Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys Ymgynghorol Dementia

Croeso i'n blog

Nyrsys Ymgynghorol Dementia newydd y Bwrdd Iechyd. Byddwn yn rhannu ein meddyliau a’n profiadau yma ar ein blog yn rheolaidd ac rydym yn gobeithio y bydd o ddiddordeb i chi os ydych chi neu rywun rydych chi’n eu hadnabod, neu’n gofalu am rywun yn bersonol neu’n broffesiynol, yn byw â dementia. Os oes unrhyw beth yr hoffech i ni ei drafod cysylltwch â ni. Mi fuasem hefyd yn croesawu unrhyw un i gymryd rhan fel un o’n blogwyr gwadd. Cysylltwch â ni drwy e-bost BCU.DementiaNurseConsultants@wales.nhs.uk neu gallwch gymryd rhan drwy drydar @dementia_nurses.  

30/07/2022

Mae blog y mis hwn yn cyflwyno Diane Sweeney, Gweithiwr Cymorth Gweithgareddau Dementia o Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug, sydd wedi recordio fideo am ei rôl a’i llwyddiant diweddar wrth ennill gwobr gymunedol.

Rôl Diane yw cefnogi cydweithwyr a chleifion gyda gweithgareddau ystyrlon sy’n mynd â sylw cleifion, ond sydd hefyd â rhywfaint o fudd therapiwtig, megis cadw meddyliau cleifion yn graff a'u hysgogi, a’u helpu i gadw cysylltiad cymdeithasol. Ychwanegodd y Pandemig heriau i’r rôl ond ymatebodd Diane yn fedrus trwy ddyfeisio Llyfrau Cof fel arf i ymgysylltu â theuluoedd a chyflawni gweithgareddau un-i-un yn hytrach na gyda grwpiau bach. Ymgysylltodd Diane hefyd ag ysgol leol Bryn Gwalia, a’r prifathro newydd i ddod o hyd i ffyrdd o alluogi rhyngweithio â chleifion i’w helpu drwy’r pandemig. Un gweithgaredd rhwng y cenedlaethau oedd defnyddio’r platfform fideo-gynadledda ‘Zoom’ i fwynhau canu carolau Nadolig. Roedd un arall yn cynnwys y plant yn cerdded gyda llusernau i'r ysbyty i ganu y tu allan a chwifio eu goleuadau ar gyfer y cleifion. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach enillodd Diane a'r tîm wobr gymunedol leol gan Gyngor Tref yr Wyddgrug am y gwaith ysbrydoledig hwn.

Daeth Diane hefyd â pherfformwyr ifanc o Theatr Clwyd i mewn a ymwelodd â’r ysbyty cymunedol i berfformio drama ac amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer y cleifion. Oherwydd y pandemig, drwy'r ffenestri roedd y cleifion yn gwylio'r cynnwys ond roedd y gweithgareddau'n cynnwys rhannu eitemau wedi'u pobi a chwarae gemau ar y ffenestri.

Mae hyn yn enghraifft o waith syfrdanol gan un o’n cydlynwyr gweithgareddau talentog niferus sydd gennym ni yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'r buddion i gleifion a theuluoedd wedi bod yn sylweddol. Da iawn Diane a'i chydweithwyr/partneriaid am ddangos y fath dosturi a chreadigrwydd - yr union beth rydym yn anelu ato yn y Bwrdd Iechyd!

23/06/2022

 

Ar hyn o bryd, mae hyfforddiant ynghylch dementia ar Lefel 1 (Gwybodus) yn BIPBC yn cael ei ddarparu ar ESR ac mae'n orfodol i bob aelid o staff. Os ceir cymeradwyaeth derfynol, rydym yn gobeithio y bydd hyfforddiant ynghylch dementia ar Lefelau 2 a 3 (Medrus a Dylanwadwr) ar gael ar 1 Gorffennaf trwy gyfrwng y tudalennau'r Tîm Addysg a thudalennau Dementia BetsiNet. Caiff y manylion eu rhaeadru fel rhan o lansiad yr hyfforddiant yn nes at y dyddiad hwn.

I raddau helaeth, nid oedd hyfforddiant ar Lefel 2 a 3 ar gael oherwydd y pandemig, felly mae'n gyffrous iawn gwybod y bydd gennym ni fynediad at lwyfan hyfforddiant ar-lein Finding the Light in Dementia gan Duetcare Ltd, a fydd ar gael ar gyfer 4,000 o aelodau staff, 24/7 a 365 diwrnod y flwyddyn, dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae'r cwrs yn cynnwys 6 modiwl y mae angen eu hastudio yn eu trefn ac mae angen cyflawni 80% i lwyddo ym mhob modiwl. Mae'r rhyngwyneb yn llawer haws i'w ddefnyddio nag ESR ac mae'n bleser i'w ddefnyddio. Mae'n cynnwys fideos, podlediadau, seinweddau a chyflwyniadau, ac nid yw'n 'drwm'.

