadau ysgolion meddygol newydd yn y DU a thramor, mae Mike yn arwain y datblygiad o’r Ysgol Feddygaeth newydd yng Ngogledd Cymru, a fydd yn agor yn nhymor yr Hydref 2024 yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Credai y bydd hyn yn helpu i ddatrys diffygion staffio’r rhanbarth yn ogystal â gwella mynediad at ofal iechyd ar draws Gogledd Cymru, yn enwedig i siaradwyr Cymraeg.