Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Maelor Wrecsam yn ennill gwobr diabetes cenedlaethol mawreddog

Tîm Diabetes Oedolion Ifanc Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael ei gydnabod am y gofal gwych y maent yn ei ddarparu i’w cleifion mewn seremoni wobrwyo cenedlaethol diweddar.

Enillodd y fenter 'Gwasanaeth Diabetes Oedolion Ifanc Wrecsam- Dod i ddeall Diabetes' yn y categori 'Mind and Body Healthy Together- Emotional Wellbeing Programmes for People with Diabetes  Children, Young People, and Emerging Adults' yng Ngwobrau Quality in Care Diabetes 2019.

Mae'r categori hwn yn cydnabod mentrau sy'n darparu cefnogaeth lles emosiynol i unigolion sydd ag diabetes o bob oed a/neu eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Mae unigolion sy'n byw â diabetes yn fwy tebygol o brofi gofid seicolegol na'r rhai nad oes ganddynt y cyflwr.  Er mwyn darparu cefnogaeth bellach i gleifion, bu i'r tîm weithio gyda Julie Lewis, Arweinydd Clinigol Diabetes, a Seicolegwyr Clinigol, Dr Jessica Eade, Dr Beth Parry-Jones a Dr Rose Stewart i ddatblygu model arloesol o ddarpariaeth Seicoleg Glinigol a'i brofi, ar gyfer y gwasanaeth gan ddechrau gyda phrosiect peilot 18 mis. 

Dywedodd Dr Steve Stanaway, Diabetolegydd Ymgynghorol:  "Yn wahanol, i'r rhan fwyaf o wasanaethau seicoleg diabetes oedolion ar draws y Deyrnas Unedig, i gynllunio lefel cyfranogiad Seicolegwyr Clinigol gyda'r gwasanaeth, fe wnaethom benderfynu mabwysiadu dull gwbl integredig.

"Roedd hyn yn cynnwys gosod y seicolegydd fel aelod allweddol o dîm diabetes oedolion ifanc, yn eistedd yn y clinig gyda'r Meddyg Ymgynghorol a'r Nyrs Arbenigol Diabetes, a chyfrannu at holl apwyntiadau clinig diabetes. Roeddem hefyd yn gallu dechrau rhaglen sgrinio gwasanaeth cyfan i alluogi adnabod materion seicolegol yn gynnar a'u trin.

"Y bwriad oedd cael gwared ar stigma unrhyw drafodaeth am faterion seicolegol yn llwyr er mwyn atgyfnerthu'r canfyddiad bod y tîm yn gweld iechyd corfforol a meddyliol yr un mor bwysig â’i gilydd."

Cynlluniwyd y byddai'r prosiect yn para blwyddyn i ddechrau, er hynny, oherwydd ei lwyddiant bu iddo gael ei ymestyn am chwe mis pellach er mwyn caniatáu ymyriad parhaus gan y seicolegydd a chasglu data.

Bu i holiaduron adborth ddangos, bod bob ymatebydd yn teimlo ei fod yn fanteisiol iawn iddynt weld y seicolegydd, ac y byddent yn bendant yn ystyried defnyddio'r gwasanaeth eto pe byddent yn wynebu anawsterau tebyg yn y dyfodol. Bu gostyngiad sylweddol yn nifer y derbyniadau gofal brys hefyd.

O ganlyniad i lwyddiant y prosiect, mae Dr Rose Stewart, Seicolegydd Clinigol wedi cael swydd arbenigol barhaol o fewn Gwasanaeth Oedolion Ifanc Wrecsam, ac mae'r gwasanaeth wedi cael ei gynnwys mewn sawl dogfen genedlaethol fel 'safon aur'.

Canmolwyd y gwasanaeth yn ystod y noson wobrwyo, gyda'u rhaglen yn cael ei disgrifio fel 'rhagorol' gan y beirniaid.

Dywedodd y beirniad: "Rhaglen arloesol, anhygoel wedi'i hanelu at helpu un o'r grwpiau cleifion sydd â'r angen mwyaf am wasanaethau cefnogaeth seicolegol.

"Olrhain arbennig o ddangosyddion clinigol pwysig, fydd yn siŵr o ddangos effaith ystyrlon yn y tymor hir. Adborth gwerth chweil gan ddefnyddwyr, a thystiolaeth dda o ymdrechion i ledaenu'r un gwasanaeth i ardaloedd lleol eraill."