Mae'r modiwlau yn cynnwys:

1. Deall Dementia

2. Cyfathrebu a Chysylltu

3. Defnyddio Cofion i Gadw mewn Cysylltiad

4. Creu Lle Diogel, Digyffro

5. Deall Hwyliau, Emosiynau ac Ymatebion

6. Fi yw Fi o hyd!

Mae'r cynnwys wedi'i fapio yn unol â gofynion Sgiliau ar gyfer Gofal, Y Fframwaith Gwaith Da, Safonau Hyfforddiant y GIG a Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Gall staff gofrestru i wneud yr hyfforddiant yn eu hamser eu hunain, ond rydym yn gobeithio y bydd yn bennaf yn rhan o'r dysgu ffurfiol a gymeradwyir trwy gyfrwng prosesau datblygu staff.

I sicrhau'r safonau gorau posibl o ran yr holl ofal dementia sydd ar gael gan y Bwrdd Iechyd, bydd angen i ni fuddsoddi yn hyn a mathau eraill o hyfforddiant o ansawdd uchel ynghylch dementia ar gyfer ein gweithlu. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau na chaiff hyfforddiant ynghylch dementia ei ymgorffori mewn mathau eraill o hyfforddiant ac na fydd yn digwydd mewn 'swigen'. Er enghraifft, mewn hyfforddiant ynghylch Gofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, byddwn yn cynnwys enghreifftiau o brofiad cleifion dementia o ofal sy'n ystyried

mai hwy yw'r 'unigolyn', nid 'y diagnosis'. Mewn hyfforddiant ynghylch Rheoli ac Atal Codymau, byddwn yn ceisio sicrhau y cynhwysir gwybodaeth am bwysigrwydd amgylcheddau sy'n addas i bobl y mae dementia arnynt, megis osgoi lloriau sgleiniog neu newid dirybudd yn lliw'r llawr a all ymdebygu i stepen neu dwll, ac a allai wneud i bobl faglu.

Ond peidiwch â derbyn fy ngair i - dyma ychydig eiriau gan ddarparwr y cwrs, Dr Jane Mullins

Pam Finding the Light in Dementia?

Mae'n debyg eich bod wedi sylwi fod gan lawer o bobl rydych chi'n gofalu amdanynt rywfaint o nam gwybyddol, neu fod dementia arnynt. Felly, beth yw arwyddocâd hyn i chi?

Wel, mae gwybyddiaeth yn ymwneud â sut ydym yn deall y byd sydd o'n cwmpas ni trwy gyfrwng ein meddyliau, ein profiadau a'n synhwyrau. Pan fydd salwch a chlefydau yn effeithio ar hyn, gall achosi anawsterau o ran sut byddwn yn synhwyro'r byd sydd o'n cwmpas, yn cofio pethau, pobl a lleoedd, yn cyfleu ein hanghenion, yn barnu ac yn gwneud penderfyniadau. Byddai'n arswydus iawn pe na allem wneud hyn!

Dychmygwch fod mewn lle anghyfarwydd, â golygfeydd a synau dieithr, a dieithriaid yn gwneud penderfyniadau ar eich rhan. Pa mor frawychus yn hynny? Dyma'n aml fydd profiad unigolion o fod mewn ysbyty os oes ganddynt rywfaint o nam gwybyddol neu os oes dementia arnynt. Ond gallwn gydweithio a newid hyn, mewn modd pleserus a chreadigol.

Ceir llawer o fythau ynghylch beth yn union yw dementia a sut mae'n effeithio ar bobl. Trwy wrando ar straeon pobl mewn ffilmiau a phodlediadau, rydych ar fin chwalu'r mythau hynny ac yn cael cyfle i ddysgu llawer o ffeithiau pwysig iawn ynghylch beth yn union yw dementia, sut gall unigolion brofi eu byd, a beth allwn ni ei wneud i helpu. Wrth wneud hynny, byddwch yn magu llawer iawn mwy o hyder ac yn cael llawer mwy o bleser a boddhad wrth wneud eich gwaith beunyddiol.

Mae Finding the Light in Dementia, sy'n cynnwys llawer o animeiddiadau, ffilmiau a phodlediadau difyr, yn llwyddo i wneud hynny! Mae'n eich helpu chi i lywio trwyddi ac yn eich helpu i ofalu am yr unigolyn ac amdanoch chi eich hun. Un fantais ychwanegol enfawr yw'r ffaith y byddwch hefyd yn cael mynediad at 'hwb lles' sy'n cynnwys llawer o ffilmiau, seinweddau a phodlediadau i'ch helpu i ofalu amdanoch chi eich hun hefyd.

Felly dewch i gyfranogi, a mwynhewch y profiad!

30/05/2022

Ar 6 Ebrill 2022, cafodd Siarter Ysbytai sy'n Deall Dementia yng Nghymru newydd ei lansio. Y Siarter yw'r datblygiad diweddaraf mewn cyfres o gyhoeddiadau sydd â'r nod o wella safonau gofal dementia ar draws lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r Siarter yn cynnwys 105 o egwyddorion y dylai ysbytai eu dilyn os byddant yn deall dementia. Cafodd y gwaith o ddatblygu'r Siarter ei hwyluso gan Gwelliant Cymru sydd â thîm a rhaglen waith pwrpasol i wella gofal dementia'n genedlaethol. Yn bennaf, bwriedir i'r Siarter ategu at Lwybr Gofal Dementia Cymru Gyfan Safonau i Gymru ond mae hefyd yn berthnasol i Gynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia, arweiniad Dementia NICE (Dementia a llawer o gynlluniau gweithredu/dysgu o brosesau cwynion BIPBC ac at. 

