Mae technoleg newydd bellach yn caniatáu i staff ysbytai fonitro rhai cleifion canser sydd ar gemotherapi adref yn eu cartrefi eu hunain trwy oriawr glyfar (smart watch).
Mae'r data'n cael ei ddal trwy'r ddyfais sy’n cael ei gwisgo gan y claf ac yna'n cael ei drosglwyddo trwy ap ar ffôn clyfar y claf fel ei fod ar gael i glinigwyr yn Ward Alaw Ysbyty Gwynedd mewn amser real.
Mae'r dechnoleg o fewn y system ‘ADRE-CC (Adopting Digital Remote eCare), wedi ei gynllunio gan gwmni Aparito o’r Deyrnas Unedig, ac mae’n casglu data ar batrymau cysgu, cyfradd curiad calon, tymheredd a lefelau gweithgaredd y claf.
Mae hyn yn caniatáu i staff ysbytai fonitro'r claf yn ddiogel a hefyd yn eu galluogi i adnabod y rhai sydd angen sylw yn gyflym ac a allai orfod dod mewn i'r ysbyty i gael eu hasesu.
Mae'r ap ar gael ar hyn o bryd ar gyfer cleifion Oncoleg a Haematoleg. Meddai’r Dr Pasquale Innominato, Oncolegydd Meddygol Ymgynghorol: “Mae'r dechnoleg hon yn cynnig ffordd inni gadw llygad barcud ar ein cleifion tra'u bod gartref.
“Mae nifer fawr o gleifion â chanser yn derbyn cemotherapi, a bydd rhai ohonynt yn profi cymhlethdodau a allai arwain at orfod mynychu’r ysbyty mewn argyfwng.
“Gall y prosiect ADRE-CC ein helpu i ganfod problemau yn gyflym, eu trin mewn modd amserol a helpu i leihau achosion o orfod dod i’r ysbyty ar frys.”
Ar hyn o bryd mae Catherine O'Keeffe, o Lanfair PG ar Ynys Môn, yn derbyn cemotherapi yn dilyn diagnosis o ganser y fron yn gynharach eleni.
Mae'r fenyw 57 oed yn defnyddio'r ap i gadw mewn cysylltiad â'i thîm clinigol rhwng ei sesiynau cemotherapi yn Uned Alaw.
Meddai:"Rwy'n meddwl ei fod yn wych fod y gwasanaeth iechyd yn gallu cynnig y math hwn o dechnoleg ar gyfer cleifion fel fi.
“Rwy’n cael fy atgoffa’n ddyddiol i lenwi holiadur byr ac mae'n hawdd iawn ei ddefnyddio.
“Mae'n gofyn imi sut rydw i wedi cysgu, a oes gen i unrhyw symptomau pryderus - mae'n tawelu fy meddwl fod y tîm yn yr ysbyty yn cadw llygad arna i.
“Rydw i’n annog cleifion eraill i gymryd rhan yn y prosiect hwn hefyd; mae wedi bod yn brofiad gwych hyd yn hyn i mi.”
Mae Ymarferydd Nyrsio Oncoleg Acíwt, Dawn Griffiths, wedi chwarae rhan allweddol yn y prosiect wrth sicrhau fod cleifion yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio'r dechnoleg, ynghyd â chasglu'r data i'w ddadansoddi ganddi hi a meddyg.
Meddai “Rydym yn falch iawn o allu cynnig y dechnoleg hon i’n cleifion’.
“Mae’n golygu y gall cleifion gymryd perchnogaeth dros eu hiechyd a theimlo'n dawel eu meddwl fod eu cyflwr yn cael ei fonitro gennym ni yn yr ysbyty.
“Mae dewis pa gleifion sy’n addas yn bwysig gan fod angen iddynt fod ar driniaeth ar hyn o bryd, yn gallu defnyddio'r dechnoleg ‘glyfar’ a bod â cysylltiad rhyngrwyd da gartref.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar i Awyr Las sydd wedi rhoi £5,000 tuag at y prosiect. Mae hynny wedi caniatáu inni brynu math gwahanol o oriawr sy'n haws i'r claf ei darllen.
“Hyd yn hyn rydym wedi derbyn adborth da gan ein cleifion sy’n rhan o’r prosiect hwn ac rydym yn gobeithio recriwtio mwy wrth inni fwrw mlaen gyda’r prosiect.”
Ychwanegodd Dr Elin Haf Davies, Prif Swyddog Gweithredol Aparito: "Mae'n anrhydedd ac rydym wrth ein boddau’n gallu cydweithio gyda'r tîm yn Ysbyty Gwynedd i ddatblygu’r ffordd hon o weithredu.
“Wrth i’r byd ddod yn fwyfwy digidol, rydym yn ymdrechu i ddatblygu atebion lle mae’r claf yn ganolog i gefnogi eu gofal. Edrychwn ymlaen at barhau â'r gwaith hwn. "