Hysbysiadau Preifatrwydd Eraill nad ydynt yn ymwneud â Pholisi Preifatrwydd y wefan hon, ar sut rydym ni fel Bwrdd Iechyd yn prosesu ac yn rhannu eich gwybodaeth a'ch data mewn mannau eraill dim ond pan fo'n hanfodol.
COVID-19
Gellir rhannu gwybodaeth am statws coronafeirws (COVID-19) cleifion gyda’r GIG a phartneriaid eraill sy’n gysllltiedig â’u gofal a thriniaeth, ynghyd â:
- GIG Cymru
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Yr Adran Iechyd
- Yr Heddlu
- Adrannau eraill y llywodraeth y mae ei hangen yn gyfreithiol, neu os yw'n angentheidiol i warchod iechyd y cyhoedd neu i reoli'r achos.
Y sail gyfreithiol yw Erthygl GDPR 6(1)(c), cydymffurfiad gyda goblygiad cyfreithiol, neu Erthygl 6(1)(e), bod prosesu’n angenrheidiol ar gyfer perfformiad tasg a ymgymerir er lles y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol (darparu gwasanaethau gofal iechyd statudol).
Gweithredir yr eithriadau yn Erthygl GDPR 9(2)(h) a 9(2)(i), lle bydd prosesu yn angenrheidiol ar gyfer materion o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol neu ar gyfer rheoli systemau gofal iechyd.
Hefyd, ymgysylltir yr amodau ym mharagraff 2 (rheoli systemau gofal iechyd), 3 (iechyd cyhoeddus) a 6 (pwrpasau statudol a llywodraeth) atodlen 1 Deddf Gwarchod Data 2018.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â BCU.DPO@wales.nhs.uk