Mae'r Siarter lawn ar gael yma

Mae'r gwaith Siarter yn un o bum ffrwd ar waith dementia sy'n ofynnol gan Gwelliant Cymru. Mae ffrydiau gwaith eraill yn cynnwys Ymgysylltu; Asesu'r Cof/Anabledd Dysgu/Nam Gwybyddol Ysgafn; Cysylltwyr Dementia; a Datblygu'r Gweithlu/Mesur/Dysgu a Datblygu.

Mae'r Siarter yn canolbwyntio'n benodol ar ofal ysbyty sy'n ei gwneud yn berthnasol i staff o bob disgyblaeth sy'n cyfrannu at daith y claf dementia ac at y profiad y gall y claf a'i deulu ei gael wrth ddefnyddio ein gwasanaethau. Wrth reswm, mae'r gofal hwnnw hefyd yn cael ei gynnig mewn partneriaeth ag ystod o asiantaethau. Mae cyd-destun ehangach yr hyn sy'n digwydd cyn derbyn i'r ysbyty ac yn ystod/ar ôl y cyfnod o fod yn yr ysbyty'n effeithio ar brofiad ysbyty ein cleifion dementia. Felly, mae i'r Siarter oblygiadau ar gyfer ystod o bartneriaid ac mae angen i'r broses o'i rhoi ar waith fod yn ymagwedd ar y cyd ac amlasiantaethol. I fod yn wirioneddol gynhwysol, bydd ei rhoi ar waith yn cynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd o ddementia, teuluoedd a ffrindiau a bydd yn adlewyrchu amrywiaeth yn ei hystyr ehangaf.

Mae Gwelliant Cymru wedi datblygu 'padlet' (storfa ar-lein) lle mae adnoddau o lansio'r Siarter, dogfennau'r Siarter ac adnoddau eraill ar gael. Mae'n cynnwys offeryn hunanasesu i sefydliadau ei ddefnyddio i arfarnu eu sefyllfa bresennol a phlatfform gwella ansawdd VIPS i staff ei ddefnyddio. Mae VIPS yn sefyll am Werthoedd, Anghenion Unigol, Persbectifau yn Saesneg. Mae'r padlet ar gael yma

Wrth lansio'r Siarter genedlaethol y mis diwethaf, cymerodd Gill Harris (Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Clinigol Integredig) ran yn y panel Holi ac Ateb ac arddangosodd Sophia Keene (Nyrs Datblygu Ansawdd ac Arferion MHLD) y gwaith arweiniad dementia ardderchog, sef 'Walking with Purpose' yr oedd wedi'i arwain.

Cofiwch: Gallai 'Walking with Purpose' fod yn fynegiant o anghenion heb eu diwallu

Cafodd y Siarter ei datblygu gyda chymorth gan ystod o staff BIPBC sydd â gwybodaeth ac arbenigedd am ddementia a bydd yn offeryn defnyddiol iawn. Er bod nifer fawr o egwyddorion wedi'u cynnwys, mae'r rhain yn fyr iawn felly bydd angen eu dehongli'n ofalus i sefydlu cynnydd hyd yma, ymgymryd â dadansoddiad o fylchau, ac i gynllunio nodau i'w cyflawni sy'n dod o adnoddau addas yn eu tro. Mae cynaliadwyedd yn allweddol - nid oes unrhyw bwrpas bod â newidiadau nad ydynt yn para. Ni chaiff y Siarter ddod yn rhestr i'w thicio (ac ni fydd yn gwneud hynny) a bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Bwrdd gefnogi buddsoddi digonol ynghyd â strategaethau rheoli newid effeithiol. Er bod y Siarter yn gynhwysfawr, nid yw'n berthnasol i bopeth sy'n bwysig ac mae angen sylw ychwanegol ar gyfer rhai adrannau fel profiad ac amrywiaeth gofalwyr teuluol. Caiff y broses o roi'r Siarter ar waith ei harwain gan yr Athro Tracey Williamson, Nyrs Ymgynghorol Dementia, sydd,

ynghyd ag Ami Kertsi (sydd hefyd yn Nyrs Ymgynghorol Dementia) yn rhan o dîm dementia sy'n ehangu ar draws BIPBC.

Rydym yn gobeithio penodi Rheolwr Siarter a ariennir yn rhanbarthol i gydlynu'r broses o'i rhoi ar waith ar draws BIPBC.

