Neidio i'r prif gynnwy

Urtha Felda

Mae Urtha, yn unigolyn sydd â chefndir o weithio o fewn prosiectau arwain y trydydd sector ar draws gogledd Cymru am 35 mlynedd. Mae Urtha wedi gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gefnogi pobl agored i niwed sy'n sâl, yn byw gyda digartrefedd, ac yn ffoi rhag trais.  Mae ei gwaith hefyd wedi rhychwantu'r sector addysg mewn Addysg Bellach, Addysg Uwch, ac yn y gymuned.  

Ar hyn o bryd mae Urtha yn ymwneud â datblygu polisi gyda NASUWT Undeb yr Athrawon, gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn Gadeirydd Paneli Addasrwydd i Ymarfer, ac fel darlithydd gyda'r Brifysgol Agored yn y gyfraith i weithwyr cymdeithasol.  Mae Urtha wedi hyrwyddo ymgysylltiad dinasyddion a defnyddwyr gwasanaeth wrth ddylunio, darparu a monitro gwasanaeth yn ei holl waith.  Mae hi wedi cadeirio Grŵp Ymgysylltu â Defnyddwyr y Gwasanaeth Ystum a Symudedd, wedi dal swydd Llywodraethwr Canolfan Walton, Is-gadeirydd Cynghrair Niwrolegol Cymru, Cyd-gadeirydd Fforwm Gwerth Cymdeithasol Gogledd Cymru ac ymddiriedolwr nifer o sefydliadau'r trydydd sector.  Mae gan Urtha MA mewn Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol, a Diplomâu Ôl-raddedig yn y Gyfraith, ac mewn Arweinyddiaeth Gofal Iechyd.