Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl: Cyfarfod â'r gwirfoddolwyr sy'n cefnogi unigolion mewn argyfwng yn Adrannau Achosion Brys Gogledd Cymru

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl: Cyfarfod â

Dewch i gyfarfod â'r gwirfoddolwyr ymroddgar sy'n cefnogi unigolion mewn argyfwng yn Adrannau Achosion Brys Gogledd Cymru

Mae gwirfoddolwyr o Ganolfannau Gofal Brys Iechyd Meddwl Mi Fedraf newydd Bwrdd Iechyd Betsi wedi bod yn rhannu eu rhesymau ysbrydoledig am roi o'u hamser i gefnogi eraill fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.

Mae'r tair Canolfan MI FEDRAF, yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd, ac Ysbyty Maelor Wrecsam, yn cefnogi unigolion sy'n dod i'r Adran Achosion Brys rhwng 7pm a 2am, ond nad ydynt angen triniaeth feddygol neu gael eu derbyn i gyfleuster iechyd meddwl.

Mae hyn yn cynnwys unigolion mewn argyfwng am ystod eang o resymau, yn cynnwys o ganlyniad i broblemau iechyd meddwl, camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, perthnasoedd yn chwalu, problemau â dyledion ac unigrwydd.

Yn union fel mae’r bobl sy'n elwa o Ganolfannau Mi Fedraf yn dod o bob cefndir, mae'r 50+ o wirfoddolwyr sy'n cefnogi'r gwasanaeth hefyd yn dod o bob cefndir. Mae gan nifer ohonynt resymau arbennig am roi o’u  hamser i gefnogi eraill pan fydd angen hynny arnyn nhw fwyaf.

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl: Cyfarfod â

Dywedodd Darren Nesbitt o Wrecsam ei fod wedi dod yn wirfoddolwr i roi rhywbeth yn ôl i'r staff yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Maelor Wrecsam a wnaeth ei gefnogi pan oedd yng nghanol ei ddibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol.

Yn awr yn gwella, mae Darren yn defnyddio ei brofiadau ei hun i gefnogi pobl eraill yn ystod eu diwrnodau anoddaf.

Dywedodd: "Dechreuais i wirfoddoli gyda MI FEDRAF i roi rhywbeth yn ôl i fy nghymuned leol.  Roeddwn hefyd eisiau talu fy nyled i'r Adran Achosion Brys, oherwydd fy mod i'n ymweld â'r Adran yn aml flwyddyn yn ôl. Ar y pryd, roeddwn i'n gaeth i alcohol a chyffuriau. Roeddwn i'n teimlo mor unig, ac ar goll, ac roeddwn i wir angen siarad â rhywun gan fy mod i'n byw ar fy mhen fy hun.

"Byddai'r Ganolfan Mi Fedraf wedi bod o gymorth mawr i mi yn ystod y diwrnodau tywyll hynny.

"Mae gwirfoddoli wedi rhoi'r cyfle i mi ddangos fy mod i'n gallu cyfrannu'n ddefnyddiol at gymdeithas, ac rwy'n gallu defnyddio fy sgiliau a'm profiad mewn ffordd dda.  Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant, cyfleoedd i gymdeithasu a'r cyfle i wneud ffrindiau newydd."

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl: Cyfarfod â

Dywedodd Carrie Hargreaves o Gefn Meiriadog ger Llanelwy ei bod wedi cael ei hysbrydoli i wirfoddoli yn ei Chanolfan Mi Fedraf leol ar ôl cael trafferth â galar ar ôl colli ei Mam i ganser y llynedd.

"Mi gollais fy mam y llynedd i ganser ar ôl iddi frwydro am chwe blynedd" eglurodd.

"Rydym yn deulu agos, ac roedd fy mam bob amser yng nghanol popeth. Pan fu farw, roedd yn gymaint o ergyd i ni, ac roeddem ar chwâl.

"Nid oedd gennym neb i siarad â nhw, ac nid oeddem yn gwybod ble i droi. Mae Canolfannau Mi fedraf yn rhoi lle i fynd pan fydd unigolion angen rhywun i siarad â nhw, a byddwn wedi dymuno cael lle fel hyn pan oeddem ei angen.

"Mae helpu eraill yn deimlad sy'n rhoi cymaint o foddhad. Pan fydd unigolion yn dod i siarad â ni, maen nhw'n gallu bod yn bryderus ac yn anhapus iawn.  Mae'n hyfryd gwylio'r gwahaniaeth rhwng yr amser pan fyddan nhw'n dod i mewn ac yna'n gadael.