Mae llywodraethu gwaith dementia yn y Bwrdd Iechyd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd o ran lle'r ydym ni arni gyda'r camau gweithredu a lle y dylid adrodd ar gynnydd ac ati. Mae hyn yn golygu y caiff dementia ei ymgorffori'n gadarn yn y 'model gweithredu' newydd (y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei threfnu). Bydd rhoi'r Siarter ar waith yn gofyn am sefydlu grwpiau/mecanweithiau newydd er mwyn datblygu'r weledigaeth gyffredin ar gyfer gofal dementia ysbyty ac i sicrhau bod modd ei ddarparu. Bydd y gwaith hwn yn dechrau ymhen yr wythnosau nesaf ond yn gyntaf, mae angen i ni gael asesiad gwaelodlin o ble'r ydym ni arni gyda'n gwasanaethau dementia, i weld beth sydd ei angen yn ddiweddarach. Mae angen hefyd i ni edrych ar ba gamau gweithredu a gafodd eu cwblhau o ofynion a chynlluniau gweithredu yn y gorffennol i weld p'un a ydynt wedi cwblhau. Os ddim, byddwn yn mynd i'r afael â'r materion hyn hefyd. Yn y cyfamser, fe'ch anogir i ddarllen copi o'r Siarter ac i ddechrau sgyrsiau gyda chydweithwyr ac eraill am beth mae hyn yn ei olygu i chi a'ch ardaloedd. Mae Gwelliant Cymru yn ystyried bod eleni'n 'gam paratoi' i roi'r Siarter ar waith, felly mae amser i gael y sylfeini hyn yn gywir.

Un o ofynion y Siarter yw bod gan y Bwrdd Iechyd Aelod Gweithredol o'r Bwrdd sydd wedi'i ddynodi gyda chyfrifoldeb dros ofal dementia, ac rydym yn meddwl y bydd hyn yn fuddiol iawn. Bydd eu cymorth yn hynod werthfawr pan fyddwn yn cyflwyno Achos Busnes uchelgeisiol ar gyfer gwella gofal dementia, gan gynnwys cyflwyno'r Siarter, i'r Bwrdd Iechyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae dementia'n fater i bawb ac mae cleifion sydd â dementia'n defnyddio pob un o'n gwasanaethau ar draws BIPBC. Yr hyn sydd ei angen yw trawsnewid felly dyma groesi bysedd mai dyna'r hyn fydd yn dilyn ac y bydd y Siarter yn helpu i gyflawni hyn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arweinydd BIPBC Siarter Ysbytai sy'n Deall Dementia yng Nghymru 2022 - Tracey Williamson, Nyrs Ymgynghorol Dementia Tracey.Williamson@wales.nhs.uk.

21/04/2022

Gofal Dementia Tosturiol – Tracey Williamson

Yn ddiweddar rwyf wedi buddsoddi yn llyfr yr Athro Michael West ar Arweinyddiaeth Dosturiol. Rwy'n credu i mi ddefnyddio'r dull hwn yn eithaf da dros y blynyddoedd heb sylweddoli ond mae'r llyfr wedi bod yn ddarlleniad hynod ddefnyddiol i'm helpu i ddeall sut y gallaf helpu i gryfhau arweinyddiaeth dosturiol hyd yn oed ymhellach ynof fy hun ac eraill. Ym mis Mawrth, es i i gynhadledd a gynhaliwyd gan AaGIC y siaradodd yr Athro West ynddi ac fe wnaeth hyn fy ysbrydoli i wneud blog yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth dosturiol mewn gofal dementia.

Un o'r pethau y soniodd yr Athro West amdano oedd pwysigrwydd teimlo'n ddiogel a pherthnasoedd/cysylltiadau â phobl. Mae diogelwch mor bwysig i'n cleifion sy'n cael eu taflu i'n hamgylchedd waeth pa amser o'r dydd a'r nos, ac weithiau does fawr o amser na sylw'n cael ei roi i reoli'r profiad gan ein bod yn canolbwyntio ar eu cyflwr/rheswm dros gael eu derbyn. Mae'r ‘rhoi sylw’ yn allweddol i dosturi hefyd. Gweler y cwmpawd isod:

  • Ymddygiadau tosturiol: Cwmpawd arweinyddiaeth dosturiol
    • RHOI SYLW i’r rhai’r ydym yn eu harwain sy’n golygu bod yn bresennol gyda nhw. Mae’n gofyn i ni ‘wrando gyda diddordeb’ ar y rhai yr ydym yn eu harwain. - HELPU i sicrhau fod llwybr da ar gyfer y rhai yr ydym yn eu harwain iddynt gyflawni eu nodau drwy gael gwared ar rwystrau neu ddarparu’r anodau a’r cymorth i’w helpu i ddarparu gofal o ansawdd uchel.
    • DANGOS EMPATHI yw teimlo’r straen, y poenau, y pryderon a’r rhwystredigaethau o’r rhai ydym yn eu harwain heb gael ein llethu gan y teimladau hynny. Yna, mae hyn yn rhoi cymhelliant i’r arweinwyr helpu neu wasanaethu’r rhai yr ydym yn eu harwain.
    • Mae DEALLTWRIAETH yn ddibynnol ar wrando’n astud. Mae’n gofyn i ni gymryd amser i wrando er mwyn deall heriau sy’n wynebu’r rhai yr ydym yn eu harwain yn eu gwaith.

