Neidio i'r prif gynnwy

Phil Meakin

Ymunodd Phil â’r Bwrdd Iechyd ym mis Awst 2022 fel Cyfarwyddwr Cyswllt Llywodraethu. Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Cyswllt Llywodraethu ym Mwrdd Gofal Integredig Sir Gaer a Glannau Mersi. Mae Phil wedi bod mewn rolau uwch gyda Gwasanaethau Cymunedol, Datblygiad Darparwyr Gofal Sylfaenol a Chymorth Comisiynu.

Ymunodd Phil â’r GIG o Sky, lle’r oedd yn Rheolwr Gweithrediadau Cenedlaethol ar gyfer Sky yn Iwerddon. Ymunodd â’r GIG am ei fod eisiau defnyddio’r sgiliau sydd ganddo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gleifion, y gweithlu a chymunedau.

Mae Phil yn hoff iawn o chwaraeon ac mae’n “amatur brwdfrydig” wrth chwarae hoci, ac mae’n mwynhau cwmni ei deulu a’i ffrindiau.