Byddwn yn eich cadw mor ddiogel â phosibl yn ein hadeiladau gofal iechyd. Yr oll rydym yn ei ofyn yw eich bod yn ein helpu drwy ddilyn y cyngor, arweiniad a gwybodaeth a roddir i chi gan ein staff.
Rydym yn ceisio cyfyngu ar y niferoedd o ymwelwyr â’n hysbytai ac mae ymweliadau ysbyty yn parhau i fod wedi’u hatal. Gofynnwn i chi beidio dod â hebryngydd oni bai bydd wir angen. Os na allwch fynychu, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
Gellir gweld gwybodaeth am wasanaethau caffi, siopao a gwasanaethau troli ein ysbyty, eiddor cleifion megis dyfeisiau symudol, atal haint, hylendid dwylo, PPE, arfer peswch, diogelu ein amgylchedd gofal iechyd a gadael y ward yn y daflen hon (PDF).