Rydym yn ‘rhoi sylw' i'n cleifion ac yn cydymdeimlo a ‘theimlo eu poen’ trwy ‘roi ein hunain yn eu sefyllfa’ i ddeall yn well sut maen nhw’n teimlo ac yna gallwn ymateb gyda thosturi. Yn rhy aml o lawer yn y busnes o ofalu, nid ydym bob amser yn gwerthfawrogi'r arfer o stopio a chymryd amser i fyfyrio. Cawn ein barnu’n aml gan yr hyn a wnawn sy’n weladwy a gellir ystyried sefyll yn llonydd a meddwl/myfyrio fel tindroi. Pryd wnaethon ni stopio ddiwethaf a meddwl sut brofiad yw'r sefyllfa ar gyfer aelod o deulu claf â dementia na allant ymweld ag ef/hi? A wnaethom ni wir geisio gweld y sefyllfa o'u safbwynt nhw? Eu perthynas â’r claf, eu bywyd eu hunain (gwaith/gofalu am eraill/iechyd ac ati) ac a wnaethom ni weithio hyd eithaf ein gallu i ymgysylltu â nhw a nodi ac yna bodloni eu hanghenion? Mae trin ein cleifion dementia yn llawer mwy na’u rhoi ar siart ymddygiad. Er y gall y siartiau hyn fod yn arfau defnyddiol, nid ydynt ond cystal â’r ystyriaeth a roddwn wedyn i bethau fel yr hyn a arweiniodd at eu trallod a’r hyn a dawelodd eu meddwl (gyda chymorth dogfennau Dyma Fi sydd wedi’u cwblhau’n dda a sgyrsiau holl bwysig gyda’r teulu i ddeall yr unigolyn yn well). Yn y modd hwn gallwn ddangos empathi a chymryd camau i'w cefnogi a thawelu eu meddwl.

Cymerwch eiliad i ystyried y darn hwn o lyfr yr Athro West a’i roi mewn modd sy'n berthnasol i sefyllfaoedd cleifion, teuluoedd a staff.

  • “Mae ymddygiad yn amlach o ganlyniad i’r sefyllfa y mae pobl ynddi yn hytrach na phersonoliaeth. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn deall y sefyllfa y mae pobl ynddi pan fydd eu hymddygiad yn broblemus. Mae arweinyddiaeth dosturiol yn gofyn am roi sylw i bobl a gwrando ar eu barn i sicrhau dealltwriaeth gynhwysfawr o’r sefyllfa.”

Ar adegau, gall gofal dementia yn arbennig ymddangos yn destun cynlluniau gweithredu, mesur, adrodd a chraffu. Dywed yr Athro West, waeth beth sydd ar wefan y Bwrdd Iechyd am werthoedd, mae ymddygiad arweinwyr yn datgelu’r hyn y maent yn ei werthfawrogi mewn gwirionedd. Mae gweithredu'n ymarferol yn hanfodol mewn gofal dementia. Mae’n faes sy’n gofyn am gryn sgil a dealltwriaeth. Dros y blynyddoedd lawer rwyf wedi bod yn nyrsio rwyf wedi clywed yn aml am nyrsys/nyrsys banc nad ydynt eisiau gweithio mewn maes sydd â chleifion â dementia cymedrol i ddifrifol. Rwy’n credu’n gryf bod llawer o hyn yn ymwneud â pheidio â deall beth sy’n digwydd i'r claf ar yr adegau nad ydynt yn ‘cydymffurfio’ (i bethau fel ymdrechion i roi gofal personol) neu’n mynd yn ofidus. Mae gen i'r un teimlad am gyfrifiaduron! Dydw i ddim yn eu deall yn dda felly rydw i'n eu hosgoi, ond fyddwn i ddim pe bawn yn cael cymorth i ddeall. Felly ym maes gofal dementia mae’n bwysig ein bod yn ‘rhoi sylw’ i anghenion ac ymddygiadau staff hefyd er mwyn i ni allu dangos

empathi a’u cefnogi’n well. Gall cleifion â dementia deimlo'n ofidus oherwydd newidiadau mewn amgylcheddau, sŵn, awydd bwyd ac ati, ac yn yr un modd gall staff deimlo'n ofidus o ganlyniad i orweithio, peidio cael sgwrs garedig neu'n syml drwy deimlo nad oes neb yn gofalu amdanynt. Er mwyn gwella ansawdd, mae'r Athro West yn sôn am weithio mewn tîm ac arfarniadau tîm. Pa mor dda fyddai hi nid yn unig i gael gwerthusiadau unigol (PADR) ond gwerthusiadau tîm lle mae’r gofal dementia a ddarparwn fel tîm yn cael ei ystyried?

Mae rhai agweddau ar ofal dementia y mae angen i ni eu gwneud hyd yn oed yn well ond mae'r Athro West yn cynghori ein bod yn cymryd amser i stopio, myfyrio, adolygu a dysgu gyda'n gilydd a chydymdeimlo â'r hyn sy'n digwydd cyn cymryd camau i fynd i'r afael â'r hyn yr ydym yn ei ddarganfod. Os byddwn yn cysylltu â ni ein hunain ac â'n gilydd byddwn yn fwy presennol ac yn rhyngweithio ag eraill gyda thosturi a dewrder ac yn cysylltu'n well â'r rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn rhyngweithio â nhw. Mae'n dechrau gyda'r dewrder ar gyfer hunan-dosturi. Ydych chi gyda ni?

