Neidio i'r prif gynnwy

Y Bwrdd Iechyd yn cyflwyno hyfforddiant arwain i bobl ifanc

15/06/2021

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi helpu i lansio rhaglen hyfforddiant arwain, y cyntaf o'i bath, i bobl ifanc mewn ysgolion ar draws Gogledd Cymru.

Cynllun peilot bach wedi'i ariannu gan Raglen Drawsnewid Llywodraeth Cymru yw'r rhaglen a chafodd ei chyflwyno ar y cyd gan dîm Gwasanaethau Plant y Bwrdd Iechyd, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a chwmni arfer arweinyddiaeth Do-well (uk) Ltd.

Roedd y rhaglen o'r enw Effaith trwy Straeon yn cynnwys 50 o bobl ifanc 14 oed a throsodd o bedair ysgol yn Sir y Fflint, gyda'r nod o wella dyheadau a gwytnwch pobl ifanc, i ystyried eu rolau fel aelodau gweithgar o gymuned ac mae'n eu cynorthwyo i ddod o hyd i'w lleisiau, ac i wella eu hyder i allu ystyried eu rôl yn y byd a'r hyn y byddent yn awyddus i'w gyflawni y tu hwnt i baramedrau addysg draddodiadol.

Mae'r rhaglen hefyd yn hyfforddi staff yn yr ysgolion fel y gallant barhau i gyflwyno'r rhaglen.

Mae'r cynllun peilot wedi bod yn cyflwyno hyfforddiant 'Arwain systemau a naratif cyhoeddus sy'n cynnig sgiliau naratif cyhoeddus pwrpasol gan gynnwys sut i gyfathrebu ac ymgysylltu'n effeithiol a dysgu sgiliau datblygu arweinyddiaeth newydd.

Dywedodd Christy Hoskings, Arweinydd Rhanbarthol Profiad Cleifion ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn y Bwrdd Iechyd: "Rydym ni i gyd wedi cyffroi'n lân am y rhaglen hon, gan mai hwn yw'r tro cyntaf i'r math yma o raglen arweinyddiaeth ar sail straeon i bobl fanc gael ei chynnal yng Nghymru. Roeddem yn ymwybodol iawn iddi fod yn flwyddyn anodd i'n pobl ifanc, ac roeddem yn gobeithio y byddem yn gallu cynnig rhywbeth newydd ac arloesol iddynt a fyddai'n tanio eu dychymyg, a'u grymuso i deimlo'n hyderus o ran siarad dros y pethau sydd bwysicaf iddynt hwy.

"Mae'r bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen hon wedi fy ysbrydoli gymaint, bydd eu straeon yn aros gyda mi am byth. Os ydw i wedi dysgu rhywbeth, hynny yw bod gan ein pobl ifanc y gallu gwirioneddol i drawsnewid y pethau y mae angen eu newid, mae angen i ni roi'r sgiliau a'r pŵer iddynt wneud hynny."

Dywedodd Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltu Polisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: "Mae'n wych bod yn bartner yn y prosiect peilot pwysig hwn. Ffocws allweddol o'n gwaith cenhadaeth ddinesig gyda phartneriaid yw rhoi cymorth i'n pobl ifanc a'n plant o ran datblygu cenhedlaeth o arweinwyr y dyfodol, gan roi sgiliau allweddol iddynt a'n galluogi i helpu i roi cymorth o ran rhoi cwricwlwm newydd 2022 ar waith."

Dywedodd Ken Perry, Cyfarwyddwr Do-Well: "Mae Effaith trwy Straeon yn unigryw, nid yn unig i Gymru ond ar draws y DU gyfan o ran addysgu technegau arwain pwerus fel naratif cyhoeddus i bobl ifanc er mwyn eu helpu i ddeall sut gallant ddefnyddio eu lleisiau i ddylanwadu ar eraill a'u hysbrydoli a'u hannog i wrando a gweithredu. Mae'n wych gweld partneriaid yng Ngogledd Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ddod â rhaglen arwain Do-Well i bobl ifanc er mwyn rhoi sgiliau arwain iddynt ar gyfer y dyfodol ac i gynorthwyo eu gwytnwch a'u lles."

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi gweithio gydag adran Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint ar y rhaglen a gyflwynir yn Sir y Fflint, a byddwn yn parhau i gyflwyno'r rhaglen ac i'w chefnogi er mwyn ei datblygu ar draws Gogledd Cymru.

Dywedodd Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: "Rydym wrth ein boddau bod nifer o ysgolion yn Sir y Fflint wedi bod ynghlwm wrth y prosiect hwn ac mae'r adborth rydym wedi'i gael wedi bod yn galonogol iawn. Mae tystiolaeth glir ei fod wedi rhoi dealltwriaeth ehangach o arweinyddiaeth i fyfyrwyr a'i fod wedi'u grymuso o ran sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, gan arwain at effeithiau positif yn eu cymunedau ysgol."