"Weithiau, dim ond sgwrs a phaned sydd eu hangen ar unigolion i wneud gwahaniaeth yn eu bywydau, ac mae'r ffaith bod gennyf i ran yn hynny yn gwneud gwahaniaeth mawr i mi hefyd. Mae'n rhoi gymaint o foddhad ar gymaint o lefelau gwahanol, ac rwyf wir wrth fy modd.

"Rwy'n cyfarfod unigolion newydd bob amser, ac mae'r holl staff yn y Ganolfan Mi Fedraf mor gyfeillgar a chroesawus.  Mae'n beth gwych i fod yn rhan ohono."

Mae gan Jack Lowe o Feliden ger Prestatyn brofiad personol o sut beth yw byw â phroblemau iechyd meddwl, ar ôl iddo gael trafferth â phryder cymdeithasol, iselder, a hunan-niweidio.  Daeth yn wirfoddolwr er mwyn helpu eraill mewn angen.

Dywedodd: "Y llynedd mi wnes i gyrraedd pwynt isel iawn. Roeddwn yn hunan-niweidio, ac roeddwn eisiau rhoi fy hun yn yr ysbyty. Rwy'n teimlo gyda fy mhrofiad y gallaf ychwanegu at Mi Fedraf, ac efallai y bydd yn helpu i ennyn ymateb gwell gan gleientiaid.

"Mae gwybod eich bod yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun, a bod yno i rywun pan fydd angen hynny arnyn nhw yn rhoi boddhad."

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl: Cyfarfod â

Mae Chelsea Leanne Barton, sydd wedi graddio mewn Seicoleg yn dweud bod gwirfoddoli yn ei Chanolfan Mi Fedraf leol yn Ysbyty Gwynedd wedi rhoi cyfle iddi ddefnyddio ei gwybodaeth a'i sgiliau i gefnogi eraill, a'u datblygu.

Dywedodd: "Mae'r Ganolfan Mi Fedraf yn ffynnu i gefnogi unigolion, gan ddarparu clust i wrando a chefnogaeth emosiynol. Rydym yn rhoi'r gallu a'r hyder i unigolion rannu eu pryder yn gyfrinachol, a rhoi cyngor, a chyfeirio unigolion i'r cyfeiriad cywir.

"Rhan o'm swydd rwy'n ei mwynhau fwyaf yw clywed y geiriau 'diolch', a gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth.

"Pe byddwn yn rhoi cyngor i rywun sy'n ystyried gwirfoddoli gyda Chanolfan Mi Fedraf, byddwn yn dweud ewch amdani, a chymryd y cyfle i wneud gwahaniaeth. Mae'n hanfodol ein bod yn hybu sgyrsiau agored am iechyd meddwl, a chodi ymwybyddiaeth 'ei bod hi'n iawn i beidio â bod yn iawn."

Mae Canolfannau Mi Fedraf yn cael eu cefnogi gan rwydwaith o dros 50 o wirfoddolwyr, a staff cyflogedig o elusennau iechyd meddwl. Ers iddyn nhw gael eu sefydlu ym mis Ionawr, maen nhw wedi darparu cefnogaeth emosiynol i dros 400 o unigolion, gan ysgafnhau'r pwysau ar Adrannau Achosion Brys prysur.

Mae'r gwasanaeth wedi cael ei ehangu yn ddiweddar i gynnwys cefnogaeth i gleifion a gofalwyr ar wardiau ysbyty. Gobeithir y bydd Canolfannau Mi Fedraf yn cael eu sefydlu mewn cymunedau ar draws Gogledd Cymru yn y dyfodol.

Dywedodd Lesley Singleton, Cyfarwyddwr Partneriaethau yn BIPBC:

"Mae Canolfannau Mi Fedraf yn cael effaith fawr ar unigolion sy'n gweld eu hunain mewn argyfwng, ac nad ydynt yn gwybod at bwy i droi yn ystod y nos pan nad yw'r gwasanaethau traddodiadol ar agor.

"Mae eu cyflwyno yn rhan o'n hymdrechion ehangach i wella'r gefnogaeth gymunedol sydd ar gael i unigolion mewn argyfwng iechyd meddwl er mwyn iddyn nhw gael y cymorth amserol sydd ei angen arnyn nhw.

"Rydym mor ddiolchgar i'r nifer o unigolion sy'n rhoi o’u hamser i gefnogi'r gwasanaeth, a byddem wrth ein boddau yn clywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli yn eu Canolfan Mi Fedraf leol."

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda Chanolfan Mi Fedraf, ewch i: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/tudalen/97915 neu e-bostiwch ican@mantellgwynedd.com neu Elaine.ginnelly@mantellgwynedd.com