Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Maelor Wrecsam yn agor uned Gofal Brys Llawfeddygol yr Un Diwrnod newydd i helpu i wella amser triniaeth cleifion

01/12/2021

Mae uned Gofal Brys Llawfeddygol yr Un Diwrnod (SDEC) newydd wedi agor yn Ysbyty Maelor Wrecsam i gleifion gael mynediad cyflymach a haws ar gyfer cyflyrau llawfeddygol.

Mae SDEC Llawfeddygol ar gyfer cleifion llawfeddygol sy'n oedolion sy'n cael eu cyfeirio gan eu meddyg teulu, y Ganolfan Gofal Cychwynnol Brys, neu sydd wedi cael eu gweld a'u hadolygu yn yr Adran Achosion Brys, i wella amseroedd triniaeth a lleddfu pwysau ar yr ysbyty.

Bydd y gwasanaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn asesu, yn rhoi diagnosis ac yn trin cleifion cymwys yn gyflym cyn eu rhyddhau i fynd adref i wella, heb gael eu derbyn, ac os bydd yn ddiogel yn glinigol, gallai cleifion fynd adref ar yr un diwrnod y maent yn derbyn gofal.

Bydd yr uned yn trin cleifion ar gyfer cyflyrau llawfeddygol amrywiol fel poen stumog difrifol megis appendicitis llym, anawsterau yn ymwneud â hernia, a heintiau ar ôl llawdriniaeth. Nid oes angen llawdriniaeth ar y mwyafrif o gleifion a gaiff eu cyfeirio, ac ar ôl profion diagnostig ac asesiadau, gellid eu rheoli gartref yn hytrach nag fel claf mewnol yn yr ysbyty.

Dywedodd y Pennaeth Nyrsio Dros Dro Ellie Kite: “Mae buddion sylweddol yn gysylltiedig â thrin pobl trwy ein gwasanaethau SDEC Llawfeddygol, gan gynnwys y gallu i gleifion gael eu hasesu ac i dderbyn diagnosis mewn modd amserol, sy'n gwella profiad cleifion, amser cleifion yn yr adran Achosion Brys a lleihau derbyniadau i'r ysbyty.

“Bydd y gwasanaeth yn helpu i osgoi arosiadau heb eu cynllunio a hirach nag sy'n angenrheidiol mewn ysbytai, gan arwain at risg is o heintiau a datgyflyru i gleifion, yn ogystal ag arbed costau i'r ysbyty, ac yn aml i'r cleifion hefyd.”

Dywedodd Kelly Snowden, Uwch Ymarferydd Nyrsio: “Mae Gofal Brys Llawfeddygol yr Un Diwrnod yn athroniaeth gofal lle dylid ystyried pob claf brys yn glaf dydd, sy'n golygu fel claf allanol yn hytrach na'i dderbyn fel claf mewnol, nes profi fel arall, ond yn hanesyddol dyrannwyd gwelyau cleifion mewnol i'r holl gleifion brys gyda'r cysyniad o 'dderbyn i asesu', fodd bynnag dros y blynyddoedd mae'r galw am wasanaethau brys wedi rhagori ar adnoddau ac o'r herwydd mae unedau SDEC Llawfeddygol wedi'u datblygu.

“Nodau ein SDEC Llawfeddygol yw lleihau nifer y cleifion a atgyfeirir gan feddygon teulu sy'n dod i'r Adran Achosion Brys, a chyflymu’r gwaith o brosesu cleifion hunan-gyflwyniadol priodol yr Adran Gwasanaethau Brys a all fod yn addas ar gyfer ein SDEC Llawfeddygol i hwyluso asesiad prydlon, mynediad at wasanaethau diagnostig a mynediad cynnar at uwch wneuthurwyr penderfyniadau, er mwyn dechrau triniaeth o bosibl a chaniatáu ar gyfer rhyddhau'n ddiogel yr un diwrnod neu ddilyniant a/neu ymchwiliad sy'n briodol o ran amser.

“Gellir asesu pob claf sy'n cael ei ystyried yn glaf dydd yn y SDEC Llawfeddygol os yw'n cyflawni'n meini prawf cynhwysiant. Rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn

gyda'n darparwyr gofal cychwynnol i sicrhau y gellir defnyddio'r gwasanaeth hwn yn briodol, a'i symleiddio er mwyn darparu gofal diogel ac effeithlon i gleifion.”

Bydd yr uned hefyd yn cyflwyno Meddyg Ymgynghorol yr Wythnos, a fydd yn galluogi adolygiad cynharach gan feddyg ymgynghorol ac felly diagnosis a thriniaeth gyflymach. Bydd hefyd yn sicrhau fod lle yn yr Adran Achosion Brys yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cleifion y mae arnynt angen gofal brys a sicrhau bod cleifion llawfeddygol yn y lleoliad cywir.