Mae staff ar y ward lawfeddygol yn Ysbyty Gwynedd wedi diolch i'r gymuned leol am eu cymorth ar ôl codi dros £8,000 er mwyn prynu offer ysbyty.
Dechreuodd y tîm ar Ward Conwy eu hymdrech codi arian i brynu sganiwr pledren newydd yn ôl yn 2017 ac ers hynny, maent wedi codi £8,506.00.
Mae'r digwyddiadau codi arian wedi cynnwys rhostio mochyn, tombola, rafflau a chymorth trwy gemau pêl-droed lleol.
Dywedodd Sioned Jones, Gweithiwr Cadw Tŷ Ward Conwy, sydd wedi cyflawni rôl hollbwysig o ran gyrru'r gwaith codi arian yn ei flaen ers ymuno â'r ward yn 2018: “Rydym ni mor ddiolchgar am gefnogaeth y gymuned dros y ddwy flynedd diwethaf er mwyn cyrraedd ein targed.
“Rydym wedi cael cefnogaeth anhygoel gan fusnesau lleol a hefyd ein cleifion sydd wedi dod i'n digwyddiadau codi arian ac sydd wedi rhoi."
Caiff y sganiwr newydd ei ddefnyddio i fesur cyfaint y bledren yn enwedig i gleifion sydd wedi cael llawdriniaeth.
Gall defnyddio'r sganiwr helpu i atal gosod cathetr yn ddiangen ac i leihau'r risg o heintio.
Ychwanegodd Claire Lisk, Rheolwr y Ward: “Hoffem ni ddiolch i bawb am eu rhoddion caredig sydd wedi'n galluogi i brynu'r sganiwr pledren a fydd yn helpu i asesu cleifion yn gyflym ac yn ddiogel er mwyn sicrhau bod pledrenni ein cleifion yn gweithio ac yn helpu i osgoi heintiau fel sepsis.
“Gwnaeth y tîm yma yng Nghonwy gyfraniadau ac ymdrechion anhygoel, ynghyd â chefnogaeth y gymuned, ac rydw i'n siŵr y bydd yr offer newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n cleifion a'n staff fel ei gilydd."