Michael. A West 2021, Compassionate Leadership – Sustaining wisdom, humanity and presence in health and social care, The Swirling Leaf Press, UK)

 

 

10/02/2022

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

29/10/2021

Dyma ein pedwerydd mis fel Nyrsys Ymgynghorol Dementia, ac ym mlog y mis hwn rydyn ni'n mynd i ddweud wrthych chi am ein gweithgareddau ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn a gynhaliwyd ar Hydref y 1af 2021.

Yn gyntaf, fe wnaethom ni gynnal gweminar i rannu rhai mewnwelediadau o'n gwaith hyd yn hyn sydd wedi cael eu llywio trwy siarad â llawer o staff a rhywfaint o fyfyrwyr ac arsylwi gofal cleifion a theuluoedd ar draws ein Bwrdd Iechyd.

Gwnaethom rannu sut roeddem wedi gweld rhywfaint o arfer rhagorol yn gyffredinol a sut y canfuwyd bod rôl y Gweithiwr Cymorth Dementia yn hynod lwyddiannus wrth gynyddu safonau gofal dementia a darparu galwedigaeth ystyrlon i'n cleifion. Dywedodd rhai staff wrthym am eu cynlluniau eu hunain i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn â throlïau wedi'u haddurno â baneri, doilis a chacennau ar gyfer te prynhawn, megis y tîm hwn yma!

Amlygwyd llawer o enghreifftiau o ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ogystal â'r angen i ystyried datblygu ein dogfennaeth nyrsio i sicrhau ei bod yn annog gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Nid yw model nyrsio penodol yn cael ei ddilyn ar hyn o bryd ac mae staff yn dibynnu’n fawr ar yr offer ‘Dyma Fi’ sydd wedi’u cwblhau’n dda iawn.

Canfuwyd bod y Pandemig yn amharu ar rywfaint o addysg staff ac nid oedd y symudiad i hyfforddiant ar-lein yn gweithio i bawb. Fe wnaethom amlinellu cynlluniau i adnewyddu hyfforddiant dementia ac yna annog pobl i gyfranogi ynddo ar ôl i ni gwblhau dadansoddiad o ‘anghenion hyfforddi’ i nodi’n gywir pwy sydd â pha anghenion. Yna, byddwn yn ystyried darparwyr allanol a thimau mewnol i ddarparu'r hyfforddiant sydd ei angen.

Gwnaethom siarad am ymgorffori mentrau dementia fel y gallwn gasglu tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio i bwy ac ym mha gyd-destun. Yn bwysig, byddwn yn ystyried yr hyn sy'n gweithio i'r claf, rhywbeth sydd weithiau yn gallu mynd yn anghof yng nghanol prysurdeb darparu gofal. Byddwn yn annog staff i fod yn ymarferwyr adfyfyriol a sefyll yn esgidiau cleifion a theuluoedd a holi eu hunain “ai dyma beth sydd ei angen arnynt ar hyn o bryd”, “sut y gallaf fod yn sicr” ac “a allai dull gwahanol fod yn well ganddynt”?

Yn olaf, fe wnaethom ni rannu ein rhaglen waith a ddaeth o dan sawl pennawd cyffredinol. Wrth i'r ddwy ohonom fynd ati i rannu cyfrifoldebau ein rôl, byddwn yn rhoi gwybod ichi mewn blog diweddarach beth mae'r ddwy ohonom yn canolbwyntio arno. Diolch i'r rhai a gymerodd ran, yn enwedig y Gweithiwr Cymorth Dementia a ymunodd yn ystod eu gwyliau blynyddol - rydych chi'n gwybod pwy ydych chi!

Hefyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, fe wnaethom ni fentro cynnal ‘sgwrs Twitter’ y noson honno gan ddefnyddio ein hashnod safonol #BIPBCdementia y gall unrhyw un ei deipio i’r blwch chwilio ar Twitter. Wrth wneud hyn, bydd yr holl drydariadau (pan fydd yr anfonwr yn cofio cynnwys yr hashnod) yn ymddangos fel sgwrs wedi'i grwpio. Fe wnaethom ni ofyn cyfres o gwestiynau i ysgogi trafodaeth am flaenoriaethau cyfranogwyr ar gyfer dementia yn BIPBC a'u barn ar ein cynlluniau. Fodd bynnag, rydym yn cyfaddef na chawsom fawr o ymgysylltiad yn ystod yr awr sgwrsio Twitter a oedd yn dipyn o arbrawf ac felly rydym wedi dysgu'r wers o hynny!

Roeddem am weld a oedd yn ddull yr oedd pobl yn ei hoffi neu'n fodlon ei ddefnyddio ond gwelsom fod y mwyafrif o sylwadau wedi dod i mewn ar ôl i'r sgwrs Twitter orffen yn ddiweddarach y noson honno neu dros y diwrnod canlynol. Felly, fe gawsom ni adborth o leiaf - ond nid ar ffurf sgwrs yn para awr! Ni fyddem wedi gwybod heb roi cynnig arni, felly os bydd cyfle arall, byddwn yn hyrwyddo'r sgwrs yn ehangach ac yn gofyn i rai hyrwyddwyr a chydweithwyr dibynadwy gyfranogi ac efallai'n defnyddio rhywfaint o gil-dyrnau i ddenu cyfranogwyr! O ran gweminarau, rydyn ni’n gobeithio cael cyfle i gefnogi un ynglŷn â llinellau cymorth dementia ymhen ychydig wythnosau, felly cadwch lygad ar fwletinau digwyddiadau BIPBC ac ati.

