Bydd ystafell therapi newydd yn Ysbyty Rhuthun yn helpu pobl yn yr ardal gyfagos i gael mynediad at ofal yn agosach at y cartref.
Bydd yr uned bwrpasol, sydd wedi'i chwblhau fel rhan o ailddatblygiad £3 miliwn yr ysbyty, yn darparu man ar gyfer cydweithwyr ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a phodiatreg.
Mae'r contractwr Read Construction yn awr yn gweithio'n galed ar estyniad pwrpasol i gynnwys gwasanaethau Meddyg Teulu yn yr ysbyty.
Fel rhan o'r cynllun, bydd Meddygfa 'Y Clinig', Rhuthun yn symud o'i adeilad presennol ar Stryd Mount.
Ers dechrau ym mis Mehefin, mae'r gwaith adeiladu hefyd wedi cynnwys datblygu mannau parcio dynodedig yn yr ysbyty, gan helpu i leihau'r baich parcio, sydd wedi bod yn heriol ar y safle.
Dywedodd Rachel Langford, Pennaeth Ffisiotherapi ar gyfer Ardal y Canol: "Mae'r uned therapïau newydd yn rhoi adran newydd, modern, golau a llachar i ni, a fydd yn caniatáu i ni ddarparu gwell gwasanaethau i'r gymuned leol.
"O safbwynt ffisiotherapi, byddwn yn darparu gwasanaethau a thriniaethau ar gyfer cyflyrau cyhyrsgerbydol, iechyd y pelfis, niwroleg a phaediatreg.
"Mae gennym ardal campfa newydd ble byddwn yn gallu dod â chleifion y ward yno ar gyfer adsefydliad, ac mae'r trefniadau swyddfa newydd yn golygu ein bod wedi'n cydleoli gyda'n cydweithwyr Therapi Galwedigaethol i ganiatáu cydweithio agosach ar gyfer cleifion ar y ward yn Rhuthun.
"Ar hyn o bryd, oherwydd COVID, rydym yn cynnig apwyntiadau dros y ffôn, yn rhithiol a ble bo angen, apwyntiadau wyneb yn wyneb, ond yn y dyfodol, rydym yn gobeithio gallu cynnig sesiynau grŵp yn y gampfa newydd."
Bydd y gwaith sydd ar y gweill yn golygu y bydd Cynghrair Cyfeillion yr ysbyty hefyd yn symud i leoliad canolog ar flaen yr ysbyty, a bydd man dynodedig yn cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau trydydd sector, a gweithgareddau megis grwpiau mam a phlentyn.
Dywedodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr Prosiect yr ailddatblygiad: "Mae'n wych gweld y gwaith yn datblygu er gwaethaf heriau ychwanegol y rheolau ymbellhau cymdeithasol a'r tarfu o ganlyniad i COVID-19.
"Mae'r tîm prosiect, ein contractwr a'r staff a fydd yn defnyddio'r cyfleusterau newydd wedi bod yn cydweithio'n wych i wneud cynnydd dros y misoedd diwethaf.
"Mae'r ystafell therapïau’n ddatblygiad trawiadol iawn a bydd yn cynnwys adnoddau sydd wir eu hangen i helpu pobl sy'n byw yn yr ardal hon i gael mynediad at ofal a thriniaeth yn agosach at y cartref."
Mae arferion gwaith diogel ar waith i gefnogi ymbellhau cymdeithasol, gan gadw gweithwyr adeiladu, staff a chleifion yn yr ysbyty a'r cyhoedd yn ddiogel.
Dywedodd Alex Read, Cyfarwyddwr o Read Construction:
“Mae'r prosiect yn cefnogi integreiddiad timau cymuned a gofal cychwynnol a chydleoli timau a gwasanaethau, gan helpu i ddod â gwasanaethau ysbyty yn agosach at gartrefi pobl.”