Fe dreuliodd Teresa Owen, sy'n siarad Cymraeg, blentyndod hapus yn Nyffryn Conwy cyn cael gradd Dosbarth Cyntaf mewn maeth a dieteteg, ac mae'n athrawes ysgol uwchradd gymwysedig. Roedd ei swydd gyntaf gyda Hybu Iechyd Cymru gynt, fel Addysgwr Bywyd Gogledd Cymru. Yn dilyn hyn fe weithiodd fel dietegydd datblygiad cymunedol yn Ysbyty Glan Clwyd. Yn 2008, fe gymhwysodd Teresa fel Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, cyn ymuno ag NHS Wirral, lle daeth yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd.
Dywedodd “Rwyf wrth fy modd cael dychwelyd i Ogledd Cymru i weithio. Mae'n fraint gwasanaethu fy nghymunedau a gwella iechyd a llesiant yma. Rwyf wedi mwynhau fy amser yn Hywel Dda, ac wrth gwrs byddaf yn gweld colli fy nghydweithwyr a'm ffrindiau yno, ond mi wnawn gadw mewn cysylltiad, yn anad dim drwy Grŵp Cydweithredol Canolbarth Cymru y mae BIPBC a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio gyda'i gilydd arno.”