Felly ar ôl darllen blog y mis hwn, os oes gennych unrhyw beth am ddementia i'w rannu, gyda Amy a Tracey - boed yn fawr neu'n fach - rhowch wybod i ni. Rydym wrth ein bodd yn rhannu'r gofal rhagorol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yr ydym yn ei weld yn aml ar draws BIPBC, cysylltwch â ni trwy gyfrif Twitter @dementia_nurses neu dros e-bost BCU.DementiaNurseConsultants@wales.nhs.uk

Diolch, Tracey ac Amy

 


13/09/2021

Yn ein trydydd mis fel Nyrsys Ymgynghorol Dementia, rydym yn awyddus i siarad am ein hymagwedd tuag at ymgysylltiad staff.

Rydym wedi bod yn brysur yn ymweld â wardiau yn Ysbyty Maelor Wrecsam a llawer o'r Ysbytai Cymunedol ac mae rhai o'r arferion yr ydym wedi'u gweld neu wedi cael gwybod amdanynt wedi creu argraff fawr arnom.

Llawer o'r hyn yr ydym am ei wneud yn y rôl hon yw nodi arferion da rydych chi'n eu gwneud bob dydd a rhai yr ydym yn gwybod amdanynt yn barod, ond yn rhy aml o lawer nid ydynt yn cael eu rhannu na'u canmol. Mae rhai syniadau a mentrau da yn cael llawer o sylw ac mae'n dda i ni i gyd pan fydd unigolyn neu dîm yn ennill gwobr yn lleol, yn rhanbarthol neu'n genedlaethol. Mae cyhoeddusrwydd yn dda i ni fel Bwrdd. Rhywle ar hyd y broses arloesi, roedd cydweithwyr eraill yn cefnogi'r arloesed hwnnw, boed hynny'n gweithio yn y maes clinigol tra bod yr arloeswyr yn arwain eu prosiect, neu trwy rannu eu barn amdano, hyd yn oed os nad oeddent yn cymryd rhan yn uniongyrchol.

Hoffem bwysleisio bod y pethau bychain yr un mor bwysig. Yn ddiweddar rydym wedi clywed gan Weithiwr Cymorth Dementia am arfer o ddefnyddio lluniau o brydau bwyd go iawn i helpu cleifion i wneud eu dewis ar y fwydlen yn Ysbyty Cymunedol Llandudno. Hefyd, defnyddiodd y Gweithiwr Cymorth Dementia hwn y ddogfen ‘Dyma fi’ i lywio gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, er enghraifft cefnogwyd cariad unigolyn at anifeiliaid egsotig drwy symud y teledu i’w ystafell er mwyn i'r claf allu gwylio'r Sianel Ddaearyddol Genedlaethol yn rheolaidd. Dywedodd aelod o staff wrthym, pan fydd unigolyn â dementia yn ei ofal yn mynegi rhwystredigaeth yn ystod gofal personol, bod ei hoff ganeuon yn cael eu chwarae fel bod y potensial am straen yn cael ei osgoi a bod y digwyddiad yn dod yn hwyl.

Cafodd staff yn Ysbyty Cymunedol Treffynnon wared ar y biceri plastig a rhoi mygiau wedi'u gwneud o ddeunydd sy'n ymddangos fel ceramig â phig urddasol a chuddiedig i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd yfed o gwpan. Hefyd, mae'r Cydlynydd Gweithgareddau wedi addasu'r ystafell gweithgareddau i greu teimlad clud, cartrefol a hwyliog.

Rydym yn bwriadu eich helpu chi i ddod o hyd i fwy o ffyrdd i rannu syniadau da trwy'r cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys ar ein cyfrif Twitter dementia pwrpasol sydd newydd ei lansio (@dementia_nurses). Rydym yn dynodi staff ac eraill a fyddai’n barod i greu blog eu hunain gyda chymorth (neu roi’r deunydd i ni ei ysgrifennu ar eu cyfer neu gael eu cyfweld yn anffurfiol neu eu recordio ar fideo) yn barhaus. Rydym yn awyddus i dderbyn lluniau (gyda chaniatâd priodol lle bo angen) i’w defnyddio, ac rydym yn tynnu ambell lun wrth i ni fynd o amgylch gwahanol safleoedd megis ‘byrddau gwybodaeth’ fel yr un hwn yn Ysbyty Cymunedol Treffynnon.

