Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn ei defnyddio. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech chi allu:

  1. newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau eich porwr neu ddyfais
  2. chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  3. llywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais
  4. gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym ni'n gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  1. Nid yw rhai tudalennau a dogfennau yn cynnwys testun â chyferbyniad lliw da.
  2. Mae llawer o ddogfennau mewn fformatau nad ydynt yn HTML, er enghraifft PDF.
  3. Nid yw rhai tudalennau yn cynnwys penawdau sydd wedi'u trefnu'n rhesymegol.
  4. Ni ellir defnyddio rhai tudalennau'n llawn gyda'r bysellfwrdd.
  5. Nid yw trefn ffocws rhai tudalennau yn rhesymegol.
  6. Mae’n bosibl na fydd rhannau o rai tudalennau a dewislenni'n gweithio’n dda gyda thechnolegau cynorthwyol, fel rhaglenni darllen sgrin.
  7. Nid oes testun amgen da ar gyfer rhai delweddau.
  8. Mae'n bosibl na fydd modd defnyddio rhai tudalennau a ffurflenni ar-lein yn llawn gyda'r bysellfwrdd.
  9. Nid oes disgrifiadau hygyrch ar rai dolenni.
  10. Nid oes gan rai delweddau a ddefnyddir i gyfleu gwybodaeth gyferbyniad lliw da.
  11. Nid oes trawsgrifiadau/disgrifiadau sain ar rai fideos.
  12. Mae rhai rhannau o'r wefan fel Amdanom Ni, gan gynnwys rhai tudalennau o dan Gwasanaethau yn cynnwys dogfennau PDF ac nid ydynt yn hygyrch.

Adborth a manylion cyswllt

Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, e-bostiwch y Tîm Cyfathrebu Digidol yn y lle cyntaf a byddwn yn cefnogi gyda'ch ymholiad, a/neu drosglwyddo eich cais i'r adran berthnasol. 

Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS)
Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â'r wasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS).

Canolfan Arwyddo-Golwg-Sain (COS)
Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu dwy ffynhonnell allweddol o gymorth ychwanegol mewn cydweithrediad â'r Ganolfan Arwyddo-Golwg-Sain (COS). Gall COS roi cymorth wrth drefnu a newid apwyntiadau, gan roi cyngor ac arweiniad a'ch helpu i gyfathrebu'n effeithiol â'r Bwrdd Iechyd, meddygon teulu a gwasanaethau iechyd eraill. Gallant hefyd roi Cerdyn Cyfathrebu Iechyd Hygyrch i chi sy'n eich helpu chi i egluro eich anghenion cyfathrebu yn hawdd â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae'r rhain hefyd ar gael gan ein Hadran Awdioleg. Mae gwybodaeth gyswllt ar gyfer y gwasanaeth hwn ar gael ar wefan Canolfan Arwyddo-Golwg-Sain (COS)

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd y wefan hon
Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, e-bostiwch y Tîm Cyfathrebu Digidol

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi'n hapus â’r ffordd rydym ni'n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan wedi'i phrofi yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 AA (WCAG) yn llawn. Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2. Rhestrir y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

  1. Nid oes disgrifiadau delwedd addas bob amser ar rai tudalennau. Mae'n bosibl na fydd gan ddefnyddwyr technolegau cynorthwyol fynediad at wybodaeth sy'n cael ei chyfleu mewn delweddau. Nid yw'n bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1, WCAG 2.2 AA (Cynnwys di-destun).
  2. Mae gan rai dogfennau PDF deitlau coll yn y ddogfen PDF. Nid yw'n bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.2, WCAG 2.2 AA
  3. Mae gan rai dogfennau elfennau nad ydynt wedi'u tagio'n gywir. Nid yw'n bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1, WCAG 2.2 AA
  4. Mae rhai delweddau yn defnyddio lliw fel yr unig fodd o gyfleu ystyr. Nid yw'n bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.1, WCAG 2.2 AA (Defnydd o liw).
  5. Mae rhai delweddau yn cynnwys testun sydd â chyferbyniad lliw gwael yn gefndir. Nid yw'n bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3, WCAG 2.2 AA (Cyferbyniad (Lleiafswm).
  6. Mae gan ddogfennau elfennau nad oes ganddynt ddigon o gyferbyniad lliw. Mae hyn yn cynnwys penawdau tabl. Nid yw'n bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm), WCAG 2.2 AA
  7. Mae rhai tudalennau yn defnyddio delweddau o destun yn lle testun. Nid yw'n bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.5, WCAG 2.2 AA (Delweddau o destun).
  8. Nid oes gan rai delweddau ddewis arall testun, felly ni all pobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin gael mynediad at y wybodaeth. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 AA maen prawf llwyddiant 1.1.1 (cynnwys nad yw'n destun). Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau yn cyrraedd safonau hygyrchedd.

