Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn rhaglen dreialu glinigol sy'n astudio brechlyn ymchwiliol yn erbyn COVID-19.
Mae'r brechlyn wedi cwblhau profion rhagarweiniol mewn pobl yn ddiweddar, gan ddangos canlyniadau cychwynnol addawol ar lefelau gwrthgyrff mewn gwirfoddolwyr iach ac ni nodwyd unrhyw bryderon diogelwch difrifol hyd yma.
Mae angen profi’r brechlyn bellach ar raddfa fawr ac mae astudiaeth sy'n cynnwys 9000 o bobl mewn tua 18 rhanbarth ledled y DU ar gychwyn. Y nod yw recriwtio gwirfoddolwyr 18-84 oed sy'n byw o fewn radiws o 30 milltir i Wrecsam.
Nod yr astudiaeth yw recriwtio sampl gynrychioliadol o'r boblogaeth gyfan felly bydd y rhan fwyaf o bobl yn addas. Fodd bynnag, ni fyddai'r rhaglen dreialu glinigol hon yn addas i'r rhai sy'n cymryd therapi gwrth-geulo (mae aspirin yn iawn) nac unrhyw un sy'n feichiog neu'n bwriadu bod yn feichiog yn y flwyddyn nesaf.
Mae croeso arbennig i gyfranogwyr sydd mewn mwy o berygl o COVID-19 am unrhyw reswm, e.e. oherwydd eu hoedran, eu sefyllfa gymdeithasol neu eu hethnigrwydd. Gwahoddir unigolion sydd â diddordeb i ymuno â gwefan y rhaglen dreialu yma www.preventcovid19trial-uk.com.
Ar gyfer yr astudiaeth bydd gwirfoddolwyr yn ymweld â safle Ysbyty Maelor Wrecsam chwe gwaith dros oddeutu 13 mis. Bydd costau teithio rhesymol yn cael eu had-dalu.
Dywedodd Dr Orod Osanlou, Prif Ymchwilydd rhaglen dreialu Novavax ac Ymgynghorydd mewn Ffarmacoleg Glinigol a Therapiwteg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rwy'n falch iawn y bydd Wrecsam yn cynnal y rhaglen dreialu gyffrous hon ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru a allai, os dangosir ei fod yn effeithiol, fod yn llwybr allan o'r pandemig. Mae'r brechlyn wedi pasio cam I a cham II eisoes sydd wedi dangos ei fod yn ddiogel a byddwn yn annog pobl sy'n agos i Wrecsam i ystyried cymryd rhan yn yr astudiaeth. Mae hyn yn newyddion gwych i bobl Wrecsam ac i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr."
Dywedodd Huw George, Dirprwy Brif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rwy’n falch iawn bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd i gyflawni’r rhaglen dreialu ymchwil brechlyn COVID-19 bwysig hon yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn cael effaith hirdymor ar iechyd poblogaeth Cymru os bydd yn llwyddiannus ac rwy’n annog pobl yng Ngogledd Cymru i gymryd rhan yn yr ymchwil bwysig hon.”
Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n cydlynu ymchwil a’r gwaith o sefydlu’r astudiaeth yn genedlaethol yng Nghymru: "Mae ymchwil yn gwbl hanfodol i ddod o hyd i driniaethau newydd ar gyfer COVID-19, a brechlyn yw'r nod yn y pen draw. Mae'r cydweithio sy'n digwydd ledled Cymru i gyflawni nod cyffredin yn anhygoel ac rwy’n falch bod ymchwilwyr yng Nghymru yn gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol i ddod o hyd i'r triniaethau mwyaf effeithiol. Mae ein cymuned ymchwil a'n staff iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddod o hyd i ateb parhaol i'r pandemig.”
Nodiadau i’r golygyddion:
Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau neu gyfleoedd i gyfweld ag unrhyw aelodau o gydweithrediad Cymru, cysylltwch â Felicity Waters, Pennaeth Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chynnwys yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru felicity.waters@wales.nhs.uk.