Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch â ni

Gweithio i ni

Gall y GIG yng Ngogledd Cymru gynnig gyrfa werth chweil i chi. Mae gennym ni swyddi gwag ar draws llu o broffesiynau yma. Rydym yn ffodus i gyflogi nifer sylweddol o bersonél milwrol sy'n gwasanaethu a hefyd fel aelodau o'r lluoedd Wrth Gefn (rhan-amser). Mae milwyr wrth gefn yn rhoi o’u hamser sbâr, y tu allan i’w rôl GIG i wasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Er mwyn cyrraedd ymgeiswyr yng nghymuned y Lluoedd Arfog, rydym hefyd yn hysbysebu swyddi gyda'r Bartneriaeth Pontio Gyrfa (CTP)

Rydym yn cynnig llawer o gymhellion i’n personél lluoedd Wrth Gefn sy’n gwasanaethu, mae enghreifftiau’n cynnwys: 

  • pythefnos o wyliau ychwanegol ar gyfer ymarferion lleoli blynyddol
  • Polisi Hyfforddi a Symud Lluoedd Wrth Gefn Cymru Gyfan (WP38) penodedig
  • mynediad at Therapyddion Cyn-filwyr (VTs) penodol gyda chyfeiriad ymlaen i lwybr GIG Cymru i Gyn-filwyr, lle bo’n briodol
  • Mynediad at ein gwasanaeth iechyd galwedigaethol, gan gynnwys hunangyfeirio at gwnsela
  • Cydweithio ag unedau lleol Wrth Gefn ar leoli, hyfforddi ac addysg

Rhaglen Camu i Iechyd

Rydym yn adnabod y gwerth y daw personél y Llu Awyr, Cyn-filwyr a theuluoedd Milwraidd ag ef i'n Gweithlu.

Ar 16 Mehefin 2022, rydym wedi gwneud addewid i ymuno â rhaglen Step into Health sy'n cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog i fanteisio ar y cyfleodd gyrfaol sydd ar gael yn y GIG.

Rydym yn adnabod y gwerthoedd a'r sgiliau trosglwyddadwy y gall cymuned y Lluoedd Arfog ddod â nhw i'r GIG megis:

  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • Cyfathrebu a Gwaith Tîm
  • Teyrngarwch ac Ymrwymiad
  • Y gallu i addasu i Newid

Byddwn yn cefnogi rhaglen Step into Health drwy:

  • Adolygu arferion recriwtio a dileu unrhyw rwystrau i recriwtio aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog
  • Rhannu manylion cyswllt perthnasol Step into Health
  • Adeiladu perthynas gyda'r Career Transition Partnership (CTP)
  • Defnyddio'r brand Step into Health i hyrwyddo negeseuon cyson ynghylch y rhaglen
  • Defnyddio system ymgeiswyr Step into Health i gofnodi rhyngweithiadau gydag ymgeiswyr posibl ac i gyfeirio rhwng sefydliadau’r GIG, yn ôl yr angen

Byddwn hefyd yn gwella ein hymrwymiad i Step into Health drwy:

  • Gynnal diwrnodau mewnwelediad/digwyddiadau rhithiol i godi ymwybyddiaeth o yrfau’r GIG gyda chymuned y Lluoedd Arfog
  • Cynnig lleoliadau gwaith/teilwra cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog a chynnig cymorth i'r rheiny sy'n gwneud cais am swydd wag
  • Darparu cymorth ar gyfer ymadawyr gwasanaethau sydd ag anghenion ychwanegol
  • Hyrwyddo’r rhaglen a rhannu negeseuon drwy gyfrwng ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol
  • Sefydlu rhwydwaith cyn-fyfyrwyr i staff sydd wedi dod o hyd i gyflogaeth drwy’r rhaglen
  • Creu partneriaethau â sefydliadau GIG eraill yn y rhanbarth i rannu arfer gorau a gwneud defnydd effeithlon o adnoddau
  • Cefnogi ymgeiswyr yn y GIG a allai fod yn awyddus i ymgartrefu yn rhywle arall
  • Cefnogi, lle'n bosibl, deuluoedd y lluoedd sydd angen lleoli am resymau gwasanaeth
  • Cysylltu, pan fo angen, gyda sefydliadau GIG eraill sydd wedi croesawu ymgeiswyr sy’n symud i'n rhanbarth

Fel aelod-sefydliad, byddwn yn darparu cymorth a chyngor ynghylch gweithio i'r GIG. I gael mynediad i raglen Step into Health, cofrestrwch ar gyfer Step into Health.

I gyrraedd ymgeiswyr yng nghymuned y Lluoedd Arfog, rydym yn hysbysebu swyddi gyda Career Transition Partnership (CTP).

Os hoffech wybod mwy am raglen Step into Health yma yn BIPBC, e-bostiwch BCU.VeteranHealthcareCollaborative@wales.nhs.uk