Mae merch 13 mlwydd oed sydd wedi cael trawsblaniad iau a achubodd ei bywyd yn ymgyrchu i bobl siarad am roi organau.
Cafodd Ella Noon, o Fae Colwyn, ei thrawsblaniad yn Ysbyty Plant Birmingham yn 2008, pan oedd yn ddwy oed, ar ôl iddi gael diagnosis o glefyd yr iau yn fuan ar ôl iddi gael ei geni.
Cafodd y disgybl yn Ysgol Aberconwy ei organ gan ferch 17 mlwydd oed o Swydd Derby a gafodd ei lladd mewn damwain car.
Yn dilyn ei llawfeddygaeth, cafodd y ferch ifanc ei rhuthro i'r uned gofal dwys gyda haint difrifol. Ers ei llawfeddygaeth mae'n parhau ar feddyginiaeth o ganlyniad i system imiwnedd isel ac mae'n mynd i'r ysbyty yn rheolaidd.
Mae Ella’n awr yn benderfynol o annog pobl i siarad yn agored am roi organau er mwyn cynyddu nifer yr organau sy'n cael eu rhoi ac achub mwy o fywydau.
Dywedodd: "Rwy'n deall nad yw'r pwnc yr un hawsaf i bobl siarad amdano ond mae'n bwysig ein bod ni gyd yn cael y sgwrs.
"Rwy'n ddiolchgar iawn am yr organ rwyf wedi'i gael, fe achubodd fy mywyd.
"Rwy'n awyddus iawn i gynyddu ymwybyddiaeth ymysg plant fy oed i - mae'n bwysig iawn eu bod yn deall beth mae rhoi organau yn ei olygu a sut all newid bywyd rhywun.
"Rwy'n awr yn edrych ymlaen at gefnogi Nyrsys Arbenigol Rhoi Organau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i helpu i godi ymwybyddiaeth a hefyd mynychu ysgolion uwchradd yn yr ardal i siarad â nhw am roi organau ac i adrodd fy stori."
Roedd Ella yn un o nifer a oedd yn bresennol yn ystod agoriad diweddar y Gofeb Rhodd Bywyd yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae'r gofeb yn cydnabod y Rhodd o Organau a Meinwe ac yn cynnig man tawel i roddwyr y dyfodol, derbynwyr a'u teuluoedd a staff i fyfyrio a chofio'r rhai sydd wedi rhoi 'Rhodd Bywyd' i eraill.
Cafodd y gofeb ei hagor yn swyddogol gan Vaughan Gething, Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Rowena Thomas-Breese MBE sydd wedi cael trawsblaniad pancreas ac arennau yn 1991 a'i galluogodd i fwynhau chwaraeon cystadleuol.
Dywedodd Phil Jones, Nyrs Arbenigol mewn Rhoi Organau: "Ein gweledigaeth oedd creu cofeb ryngweithiol sy'n ymgorffori rôl y rhoddwr, y derbynnydd a'r timau amlddisgyblaethol sy'n rhan o'r broses.
"Yn ychwanegol, gofyniad canolog oedd cydnabod y Gymraeg a diwylliant a chofeb a oedd yn dosturiol i Ogledd Cymru a oedd yn ymgorffori deunyddiau traddodiadol i'r ardal hon.
"Rydym yn hynod ddiolchgar i Howard Bowcott, a gynlluniodd ac a greodd y Gofeb Rhodd Bywyd, sy'n cydnabod y rhodd o organau a meinwe. Mae hefyd yn rhoi gwrogaeth i'r weithred garedig hon a ddagnosir gan y rhoddwr a’r teulu wrth gyflwyno man addas i fyfyrio ar gyfer rhai sydd wedi cael trawsblaniad."
Mae Wythnos Rhoi Organau yn cael ei chynnal rhwng 2 Medi a 8 Medi ac yn rhoi pwyslais ar garedigrwydd rhoddwyr a'r effaith wych maent yn ei gael ar y rhai sy'n cael trawsblaniad, ac yn gyfle i addysgu pobl, rhoi gwybod iddynt a'u hysbrydoli, i helpu achub a gwella mwy o fywydau.
Eich penderfyniad chi yw p'un ai ydych yn dymuno rhoi eich organau ar ôl i chi farw ai peidio.
Unwaith rydych wedi penderfynu, gallwch ddewis i:
I gofrestru eich penderfyniad ewch ar https://gov.wales/organ-donation/register-your-decision