09/12/2021
Fe wnaeth Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug oleuo ei goeden atgofion Nadolig gyntaf yr wythnos hon, er mwyn i bobl ddathlu a chofio anwyliaid a chleifion sydd wedi'n gadael ni.
Cynhaliodd yr ysbyty ddigwyddiad arbennig i drigolion lleol, cleifion, a staff hongian addurniadau ar y goeden Nadolig er cof am rywun annwyl, a chafwyd ymweliad gan Siôn Corn, gorymdaith llusernau a chorau sef Côr Y Pentan a Chôr Ysgol Bryn Gwalia, o'r Wyddgrug.
Sefydlwyd y goeden atgofion Nadolig gan Diane Sweeney, Cydlynydd Gweithgareddau a Lles yn yr ysbyty. Daeth y syniad iddi y llynedd ar ôl iddi ganfod addurn Nadolig â llun ac enw ar y cefn, ar eu coeden Nadolig y tu allan i'r ysbyty. Canfu Diane fod yr addurn wedi cael ei osod ar y goeden gan Jean, sy'n byw ger yr Wyddgrug, er cof am ei merch, Phillipa.
Dywedodd Diane: “Y llynedd, rhoddwyd coeden Nadolig go iawn i'r ysbyty y gwnaethom ei gosod y tu allan i'r adeilad, gan na allem fod â'n coed a'n haddurniadau arferol y tu mewn oherwydd mesurau atal heintiau COVID-19.
“Pan oeddwn yn tynnu’r addurniadau oddi ar y goeden, deuthum o hyd i addurn â'r enw Phillipa arni, a deuthum o hyd i Jean a oedd wedi ei osod ar y goeden er cof am ei merch, a fu farw yn yr ysbyty flynyddoedd yn ôl.
“Dywedodd Jean wrthyf y byddai, cyn COVID-19, yn anfon blodau i’r ysbyty i staff eu mwynhau ar ben-blwydd marwolaeth ei merch, ond y llynedd, ni chaniatawyd unrhyw flodau yn yr ysbyty, ond cafodd chwaer Jean, Sheila, y syniad o roi addurn â llun ar ein coeden y tu allan.
“Ar ôl sgwrsio â Jean, cawsom y syniad o greu coeden atgofion, ac fe wnaethom ni annog eraill i osod addurn ag enw arno ar y goeden er cof am eu hanwyliaid hefyd, ac rydyn ni wedi cysegru'r goeden er cof am Phillipa.
“Roedd y digwyddiad goleuo ar gyfer ein blwyddyn gyntaf o goeden atgofion Phillipa mor hyfryd, hoffwn ddiolch i'r gymuned am eu rhoddion, i'r ysgolion a gymerodd ran ac i'n Metron a'r holl staff yn yr ysbyty am eu cefnogaeth, ni allem ni fod wedi gwneud hyn hebddynt hwy.”
Goleuodd Jean y goeden yn y digwyddiad yr wythnos hon, a chafwyd siocled poeth a mins peis a roddwyd gan Gynghrair y Cyfeillion, ac fe wnaeth Maer yr Wyddgrug, y Cynghorydd Sarah Taylor a'r Dirprwy Faer, y Cynghorydd Haydn Jones, ddod i'r digwyddiad.
Rhoddwyd y goeden gan Becky Carrol, o Fferm Tŷ Draw, Yr Wyddgrug, ac fe wnaeth JP Engraving and Signs, o Barc Busnes Pandy, wneud seren aur persbecs a ysgythrwyd yn arbennig i'w gosod ar frig y goeden.
Mae un o gyn-gleifion yr ysbyty, sef Simon Morris, o The Personal Present People Company, a gynhaliodd weithgaredd codi arian at yr ysbyty yn ystod cyfnod clo y llynedd, hefyd wedi gwneud seren bersonol ar gyfer Jean y gall hi ei defnyddio yn ei chartref.