Er ei bod yn ofynnol i ni weithiau adolygu arferion yn ffurfiol yn ein rolau, mae hyn bob amser am gael ei wneud mewn ffordd werthfawrogol, hynny yw chwilio am arfer da yn gyntaf, nid problemau. Hyd yn oed pan ddarganfyddir anawsterau y mae angen mynd i'r afael â hwy, credwn yn wirioneddol ei bod yn well rhoi cymorth i staff i ddysgu o gamgymeriadau neu anawsterau trwy eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a gofalu amdanynt. Mae staff hapus sy'n cael eu cefnogi'n gallu rhoi gofal cleifion gwych. Yn yr un modd, mae staff sydd â gwybodaeth dda ac sydd â chysylltiad rheolaidd ag arweinwyr hygyrch yn fwy tebygol o gydnabod gwerth cyfathrebu a chefnogaeth dda i gleifion a theuluoedd. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed sut y caiff hyn ei wneud. Hefyd os oes unrhyw un yn defnyddio technoleg wrth ofalu am gleifion dementia neu sydd â nam gwybyddol, neu eu teuluoedd, cysylltwch â ni. Pa mor aml yr ydym ni’n clywed am syniadau da ac yn meddwl, ‘ew, rydym ni wedi bod yn gwneud hynny yn fan hyn ers blynyddoedd’?!

Rydym yn frwdfrydig iawn am ‘Arweinyddiaeth Dosturiol’, hyd yn oed cyn iddo ddod yn ‘boblogaidd’! Rydym yn caru’r llyfr ar y pwnc gan Michael A.West ar hyn o bryd ac rydym yn falch o weld egwyddorion Arweinyddiaeth Dosturiol yng ngwaith Mewn Undod Mae Nerth y Bwrdd. Credwn y bydd tynnu ar yr egwyddorion hyn gyda’r staff yr ydym yn gweithio gyda nhw, yn ogystal â dilyn y camau ein hunain, yn helpu i’w hymgorffori o fewn y Bwrdd. Ar ben hynny rydym am edrych ar ddulliau eraill fel 'Cyd-lywodraethu' a 'Gofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn' (mwy ar y rhain mewn blog i ddod), a allai fod yn gyfryngau delfrydol i helpu staff i ddatblygu a darparu'r gofal y maent am ei roi, hyd orau eu gallu.

Ym mlog y mis nesaf, byddwn yn siarad am Ddiwrnod Rhyngwladol yr Henoed 2021 sy'n cael ei gynnal ar 1 Hydref. Byddwn yn cynnal webinar y diwrnod hwnnw am 4pm a 'sgwrs Twitter' am 7pm, felly cysylltwch os hoffech y manylion i ymuno.

Felly ar ôl darllen blog y mis, os oes gennych unrhyw beth am ddementia i'w rannu, gyda Amy a Tracey - boed yn fawr neu'n fach - rhowch wybod i ni. Rydym wrth ein bodd yn rhannu'r gofal rhagorol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yr ydym yn ei weld yn aml ar draws BIPBC, cysylltwch â ni trwy gyfrif Twitter @dementia_nurses neu dros e-bost BCU.DementiaNurseConsultants@wales.nhs.uk

Diolch, Tracey ac Amy


19/08/2021

Helo pawb! 

Croeso i'n tudalen blog newydd lle fyddwn ni'n rhannu gwybodaeth a newyddion am ddementia ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Tracey Williamson ac Amy Kerti ydym ni, Nyrsys Ymgynghorol Dementia ers dechrau'r swydd hon ym mis Gorffennaf 2021. Bydd ein blog yn ein cynnwys yn brolio arferion gwych yr ydym yn eu darganfod a rhai yr ydych chi wedi sôn amdanynt, gwelliannau gwasanaeth ac arloesiadau sy'n gwella profiad ein cleifion dementia a'u teuluoedd ymhellach. 

Gallwch ddod o hyd i'r fideo lansio a ein datganiad y wasg yma.

Dyma lun ohonom gyda Kirstie Dolphin, Swyddog Cyfathrebiadau wrthi'n ffilmio! 

Os ydych chi'n darllen hwn a'ch bod wedi dod o hyd i'n tudalen blog yn barod, yna dyma ddolen i ch ei rannu gydag eraill! 

Byddwn hefyd yn cynnwys ambell flog gan westai felly cysylltwch â ni os ydych chi awydd ysgrifennu un (mae cefnogaeth ar gael) neu os oes gennych chi syniad am un yr hoffech i ni ei greu. Neu efallai eich bod yn adnabod rhywun a all ysgrifennu un ar ein cyfer ar bwnc diddorol? Yr un fath gyda fideos, rydym yn bwriadu rhannu cyfres o fideos misol am bynciau diddorol yn cynnwys cyflwynwyr arbennig.  Nid dyna'r cyfan! Rydym hefyd yn bwriadu cynnal rhai digwyddiadau byw fel gweminarau, ‘sgyrsiau Twitter’ a digwyddiadau wyneb yn wyneb, pan fydd yn ddiogel i ni wneud hynny!

Mae croeso i bawb ymgysylltu â ni - pob aelod o staff, partneriaid cymunedol, teuluoedd a chleifion, ac aelodau o'r cyhoedd a all fod yn defnyddio ein gwasanaethau yn y dyfodol. 

Felly, os ydych eisiau rhannu rhywbeth am ddementia yn eang, neu'n dawel, gydag Amy a Tracey - waeth pa mor fach neu fawr, cysylltwch â ni ar Twitter ar @dementia_nurses neu e-bostiwch.

Diolch, Tracey ac Amy