Neidio i'r prif gynnwy

Jane Moore

Ymunodd Jane â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus ym mis Tachwedd 2023 gyda hanes sylweddol o weithio i leihau anghydraddoldebau iechyd, gwella gwybodaeth iechyd y boblogaeth ac o gyflawni trawsnewid strategol effeithiol yn y GIG.

Cydlynodd Jane ymateb y system iechyd i’r pandemig COVID-19 yn Swydd Stafford a Stoke-on-Trent, bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Atal a Llesiant ar gyfer Awdurdodau Cyfun Gorllewin Canolbarth Lloegr, a hi ddatblygodd y Ddinas Marmot gyntaf fel Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yn Coventry. Cyn hynny, ymgymerodd â nifer o rolau cenedlaethol a rhanbarthol yn y GIG gan gynnwys Cyfarwyddwr Ansawdd a Diogelwch Cleifion yn yr Adran Iechyd. Fel Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yn Llundain, Jane oedd yn arwain rhaglen sgrinio prifddinas y DU a’r cynlluniau parodrwydd, gwydnwch ac ymateb brys ar gyfer GIG Gogledd-ddwyrain Llundain yn ystod Gemau Olympaidd Llundain yn 2012.