Baich Anghymesur

O dan Reoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch. Fodd bynnag, rydym wedi penderfynu y byddai bodloni rhai gofynion hygyrchedd yn achosi baich anghymesur i'n Bwrdd Iechyd.

Y rheswm dros yr Asesiad hwn o Faich Anghymesur yw'r nifer sylweddol o ddogfennau PDF anhygyrch ar wefan y Bwrdd Iechyd. Cafodd y dogfennau hyn eu creu dros nifer o flynyddoedd gan amrywiaeth o awduron ledled y Bwrdd Iechyd, ac nid ydynt yn bodloni gofynion canllawiau hygyrchedd WCAG 2.2 AA

Arolwg Adborth

Rydym yn ymwybodol o'r materion canlynol gyda'r ffurflen Arolwg Adborth

  • Nid yw'r ffocws bysellfwrdd i'w weld wrth tabio rhwng dewis 'Ward/Adran/Gwasanaeth' a 'Cymerwch arolwg' 
  • Materion AXE: WCAG 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth- Angenrheidiol Rhaid darparu priodoleddau ARIA
  • AXE: Rhaid i briodoleddau ARIA gydymffurfio â gwerthoedd dilys
  • AXE: Rhaid i elfennau ffurf fod â labeli 

Amserlen i ddatrys y problemau: Mae Cronfa Risg Cymru yn gweithio gyda Civica ar uwchraddio'r system (GIG Cymru yn gyfan), rhwng 17-24 Chwefror 2025.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. 

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd y byddwn ni'n eu cyhoeddi yn bodloni safonau hygyrchedd.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd.

Beth rydym ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

  • Rydym ni'n cydweithio â Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Llywodraethu Corfforaethol ac adrannau ac asiantaethau eraill y Bwrdd Iechyd i drwsio cynnwys nad yw’n bodloni safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We. Fersiwn 2.2.
  • Ar dudalen we, rydym yn darparu gwybodaeth gyswllt ar gyfer yr adran berthnasol pe bai angen fformat arall o wybodaeth neu gymorth pellach.
  • Rydym yn gweithio'n rheolaidd drwy wahanol rannau o'r wefan yn nhrefn blaenoriaeth a/neu adrannau hŷn i ddiweddaru, adnewyddu a thrwsio materion gyda hygyrchedd cynnwys ar y tudalennau hynny.
  • Mae'r Tîm Cyfathrebu Digidol wrthi'n ysgrifennu papur sy'n amlinellu sut rydym yn bwriadu rheoli cyhoeddi dogfennau hygyrch (megis papurau'r Bwrdd, cynlluniau, adroddiadau a llenyddiaeth cleifion) a gwybodaeth. Yn dilyn cyflwyno'r papur hwn, byddwn yn sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn o fis Chwefror 2025. Byddwn yn ychwanegu rhagor o wybodaeth yma ar ôl cynnal trafodaethau ar lefel y Gweithredwyr ym mis Ionawr 2025.
  • Mae Cyfarwyddiaethau Llywodraethu Corfforaethol a Partneriaethau, Ymgysylltu a Chyfathrebu  wrthi'n ysgrifennu papur sy'n amlinellu sut rydym yn bwriadu rheoli cyhoeddi dogfennau hygyrch (megis papurau'r Bwrdd, cynlluniau, adroddiadau a llenyddiaeth cleifion) a gwybodaeth. Yn dilyn cyflwyno'r papur hwn, bydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei sefydlu i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn o fis Chwefror 2025. Bydd diweddariadau yn cael eu darparu yma ar y cam nesaf, unwaith y bydd penderfyniadau wedi'u gwneud ar lefel Weithredol a gall y gwaith ddechrau.

Archwilio sampl

Rydym wedi cyflwyno archwiliadau rheolaidd ar sampl o'n gwefan bob chwarter gan defnydio axe DevTools, gyda'r archwiliad nesaf yn cael ei gynnal ym mis Ebrill 2025. Byddwn yn ceisio datrys yr holl wallau a materion a godwyd yn yr archwiliad arferol o fewn yr un mis o'r archwiliad. Gwnaethom archwilio sampl o'r wefan ddiwethaf ar 14 Ionawr 2025, byddwn yn archwilio'r wefan nesaf ar 14 Ebrill 2025. 

Llunio'r datganiad hygyrchedd hwn

Lluniwyd y ddogfen hon ar 16 Ionawr 2019 Cafodd ei hadolygu ar 27 Rhagfyr 2024, i'w adolygu ar 27 Mawrth 2025.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 22 Hydref 2024 yn erbyn safon AA WCAG 2.2. Cynhaliwyd y prawf gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth. Defnyddiwyd cymysgedd o wiriadau llaw syml a phrofion awtomataidd i ganfod y rhwystrau mwyaf cyffredin i ddefnyddwyr ag anghenion hygyrchedd.

Adroddiad hygyrchedd bipbc.gig.wales