23.03.22
Erbyn hyn, mae cleifion sy’n aros am osod clun neu ben-glin newydd yn cael cynnig mynychu ysgol rithwir am gymalau er mwyn dysgu mwy am eu llawdriniaethau a’u paratoi nhw ar eu cyfer.
Mae’r Ysgol Gymalau yn wasanaeth penodol ar gyfer cleifion sydd ar fin cael clun neu ben-glin newydd. Mae’n canolbwyntio ar addysgu cleifion er mwyn iddyn nhw a’u teuluoedd wybod beth i’w ddisgwyl yn ystod pob cam, o baratoi i fynd i’r ysbyty hyd at wella gartref.
Dechreuwyd datblygu’r cysyniad o raglen addysgu ar-lein i ategu’r sesiynau wyneb yn wyneb cyn dechrau’r pandemig presennol. Cafodd y gwaith mewn partneriaeth gyda Redmoore ELC, ei wneud yn gynt er mwyn ateb y galw gan gleifion a’u teuluoedd/gofalwyr nad ydynt bellach yn gallu mynychu sesiwn wyneb yn wyneb yn yr Ysgol Gymalau cyn llawdriniaeth, oherwydd cyfyngiadau cadw pellter COVID-19.
Er mwyn sicrhau bod cleifion yn parhau i dderbyn y gwasanaeth pwysig hwn, crëwyd cyfres o fideos YouTube gan dîm amlddisgyblaethol. Mae’r rhain yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â pharatoi ar gyfer llawdriniaeth, anesthetig, beth i’w ddisgwyl wrth ddod i’r ysbyty, rheoli poen, llawdriniaeth, ffisiotherapi ar ôl llawdriniaeth a sut i wisgo a mynd yn ôl ati i wneud gweithgareddau bob dydd yn ddiogel.
Mae cleifion sydd ar fin cael llawdriniaeth yn gweld fideo ar-lein cyn cael gwahoddiad i sesiynau rhyngweithiol yr ysgol gymalau rithwir. Yn ystod y sesiynau, maen nhw’n cael cyfle i drafod unrhyw bryderon gyda’r tîm amlddisgyblaethol a chlywed am brofiadau cyn-gleifion sy’n ymuno yn y sgwrs.
Un o’r cleifion hynny yw Mike Tod a gafodd ben-glin newydd fel claf dydd yn Ysbyty Gwynedd ym mis Tachwedd 2020.
Dywedodd: “Mae’r ysgol gymalau rithwir yn syniad arbennig gan ei fod yn golygu bod pob person sy’n cael cymal newydd yn gallu mynychu cyn belled â bod ganddyn nhw gyfrifiadur a’r rhyngrwyd.
“Ar ôl bod yn siaradwr gwadd yn un o’r sesiynau, rydw i’n gweld sut mae’n rhoi cyfle i bobl ofyn cwestiynau ynglŷn â’u triniaeth a beth i’w ddisgwyl. Mae hefyd yn gyfle i’w teuluoedd gymryd rhan a gofyn cwestiynau ynglŷn ag adferiad gartref ac unrhyw feddyginiaethau.
“Yn ogystal â bod yn gyfleus oherwydd nad oes angen teithio, a’i bod yn bosibl ei wneud o’ch cartref eich hun, mae hefyd yn helpu’r blaned drwy leihau allyriadau.”
Mae’r sesiynau’n cael eu harwain gan Sharon Williams, nyrs sy’n gweithio ar Ward Orthopedig, Ysbyty Gwynedd. Roedd hi’n teimlo’n nerfus cyn dechrau’r sesiynau rhithiol.
Dywedodd: “ Rydyn ni’n hen gyfarwydd â chynnal ein sesiynau Ysgol Gymalau wyneb yn wyneb ers sawl blwyddyn felly, roedd hi’n dipyn o newid pan ofynnwyd i ni eu cynnal yn rhithiol.
“Yn bersonol, roeddwn i’n nerfus iawn gan nad oes gen i bron ddim sgiliau technoleg! Ond fe wnes i roi cynnig arni ac rydw i’n ddiolchgar iawn i’m cydweithwyr a wnaeth fy nghefnogi i godi fy hyder i gynnal y sesiynau ar-lein.
“Roeddwn i’n amheus a fyddai’r boblogaeth oedrannus yn derbyn y ffordd newydd hon o ddarparu’r gwasanaeth. Ond mae hi wedi bod yn syndod gweld cymaint sy’n gallu ymuno ar-lein ac ymuno gyda ni yn y fenter newydd hon.
“Mae’n wych cael adborth cadarnhaol ganddyn nhw a’u gweld wedi ymlacio yn eu cartrefi eu hunain yn hytrach na’u bod wedi poeni am deithio neu gael hyd i le i barcio yn yr ysbyty.”
Mae Christine Williams a gafodd ben-glin newydd yn ddiweddar, yn canmol yr adnoddau ar-lein oedd ar gael cyn y llawdriniaeth.
Dywedodd: “Fe wnes i fwynhau’r sesiwn Ysgol Gymalau rithiol yn fawr. Roedd yn addysgiadol dros ben. Roeddwn i hefyd wedi gwylio’r fideos ar-lein cyn y sesiwn ac roedd y rheini’n ddefnyddiol i gael gweld beth i’w ddisgwyl pan fyddwn i’n dod i’r ysbyty.
“Roedd hi’n wych bod gwahanol aelodau o’r tîm clinigol a oedd yn gallu ateb ein holl gwestiynau yn rhan o’r alwad, yn ogystal â’r cyn-glaf a rannodd ei brofiadau o’r llawdriniaeth a’r hyn y gallwn ni ei ddisgwyl.”
Mae’r gwasanaeth ar-lein hefyd wedi ei enwebu ar gyfer dwy wobr yn yr Health Service Journal Awards a gynhelir ddydd Iau, 24 Mawrth 2022.
Dywedodd Mr Muthu Ganapathi, Llawfeddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd sydd wedi bod yn arloesol gyda’r Ysgol Gymalau Rithwir, ei fod yn falch iawn o’r tîm am sefydlu'r gwasanaeth hwn i’w cleifion.
Dywedodd: “Gyda chefnogaeth menter Clinigau Grŵp Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi creu model hybrid sef y cyntaf o’i fath yng Nghymru, ar gyfer rhoi addysg cyn llawdriniaeth i gleifion arthroplasti clun a phen-glin.
“Wrth i ni’n araf ac mewn modd cyfyngedig, ail ddechrau arthroplasti clun a phen-glin, rydyn ni wedi bod yn gwahodd cleifion i’r ysgol gymalau.
“Mae adborth y cleifion wedi bod yn gadarnhaol dros ben.
“Maen nhw’n gwerthfawrogi nad oes rhaid iddyn nhw deithio ymhell gyda’u gofalwyr i fynychu’r ysgol gymalau ac yn ei gweld hi’n haws ymuno yn y trafodaethau o’u cartrefi.
“Er ein bod wedi bod yn bryderus ar y dechrau na fyddai’r fformat ar-lein yn gweithio, mae’r mwyafrif o’r cleifion wedi llwyddo gwylio’r fideos a mynychu’r clinigau grŵp ar-lein rhithiol, gydag a heb gefnogaeth eu gofalwyr.”
Mae’r Bwrdd Iechyd bellach yn bwriadu cyflwyno’r gwasanaeth hwn ar draws y ddau brif ysbyty arall yn y dyfodol agos.