Gwasanaethau Gofal Cychwynnol
Caiff sesiynau Gofal Cychwynnol sy’n cael eu trefnu bob dydd eu rheoli gan swyddog meddygol penodol a fydd yn gweld cleifion sy’n cael eu cyfeirio fel achosion brys i'r Uned. Caiff cyfeiriadau o ysbytai eraill eu trosglwyddo bob amser at y Meddyg Gofal Cychwynnol/ Meddyg sydd ar alwad (cyfeiriadau rhwng meddygon). Efallai y bydd rhai Meddygon Teulu neu Optometryddion yn gofyn am gael siarad â meddyg hefyd.
Mae tîm o Ymarferwyr Nyrsio Offthalmig, sy’n rhoi gofal a chymorth yn ôl yr angen, yn cefnogi’r adran. Gall ymarferwyr asesu, rhoi diagnosis, trin a rhagnodi meddyginiaeth at amrywiaeth o gyflyrau segment blaen gan ddefnyddio cyfarwyddebau grwpiau cleifion.
Yn achos cyflyrau sy’n effeithio ar y segment ôl, mae ymarferwyr yn cofnodi hanes y claf ac yn cynnal archwilio golygol cyn cyfeirio at staff meddygol. Ar hyn o bryd, mae ymarferwyr yn gweld rhyw 60% o gleifion gofal llygaid mewn apwyntiadau annisgwyl.
|