16.03.22
Yn sefyll ar ymyl clogwyn, yn syllu trwy ddagrau ar y creigiau islaw, roedd Aled Griffiths yn meddwl mai ei ben-blwydd yn 21 oed fyddai ei ben-blwydd olaf.
Wedi’i ysgogi gan boenydio dros ei rywioldeb, bwriad y myfyriwr prifysgol oedd nodi ei ben-blwydd carreg filltir trwy neidio i’w farwolaeth.
Diolch byth i’r rhai sy’n ei garu a’r miloedd o bobl ifanc sydd wedi elwa o’i gefnogaeth arloesol yn y 22 mlynedd ers hynny, fe gymerodd Aled gam yn ôl o ymyl y dibyn y diwrnod hwnnw.
Ers hynny mae’r gŵr 43 oed, o Benygroes yng Ngwynedd, wedi rhoi ei yrfa a llawer o’i fywyd personol i helpu pobl ifanc eraill sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl a’u rhywioldeb.
“Er fy mod yn gwybod o oedran ifanc fy mod yn hoyw, doeddwn i ddim yn credu y byddwn i byth yn derbyn fy hun nac yn dod allan,” esboniodd.
“Rhwng 19 a 22 oed roeddwn i’n cael trafferth ddifrifol, a arweiniodd at geisio dod â fy mywyd i ben. Ond yn y curlaw’r diwrnod hwnnw penderfynais fod bywyd yn werth ei fyw ac y byddwn yn rhoi cynnig i fod yn driw i fi fy hun.”
I Aled, roedd bod yn driw i’w hun yn golygu dod allan i’w ffrindiau a’i deulu yn y pen draw a byw’n agored fel dyn hoyw, wrth ddilyn ei angerdd i helpu eraill.
Ar ôl graddio o’r brifysgol, treuliodd 10 mlynedd yn gwirfoddoli â’r Samariaid tra hefyd yn cwblhau gradd Meistr mewn gwaith cymdeithasol ac yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol therapiwtig.
Am y chwe blynedd diwethaf mae wedi gweithio i Wasanaeth Iechyd meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar Ynys Môn, swydd y mae’n ei disgrifio fel ‘y fraint fwyaf’.
“Arweiniodd fy mhrofiad personol at gymhelliant cryf i helpu eraill gyda’u problemau iechyd meddwl,” meddai.
“Gweithio i CAMHS yw braint fwyaf fy mywyd. Does dim teimlad gwell na gweld person ifanc yn credu ynddo’i hun a’i ddyfodol eto ac yn goresgyn yr heriau oedd wedi dod â nhw i gwrdd â mi.”
Yn benderfynol o sicrhau nad yw pobl ifanc lesbiaidd, hoyw, trawsrywiol, cwiar neu’n cwestiynu (LHDTC+) yn wynebu’r un unigedd ag y gwnaeth, yn 2017 sefydlodd Aled Glwb Ieuenctid LHDTC+ cyntaf Gogledd Cymru, â’r elusen pobl ifanc o Gaernarfon, GISDA.
“Roedd athroniaeth y clwb yn syml: creu amgylchedd cynhwysol diogel, a fyddai’n caniatáu i bob person ifanc fod ynddyn nhw eu hunain. O fewn ychydig fisoedd byddai 30-40 o bobl ifanc yn mynychu pob sesiwn, gan deithio ar hyd Gogledd Cymru.
“Mae gan y clwb dros 200 o aelodau bellach ac mae’n cynnig sesiynau wythnosol mewn tri lleoliad o amgylch Gwynedd. Mae’n cynnal cystadlaethau talent, nosweithiau comic-con, gweithdai iechyd meddwl ac iechyd rhywiol, dawnsfeydd Nadolig a gwibdeithiau. Mae llawer o bobl ifanc yn cydnabod yr effaith ar eu hymdeimlad o gynhwysiant cymdeithasol, hunan-barch a hunanwerth, yn ogystal â’u hapusrwydd cyffredinol.”
Mae ymchwil a gynhaliwyd gan yr elusen Stonewall yn amlinellu’r argyfwng iechyd meddwl sy’n wynebu pobl ifanc LHDTC+. Yn syfrdanol, mae 84% o bobl drawsrywiol ifanc wedi hunan-niweidio, tra bod 45% wedi ceisio lladd eu hunain. Ar gyfer pobl ifanc sy’n ystyried eu hunain yn lesbiaidd, hoyw neu’n ddeurywiol, heb fod yn unigolion traws, mae 61% wedi hunan-niweidio, ac mae 22% wedi ceisio lladd eu hunain.
“Rydyn ni’n gwybod bod teithiau unigol ein pobl ifanc LHDTC+ yn gallu bod yn hynod o anodd,” meddai Aled.
“Mae’r ffigyrau hyn yn syfrdanol ac yn tynnu sylw at yr argyfwng parhaus o fewn iechyd meddwl pobl ifanc LHDTC+.
“Mae ymchwilio i fwlio wedi’i dargedu ar LHDTC+ mewn ysgolion yn uwch yng Nghymru na gweddill y DU, gan fod 54% o’n pobl ifanc wedi profi bwlio.
“Dylai’r nod fod i gael cymdeithas ddatblygedig sy’n caniatáu i bobl ifanc fod yn rhydd i fynegi eu hunaniaeth ar draws eu holl amgylcheddau, heb ofni unrhyw ragfarn neu negatifrwydd.
“Hyd hynny mae angen i ni sicrhau ein bod yn creu mannau diogel ar eu cyfer, yn yr ysgol ac yn y gymuned er mwyn iddynt gwrdd â’i gilydd, creu rhwydweithiau cymorth cyfoedion iach a theimlo eu bod yn cael eu cynnwys, eu derbyn a’u gwerthfawrogi am bwy ydyn nhw.”
Mae dwy flynedd ar hugain wedi pasio ers i Aled sefyll ar ymyl clogwyn. Mae’n dweud mai cymryd cam yn ôl a bod yn driw iddo ei hun oedd y penderfyniad gorau y mae erioed wedi’i wneud.
Mae’n annog pobl ifanc eraill sy’n teimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw i estyn allan am help, gan fynnu y gall pethau wella gydag amser a’r gefnogaeth gywir.
“Mae bywyd yn gallu bod yn anodd ac mae credu yn ein hunain a’r dyfodol yn gallu fod yn anodd hefyd, ond dwi’n gwybod bod yna gefnogaeth a derbyniad i bawb, waeth beth fo’u rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol,” meddai.
“Y fersiwn gorau ohonom yw’r un sydd yn driw i ni’n hunain a chredaf y gall pob person ifanc gyrraedd man lle maent yn rhydd, yn gynhwysedig ac yn hapus!
“Rwyf wedi bod mor ffodus i weithio gyda chymaint o bobl ifanc. Maen nhw’n wirioneddol wych ac wedi rhoi cymaint o lawenydd a boddhad i mi. Maent yn werth ein buddsoddiad, ein hamser a’n cefnogaeth. Gadewch i ni barhau i weithio’n galed, a helpu’r genhedlaeth nesaf i beidio â gorfod cerdded yr un llwybr â ni.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc LHDTC+, ewch i wefan Mind.
Mae Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru C.A.L.L ar gael 24/7 i ddarparu cymorth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl yng Nghymru. Ffoniwch: 0800 132 737 neu Tecstiwch: ‘help’ i 81066.