Bydd cleifion ifanc sy'n ymweld â Ward y Plant yn Ysbyty Gwynedd yn awr yn elwa o ystafell synhwyrau newydd diolch i rodd hael gan Gafael Llaw, elusen leol.
Yn gynharach eleni, dechreuodd y gwaith i wella'r cyfleusterau ystafell ymolchi ar Ward Dewi i fodloni anghenion plant sydd ag anableddau, yn ogystal â chreu ystafell synhwyrau ar Ward Minffordd.
Gwnaed y prosiect £154,000 yn bosibl drwy'r elusen leol yng Nghaernarfon, Gafael Llaw, sydd wedi rhoi £120,000 yn hael iawn tuag at y datblygiad.
Dywedodd Jo Douglas, Rheolwr Gwasanaethau Clinigol ar gyfer Gwasanaethau Paediatreg ac i'r Newydd-anedig: "Hoffem ddiolch i Gafael Llaw a'r gymuned am eu rhoddion hael. Heb eu haelioni, ni fyddem wedi gallu gwella'r amgylchedd i'n cleifion.
"Rwyf yn falch iawn o weld y gwaith wedi'i gwblhau, yn enwedig ein cyfleuster ystafell ymolchi gwell ar gyfer ein plant sydd ag anableddau. Mae'r ystafell ymolchi yn awr yn addas i'w hanghenion, a bydd yn helpu i gynnal eu hurddas.
"Gall plant deimlo'n bryderus yn aml am fod yn yr ysbyty, a gall yr ystafell synhwyrau helpu i leddfu eu hofnau a'u pryderon. Bydd yr offer newydd hefyd yn creu amgylchedd rhyngweithiol a symbylol sy'n tynnu sylw plant sy'n ymweld â'r ysbyty."
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Cadeirydd Gafael Llaw: "Rydym wrth ein boddau yn gweld y prosiect wedi'i gwblhau at safon mor uchel, ac mae'n bleser llwyr i weld y gwahaniaeth y mae eisoes yn ei wneud i'r plant, rhieni a'r staff ar y ward. Rydym wrth ein boddau gyda'r cyfleusterau newydd, ac roedd gweld y wên ar eu wynebau pan wnaethant gerdded i mewn i'r ystafell synhwyrau newydd yn werth chweil.
"Ein hamcan fel elusen yw darparu mynediad at y cyfleusterau a’r gwasanaethau gorau i blant a phobl ifanc o Wynedd a Môn yng ngogledd Cymru, a hyd yn hyn rydym wedi ariannu man chwarae y tu allan, ac wedi uwchraddio rhai o'r ciwbiclau, ac wedi addurno'r ward, yn ogystal â phrynu offer arbenigol. Ein blaenoriaeth bob amser fydd gwella cyfleusterau, ac rydym yn cyflawni hyn drwy drafod anghenion â staff a theuluoedd yn Ysbyty Gwynedd drwy ddynodi sut y gallwn barhau i helpu.
"Fel elusen sy'n cael ei rhedeg yn llwyr gan wirfoddolwyr, rydym yn dibynnu ar haelioni unigolion, cymunedau a chwmnïau, a hoffwn ddiolch i bob unigolyn sydd wedi gwneud y prosiect hwn yn bosibl- ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb ein hunigolion sy'n codi arian a’n gwirfoddolwyr gwych."
Mae'r gofod synhwyrau newydd hwn yn cynnwys nifer o nodweddion gwych yn cynnwys tiwb swigod sy'n newid lliw, goleuadau optig, goleuadau yn y nenfwd, bagiau ffa, ac ystod o declynnau synhwyrau, bydd bob un ohonynt yn diddanu plant yn dda a sicrhau eu bod yn ymlacio yn ystod eu hamser ar y ward.