Neidio i'r prif gynnwy

Y tîm fferylliaeth yn ennill gwobr arloesi digidol am effaith bositif ar gleifio

13/01/2022

Mae'r tîm fferylliaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn dathlu ennill gwobr arloesi digidol iechyd a gofal ar gyfer yr effaith bositif y mae prosiect peilot wedi'i chael ar fywydau pobl yng Ngogledd Cymru.

Gwnaeth y tîm dreialu defnyddio meddalwedd o'r enw Information Reporting Intelligence System (IRIS) sy'n caniatáu i fferyllwyr greu adroddiadau dyddiol, wrth weithio gyda systemau gofal iechyd eraill, er mwyn canfod a lleoli cleifion sydd ag Anaf Acíwt i'r Arennau i gael adolygiad yn fwy prydlon gan fferyllydd, mewn adrannau prysur sydd o dan bwysau.

Yn ystod y cyfnod peilot o 19 diwrnod, cafodd 50 o gleifion eu hadolygu gan Fferyllydd Adran Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam lle'r oedd ar 74% o gleifion angen ymyrraeth gan Fferyllydd er mwyn lleihau'r risg o niwed sy'n gysylltiedig â meddyginiaeth ar gyfer Anaf Acíwt i'r Arennau.

Gwnaeth y tîm Fferylliaeth ennill y Wobr am Arloesi Digidol yng ngwobrau blynyddol MediWales, sy'n cydnabod ac yn arddangos cyflawniadau'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru.

Dywedodd Sheila Doyle, Fferyllydd Meddygol Arweiniol: "Rydym yn hynod falch o fod wedi ennill y wobr hon. Er mai prosiect bach oedd hwn, mae'n dangos yr effaith fawr y gall fferyllwyr ei chael ar wella gofal cleifion. Trwy gofleidio datblygiadau digidol ochr yn ochr â sgiliau unigryw fferyllwyr, rydym yn gobeithio rhannu'r gwaith nid yn unig ar draws Betsi ond ar draws Cymru hefyd ac i ddatblygu llwybrau newydd er mwyn hyrwyddo diogelwch cleifion."

Mae'r prosiect peilot wedi cael effaith sylweddol ar fuddion diogelwch cleifion a pha mor hawdd maent yn manteisio ar feddyginiaeth, ac mae'n dangos sut gall mabwysiadu TG a dulliau digitaleiddio wella gofal o ansawdd uchel yn sylweddol i gleifion.

Mae cleifion sydd ag Anaf Acíwt i'r Arennau yn gysylltiedig â chyfraddau marwolaeth uchel, ac mae 20% o gleifion ysbyty'n marw yn ystod eu harhosiad ysbyty ac mae gan y gweddill ohonynt risg o afiechyd cronig yr arennau a hyd arhosiad cynyddol. Mae canfod Anaf Acíwt i'r Arennau yn brydlon ac adolygu'r cyffuriau sy'n gallu ei waethygu neu ei achosi, yn hollbwysig er mwyn lleihau niwed sy'n gysylltiedig â meddyginiaeth.

Dywedodd Emily Rose, Fferyllydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam: "Mae gallu defnyddio technoleg yn ymarferol wedi'n helpu ni fel Fferyllwyr i wella ansawdd ac effeithlonrwydd y gofal y bydd cleifion yn ei dderbyn yn yr Adran Achosion Brys, ac mae wedi helpu i leihau llwyth gwaith a phwysau i aelodau eraill o'r tîm meddygol."

Cafodd y prosiect ei gynnal y gaeaf diwethaf pan oedd Ysbyty Maelor Wrecsam o dan bwysau sylweddol, a phan oedd oedi rhwng cleifion yn mynd i'r Adran Achosion Brys a chael adolygiad gan feddyg.

Gwnaeth y tîm Fferylliaeth gamu i mewn i gynnig ymyriad gan fferyllydd ar adeg derbyn yn hytrach nag ar ôl sawl diwrnod ar ôl derbyn cleifion, er mwyn cadw cleifion

yn ddiogel, lleihau niwed sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau ac o bosibl, helpu i leihau hyd arhosiad.

Gwnaeth y prosiect helpu hefyd i dynnu sylw at unrhyw achosion o golli diagnosis neu gamddiagnosis ac i sicrhau bod unrhyw newidiadau amhriodol a wnaed i feddyginiaeth yn briodol.

Canfu'r prosiect fod potensial clir i gannoedd o gleifion elw ar ddefnyddio'r dechnoleg ddigidol hon mewn Adrannau Achosion Brys ac y gall helpu mewn adrannau prysur sydd o dan bwysau.